Tue, 01 Oct 13 15:25:00
Heddiw, 1af Hydref, bydd disgyblion Ysgol Gynradd Trelai, Caerdydd yn guraduron campwaith byd-enwog fel rhan o Eich Paentiadau: Campweithiau mewn Ysgolion, menter newydd i ysbrydoli pobl ifanc a’u hannog i archwilio casgliad cyfoethog ac amrywiol y DU o baentiadau.
Bydd Eich Paentiadau: Campweithiau mewn Ysgolion yn mynd â detholiad o baentiadau enwog gan arlynwyr tebyg i Gainsborough, L. S. Lowry, Monet, Spencer a Turner, sy’n werth amcangyfrif o £14 miliwn, i mewn i 27 o ysgolion ar draws y genedl. Mae hon yn fenter y Sefydliad Catalog Cyhoeddus (PCF), dan arweiniad yr artistiaid cyfoes Prydeinig Bob a Roberta Smith a John Byrne a chaiff ei chefnogi gan BBC Learning.
Bydd Ysgol Gynradd Trelai yn defnyddio’u gwaith celf i ddarparu ysbrydoliaeth trwy gydol y diwrnod ysgol ac ar draws y cwricwlwm. Bydd disgyblion ac athrawon yn defnyddio’r gwaith celf fel sbardun creadigol mewn gwersi’n cynnwys llythrennedd, celf a rhifedd. O greu eu paentiadau eu hunain i ddysgu sut mae gwerthfawrogi campweithiau celf, bydd y disgyblion yn curadu eu oriel gelf eu hunain y gall eu rhieni a’u hathrawon ddod ar ymweliad.
Wedi ei lansio ym Mis Mehefin, 2011, mae’r safle ar hyn o bryd yn dangos dros 200,000 o baentiadau olew o 3,200 o leoliadau casgliadau ar draws y DU. Dyw tua 80% o baentiadau’r genedl ddim i’w gweld yn unrhyw fan a doedd dim lluniau wedi cael eu tynnu o’r mwyafrif helaeth cyn i’r Sefydliad Catalog Cyhoeddus gychwyn ar y gwaith yn 2003. Mae’r prosiect hwn wedi gwella’n ddramatig hygyrchedd gwaith celf y genedl sy’n eiddo cyhoeddus.
Bydd arbenigwyr o’r amgueddfa neu oriel lle mae pob darlun yn cael ei arddangos fel arfer yn teithio gyda’r campwaith, ac fe fyddan nhw wrth law i gynnig sgyrsiau neu gyngor arbenigol yn ystod y dydd.
Yn cefnogi’r gweithgareddau yma, bydd gwefan y BBC yn cynnwys sioeau sleidiau wedi eu seilio ar y cwricwlwm, fydd yn llawn syniadau ar gyfer defnyddio’r paentiadau yn yr ystafell ddosbarth. Wedi eu cynllunio i ddefnyddio celf o bwys mewn dysgu ac addysgu, bydd proffiliau o wahanol yrfaoedd yn y byd celf yn cyd-fynd â nhw. Mae’r wefan eisoes yn cynnwys nifer o adnoddau y gall athrawon eu defnyddio, yn cynnwys canllaw i arddulliau a mudiadau celfyddydol; bywgraffiadau o rai o artistiaid mwya’r byd; a dros 200,000 o weithiau celf ynghyd â manylion am ble y gellir eu gweld.
Bydd mwy o wybodaeth am y prosiect Campweithiau mewn Ysgolion, yn cynnwys enghreifftiau o ddarnau o waith grëwyd gan fyfyrwyr mewn ysgolion sy’n cymryd rhan, yn cael eu rhoi ar wefan arbennig, y gellir mynd iddi o Eich Paentiadau unwaith y bydd y prosiect wedi ei gychwyn.
Dywedodd Bob a Roberta Smith: ‘Mae rhoi darnau o gelf pwysig mewn ysgolion yn brosiect ardderchog; mae pob plentyn yn haeddu nid yn unig cael gwerthfawrogi a deall celf ond hefyd i gael profiad uniongyrchol o weithio gyda defnyddiau. Mor gyffrous yw cael gwaith celf anhygoel yn eich ysgol ac yna mynd i’r ystafell gelf i greu rhywbeth cyffrous eich hun.’
Dywed John Byrne: ‘Rydw i’n edrych ymlaen yn eiddgar i gael cymryd rhan yn y prosiect hwn. Rydw i’n cofio pa mor bwysig roedd gwersi celf i mi pan oeddwn yn blentyn; fe ysbrydolon nhw fi i dynnu lluniau i blant eraill ar y maes chwarae.
‘Pan oeddwn i’n ddim ond deg oed yn ysgol gynradd Our Lady of Lourdes, fe deithion ni i Glasgow bob dydd Sadwrn am chwe mis i weld ffilmiau ar yr artistiaid mawr Samuel Palmer, William Blake, Rembrandt a mwy. Roedd hyn yn ysbrydoliaeth ffantastig ac rydw i wedi cofio’r profiad hyd heddiw, a gobeithio y bydd y prosiect gwych hwn yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o artistiaid.’
Dywedodd Saul Nassé, Rheolwr, BBC Learning: ' Rydyn ni’n gwybod bod profiadau uniongyrchol yn gallu trawsnewid dysg plant. Mae’r cyfle i weld campwaith dilys mewn ysgol lle maen nhw’n creu eu celf eu hunain yn siŵr o ysbrydoli’r myfyrwyr i gyflawni hyd yn oed mwy.'
Dywed Andrew Ellis, Cyfarwyddwr y PCF: ‘Mae codi ymwybyddiaeth o gasgliad cyfoethog y genedl o waith celf yn ganolog i waith y PCF. Mae Campweithiau Mewn Ysgolion yn mynd â gweithiau o bwys i mewn i’r ystafelloedd dosbarth i annog diddordeb mewn disgyblion ifanc. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y plant i gyd yn cofio am byth y diwrnod y daeth gwaith gan Monet, Turner neu Gainsboroug i’w hysgol.
‘Mae’r PCF yn ddiolchgar i’r BBC, a’r 27 o amgueddfeydd ac ysgolion am gefnogi’r rhaglen unigryw hon. Fe hoffen ni hefyd ddiolch i’n noddwyr hael Hiscox.’
Bydd Campweithiau Mewn Ysgolion yn cael ei gynnal mewn ysgolion Cynradd ac Uwchradd ar draws y DU o’r 1af i’r 18fed o Hydref.
Gwybodaeth Bellach:
Elin-Hâf, 01970 632471 neu post@llgc.org.uk