Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Adroddiad ymchwiliad Tân Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Thu, 16 May 13 13:03:00

Crynodeb gan Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth Cymru


Caiff y rhan o’r Llyfrgell a effeithiwyd gan y tân ei adnabod fel Swyddfeydd Trydydd Adeilad y Llyfrgell ar ochr Dde’r safle.  To gwastad sydd i Swyddfeydd Trydydd Adeilad y Llyfrgell, gyda sylfaen concrid a gorchudd to bitwmen, wedi’i drwytho gyda graean.  Roedd cryn dipyn o waith yn cael ei wneud ar do’r Llyfrgell yn gyffredinol.

Cyn y tân, roedd dau weithiwr wedi bod wrthi’n stripio’r gorchudd to oddi ar do gwastad Swyddfeydd Trydydd Adeilad y Llyfrgell, gan ddefnyddio peiriant sgalpio.  Nid oedd modd i’r peiriant i dynnu’r gorchudd to cyfan oddi ar ymylon y to, felly defnyddiodd y gweithwyr lamp losgi propan i gynhesu’r gorchudd to, ac yna fe wnaethant ei sgrafellu gan ddefnyddio offer llaw.  

Ychydig wedi 14.30, roedd un gweithiwr yn defnyddio lamp losgi i gynhesu’r gorchudd to ar ymyl to Swyddfeydd Trydydd Adeilad y Llyfrgell.  Achosodd y lamp losgi i’r pren tu ôl i’r cladin allanol i fynd ar dân.  Ceisiodd dau weithiwr i ddiffodd y tân, fodd bynnag, nid oedd modd iddynt gael mynediad at y cladin allanol o ymyl y to ac ni chafodd tywallt dŵr unrhyw effaith ar ddatblygiad y tân.
Lledodd y tân tu ôl i’r cladin allanol yn gyflym iawn, oherwydd natur sych y defnydd, credwyd mai bwrdd ffeibr wedi’i drwytho â bitwmen ydoedd, a llwch wedi’i drwytho â bitwmen a gynhyrchwyd gan y peiriant sgalpio.

Fe wnaeth un o’r gweithwyr actifadu larwm tân y Llyfrgell a galw Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am    14.38.  Ceisiodd staff y Llyfrgell i ddiffodd y tân gan ddefnyddio nifer o ddiffoddiaduron, fodd bynnag, ni chawsant unrhyw effaith ar ddatblygiad y tân, oherwydd bod y cladin allanol yn diogelu tarddle’r tân. 

Mynychodd cyfanswm o 8 o beiriannau pwmpio, Platfform Ysgol Awyrol, Uned Rheoli Digwyddiad a pheiriant Pwmpio Cyfaint Uchel o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru y digwyddiad i ddiffodd y tân, gan ddefnyddio Platfform Ysgol Awyrol fel twr dŵr, ac amryw o brif jetiau a jetiau rîl pibell. 
Mae’r achos mwyaf tebygol wedi cael ei gofnodi fel pren a aeth ar dân trwy ddamwain, wedi’i leoli tu ôl i’r cladin allanol ar ymyl y to.  Lamp losgi propan wnaeth achosi i’r pren i fynd ar dân.

Gwybodaeth bellach:


Elin Hâf, Swyddfa'r Wasg 01970 632534 post@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012