Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Awduron Cymru: The Oxford Book of Welsh Verse a John Cowper Powys

Mon, 08 Jul 13 13:50:00

Haf 2013 - Chwefror 2014


Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, yn arddangos gwaith John Cowper Powys a The Oxford Book of Welsh Verse mewn arddangosfa arbennig dros y misoedd nesaf.

Cawn gipolwg ar hanes cyhoeddi The Oxford Book of Welsh Verse a gyhoeddwyd hanner can mlynedd yn ôl, ynghyd â’r ymateb amrywiol a gafodd blodeugerdd nodedig Syr Thomas Parry; blodeugerdd sydd yn dal i gael ei defnyddio mewn ysgolion a phrifysgolion ar draws Cymru.

Bydd yr arddangosfa arbennig hon yn dangos llawysgrifau gwreiddiol rhai o’r cerddi sy’n ymddangos yn The Oxford Book of Welsh Verse, llythyron yn dangos y berthynas rhwng Syr Thomas Parry â nifer o Gymry blaenllaw’r dydd, adolygiadau o’r gyfrol a pheth o hanes blodeugerddi eraill yn yr iaith Gymraeg.  

Bydd yr arddangosfa hefyd yn canolbwyntio ar waith John Cowper Powys. Yn awdur nofelau, barddoniaeth, gweithiau athronyddol a thraethodau, cyhoeddodd John Cowper Powys dros hanner cant o weithiau llenyddol yn ystod ei fywyd, ond cafodd ei ddisgrifio fel ffurf o Marmite llenyddol yn sgil ei ddychymyg a’i arddull ryfedd.

Cawn ein cyflwyno i rai o lawysgrifau cynharaf nofelau enwocaf John Cowper Powys, Wolf Solent ac A Glastonbury Romance, a hefyd yn datgelu agweddau o’i fywyd personol trwy lythyron i’w gymar bywyd Phyllis Playter a llenorion megis E.E. Cummings a Henry Miller, ynghyd â’r dyddiaduron a gadwodd tra yn America a Gogledd Cymru. 

Dylanwadodd y cysylltiad â Chymru a oedd ganddo trwy deulu ei Dad a thrwy ei gyfnod yng Ngogledd Cymru yn drwm arno, ac yn yr arddangosfa hon gellir gweld sut y bu i hanes a chwedloniaeth Cymru effeithio ar ei waith llenyddol.
  
Meddai Mari Elin Jones, Swyddog Dehongli Llyfrgell Genedlaethol Cymru a churadur yr arddangosfa:

‘Gydag oriel benodol i arddangos gweithiau llenyddol o gasgliadau'r Llyfrgell yma yn ffurf Byd y Llyfr, rydym yn falch iawn i allu arddangos gwaith John Cowper Powys, llenor rhyfeddol nad yw wedi cael y sylw haeddiannol hyd yma, ynghyd â detholiad unigryw o lawysgrifau beirdd yr Oxford Book of Welsh Verse.  Gobeithiwn y bydd nifer o bobl yn manteisio ar y cyfle hwn i ymweld ag arddangosfa sy’n dod â chasgliadau amryfath y Llyfrgell i’r amlwg.’

Yn 1962 y cyhoeddwyd The Oxford Book of Welsh Verse, ond yn 1963 y cafwyd yr ymateb llymaf iddo. Yn ei gyflwyniad yn y Drwm ar y 17eg o Orffennaf bydd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn egluro pwy a berswadiodd Gwasg Clarendon i’w gyhoeddi, beth oedd egwyddorion y golygydd wrth ddewis y farddoniaeth, pwy a’i cynorthwyodd, a sut ymateb a fu iddo. Ceir golwg newydd yma ar berthynas Thomas Parry a nifer o Gymry blaenllaw’r dydd, T.IFor Rees, Saunders Lewis a Gwenallt yn eu plith.
Yn dilyn ei ddarlith, bydd yr Athro Morgan yn lansio ei lyfr newydd Y Brenhinbren  a gyhoeddwyd gan Gwasg Gomer. Llyfr a fydd yn trafod bywyd a gwaith Thomas Parry.


Gwybodaeth bellach:

Elin-Hâf 01970 632534 neu post@llgc.org.uk

Darlith Awr Ginio:
Hannercamlwyddiant yr Oxford Book of Welsh Verse
Yr Athro Derec Llwyd Morgan
Dydd Mercher 17 Gorffennaf am 1.15 p.m.
Mynediad am ddim trwy docyn
#awrginio





Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012