Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

John Petts: Dyluniadau Ffenest Gwydr Lliw

Wed, 11 Sep 13 15:18:00

"An idea doesn't exist unless you do something about it” John Petts

Bydd dyluniadau ffenest gwydr lliw gan un o gerfwyr pren amlycaf yr ugeinfed ganrif; John Petts i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan 14 Rhagfyr 2013.

Hanner can mlynedd yn ôl ar 15 Medi 1963, plannodd y grŵp eithafol y Ku Klux Klan fom yn Eglwys Fedyddwyr 16th Street Birmingham yn Alabama, gan ladd pedair merch ddu a oedd yn mynychu’r Ysgol Sul yno.

Cyffyrddodd y weithred hon o derfysgaeth â chalonnau’r Cymry, yn enwedig yr artist John Petts a oedd ar y pryd yn byw yn Llansteffan.  Cynigiodd ei wasanaeth drwy ddylunio ffenest gwydr lliw newydd ar gyfer yr eglwys, a gyda chymorth y Western Mail lansiodd ymgyrch i godi arian ar gyfer yr apêl.  Dwysaodd yr ymgyrch wrth i’r arian lifo i mewn oddi wrth y werin a’r miloedd, gyda'r Western Mail yn cyhoeddi delweddau o resi o bobl Gymreig o bob tras yn aros i roi’r hyn oedd ganddyn nhw tuag at yr achos.

Ymwelodd Petts â’r eglwys gan weithio ar y dyluniad dros gyfnod o flwyddyn ac mae’r astudiaethau a’r dyluniad terfynol gan Petts, yn darlunio Crist croenddu gyda’i freichiau ar led, a oedd yn cael ei ystyried ar y pryd yn ddadleuol i’w gweld yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Yn 1965, gosodwyd y ffenest yn ei lle, wedi’i chyflwyno gyda’r geiriau ‘Given by the people of Wales’.
Heddiw, mae’r ffenest yn cael ei hadnabod fel y ‘Wales Window’ ac y mae’n symbol eiconig o’r mudiad hawliau sifil Americanaidd.

Meddai Jaimie Thomas, Swyddog Arddangosfeydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru:
“Mae’r cynlluniau cywrain yma wedi eu trysori gan y Llyfrgell Genedlaethol ar ran y genedl, nid yn unig oherwydd eu rhagoriaeth artistig a gwerth hanesyddol, ond fel symbol o garedigrwydd y Cymry. I gofio am y drychineb, mae’r dyluniadau wedi cael eu digido fel rhan o’n casgliad ar-lein, a gall ymwelwyr â’r Llyfrgell weld y dyluniadau gwreiddiol mewn arddangosfa hyd ddiwedd y flwyddyn”

Mae’r ffenest wydr lliw dal i’w gweld hyd heddiw yn Eglwys Fedyddwyr 16th Street Birmingham yn Alabama ac yn arwydd o undod rhyngwladol ac yn gof o’r bywydau a gollwyd ym mis Medi 1963.

Gwybodaeth bellach:
Elin Hâf, Swyddfa’r Wasg 01970 632471 neu post@llgc.org.uk

John Petts – Gwydr Lliw
14 Medi –14 Rhagfyr 2013

Cofnod Blog

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012