Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Statws Aur i’r Llyfrgell Genedlaethol

Tue, 07 May 13 09:43:00

Yn ddiweddar, dyfarnwyd statws aur Buddsoddwyr mewn Pobl i Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Mae Buddsoddwyr mewn Pobl yn fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n dangos i bobl eu bod yn gweithio i sefydliad sy’n ceisio gwella perfformiad a chyflawni amcanion cyffredin drwy annog a datblygu eu pobl yn effeithiol.

Meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Rydym ni fel Bwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hynod falch fod gwaith ymroddedig staff y sefydliad wedi'i gydnabod trwy ennill Safon Aur asesiad Buddsoddwyr mewn Pobl yn  ddiweddar. Fel sefydliad, rydym yn hybu cyfleoedd i annog a datblygu ein staff fel bod hyn yn ei dro'n ein galluogi i allu cynnig gwasanaeth o'r radd flaenaf i'n defnyddwyr’

Yn ôl  Buddsoddwyr mewn Pobl:

‘Drwy gyflawni statws Buddsoddwyr mewn Pobl, mae eich sefydliad ar flaen y gad o ran arferion da. Mae’n dangos yn glir i bawb eich bod yn ymrwymedig i welliant parhaus drwy eich prif adnodd: eich pobl’

Ychwanegodd Siân Jones, Rheolwr Adnoddau Dynol:

‘Rydym yn falch iawn o gyrraedd y Safon Aur Buddsoddwyr Mewn Pobl ac mae’n  adlewyrchiad o'r gwaith ardderchog gaiff ei gwblhau gan reolwyr a staff y Llyfrgell, er mwyn sicrhau  ein bod ateb ac yn rhagori yn ateb anghenion ein defnyddwyr.'

Gwybodaeth Bellach:

Elin – Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Dolenni Defnyddiol:
Buddsoddwyr mewn pobl
@IIPtweets

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012