Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Nodiadau- maes

Fri, 07 Jun 13 16:02:00

Iwan Bala a Menna Elfyn
8 Mehefin – 31 Awst 2013

Bydd yr arlunydd Iwan Bala a’r bardd Menna Elfyn yn cyfuno geiriau a delweddau mewn deialog greadigol ynglŷn â’u diddordeb mewn iaith, hunaniaeth a lle mewn arddangosfa arbennig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru Aberystwyth rhwng 8 Mehefin a 31 Awst 2013.

Arddangosfa ar y cyd yw Nodiadau-maes gan yr artist Iwan Bala a’r bardd Menna Elfyn. Ers blwyddyn a mwy, mae pytiau o gerddi Menna, rhestrau o enwau llefydd Cymraeg, enwau teuluol, traethodau beirniadol a chyfeiriadau gwasgarog eraill wedi ysbrydoli a chynnal lluniadau Iwan. O’u cyflwyno ar ffurf astudiaeth sydd ar y gweill, mae’r geiriau hyn, sydd wedi’u darnio, eu rhwygo, eu crafu allan a’u trwytho mewn inc, yn mynegi gerwinder herfeiddiol – yn drosiad am freuder ieithoedd yr ymylon – dim ots faint y cânt eu rhwbio allan, eu sychu i ffwrdd, eu gadael i wywo, maen nhw’n dal i oroesi.

Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

‘Rydym yn falch iawn i allu cynnal arddangosfa sy’n cythruddo’r meddwl gan ddau o artistiaid mwyaf dylanwadol Cymru, Menna Elfyn ac Iwan Bala. Mae’r arddangosfa hon yn berthnasol iawn i’r Llyfrgell, a hynny yn bennaf oherwydd y cysylltiad cryf gyda diwylliant treftadaeth Cymru ar bwriad o rannu gwybodaeth o fewn cymunedau’

Mae Iwan Bala’n darlunio geiriau ac ymadroddion Menna Elfyn â siarcol pŵl, sialc brau a phinnau inc bambŵ, gan greu llinellau o lythrennau sy’n awgrymu diferiad graddol. Cyfeirir at ein cysylltiad â’r llefydd sydd o’n cwmpas, yn ogystal â’n hymwahanu diarbed oddi wrthynt yn y gymdeithas gynyddol fyd-eang hon.

Trwy gydol yr arddangosfa, gwelir geiriau’n diflannu ac yn ailymddangos rhwng staeniau inc a llwch sialc mewn proses debyg i’r modd y bydd bardd yn gweithio cerdd. Mae eu brwydr i gael eu gweld a’u darllen yn gyffelyb i broses y bardd o feddwl, gwneud nodiadau, ysgrifennu ac ailysgrifennu, yr ymdrech i ganfod y geiriau gorau i’w defnyddio.

Ariennir y arddangosfa deithiol hon a guradwyd gan Oriel Myrddin Gallery gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy raglen Interreg 4a er mwyn datblygu sgiliau lefel uwch ymysg ymarferwyr creadigol yn Ne Orllewin Cymru a De Ddwyrain Iwerddon.

Meddai Meg Anthony, Oriel Myrddin Gallery:

‘Bu’n bleser gweithio gydag Iwan Bala a Menna Elfyn. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant iddynt am eu blaengarwch a’u sensitifrwydd yn meithrin y syniad am Nodiadau-maes ac yna’n gwireddu’r syniad hwnnw'

Gwybodaeth bellach

Elin- Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Darlith yn yr Oriel
Nodiadau-maes
Iwan Bala
Dydd Gwener 26 Gorffennaf 1.15 p.m
Tocynnau




Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012