Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Copi - lansio gwasanaeth newydd

Mon, 17 Jun 13 09:31:00

Eleni, bydd stondin newydd i’w weld ar faes yr Eisteddfod, sef Copi. Bydd Copi yn cynnig cyfle i eisteddfodwyr brynu copi DVD o  gystadlaethau, seremonïau a chyngherddau’r Eisteddfod.

Mae’r gwasanaeth yma’n cael ei gynnig gan Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, gyda chydweithrediad Eisteddfod Genedlaethol Cymru a BBC Cymru.

Yn ddiweddar, daeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sydd wedi’i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn gartref i’r casgliad cyflawn hwn o weithgareddau’r Eisteddfod – casgliad sy’n dyddio’n ôl i Eisteddfod Genedlaethol Môn 1999.

Nid yn unig y bydd modd prynu copiau o’r Eisteddfod eleni, ond bydd hefyd opsiwn i brynu copiau o eitemau o unrhyw Eisteddfod ers 1999. Bydd modd cysylltu â’r Archif Sgrin a Sain wedi wythnos yr Eisteddfod hefyd i archebu.

Dywedodd Dafydd Pritchard, Rheolwr Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru:

“Mae hi yn fraint cael derbyn y casgliad yma i’r Archif a’u diogelu i’r dyfodol. Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau’r fenter newydd hon, ac i ddarparu’r gwasanaeth yma i Eisteddfodwyr eleni.”

Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru:

“Mae'r Eisteddfod yn croesawu'r bartneriaeth gyda'r Llyfrgell Genedlaethol ac yn edrych ymlaen at gyfnod o gydweithio rhwng y ddau sefydliad.”

Bydd yr Archif hefyd yn gyfrifol am drwyddedu’r deunydd i gwmnioedd cynhyrchu sydd eisiau darlledu clipiau o Eisteddfodau. Ceir mwy o fanylion am y gwasanaeth yma, ynghyd â phrisiau ar y wefan


Gwybodaeth Bellach:
Anwen Pari Jones AGSSC 01970 632535 neu copi@llgc.org.uk

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012