Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cymru a Chaethwasiaeth – Arddangosfa Deithiol

Mon, 17 Sep 07 15:47:00

 


Mae’r fasnach draws-Iwerydd mewn caethweision yn gysgod ar ein hanes, gydag oleiaf 12 miliwn o bobl wedi’u cymryd dros fôr yr Iwerydd yn gaethweision. I nodi 200 mlynedd ers pasio’r Ddeddf i ddiddymu’r fasnach, bydd arddangosfa newydd sy’n procio’r meddwl yn dod i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Hydref, yn dwyn y teitl 'Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth'. Rhydd gyfle i ymwelwyr edrych ar rôl Cymru yn y fasnach mewn caethweision a’r frwydr yn ei herbyn. 


 


Mae’r arddangosfa yn adrodd hanes y berthynas rhwng Cymru a chaethwasiaeth, yn dechrau dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, ar hyd erchylltra’r llwybrau caethwasiaeth traws-Iwerydd, i’r byd modern. Dyma fersiwn deithiol y brif arddangosfa, sy’n cael ei harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe ar hyn o bryd. Gellir gweld yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth o 8 Medi tan 3 Tachwedd 2007.


 


Wrth groesawu’r arddangosfa, dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd y Llyfrgelll Genedlaethol: "Roedd y fasnach draws-Iwerydd mewn caethweision yn gysylltiedig â nifer o agweddau ar ddatblygiad cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd Cymru, a chafodd effaith ar bron pawb. Bu pobl Cymru hefyd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth: yn lobïo llywodraethau, yn helpu caethweision a ddihangodd ac yn ymgyrchu dros hawliau dynol. Mae’r arddangosfa yn edrych ar gefnogwyr a gwrthwynebwyr y fasnach mewn caethweision yng Nghymru, ac yn egluro olion caethwasiaeth mewn cerddoriaeth gyfoes a diwylliant poblogaidd. Mae nifer o’r archifau sydd yn yr arddangosfa yn dod o gasgliadau’r Llyfrgell ac yn cael eu harddangos am y tro cyntaf erioed."


 


Agorwyd yr arddangosfa’n swyddogol ar ddydd Mercher 12 Medi gan Yr Athro Charlotte Williams, sy’n adnabyddus am ei llyfr am ei magwriaeth fel merch ddu yn Llandudno yn yr 1960au, 'Sugar and Slate'. Ennillodd y llyfr wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2003.


 


Meddai’r Gweinidog dros Dreftadaeth, Rhodri Glyn Thomas, "Mae 2007 yn amser i feddwl am drafferthion y gorffennol a dysgu oddi wrthynt, ac i dalu teyrnged i’r rheini a fu’n ymgyrchu dros ddiddymu’r fasnach. Byddwn yn annog pobl o bob oed i gymryd yr amser i ymweld â’r arddangosfa hon, sydd hefyd yn gofyn cwestiynau pwysig am hunaniaeth, hawliau dynol a ffurfiau cyfoes ar gaethwasiaeth."


 


Bydd tair set o’r arddangosfa yn teithio dros Gymru tan 2009. Gellir gweld 'Traed mewn Cyffion' yn Amgueddfa Nelson, Sir Fynwy ac Amgueddfa ac Orielau Gwynedd Bangor tan ddiwedd yr Hydref.


 


Crëwyd 'Traed mewn Cyffion' trwy bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, Bangor a CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru - rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae fersiwn deithiol yr arddangosfa wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.


 


Am rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  sij@llgc.org.uk


 


Mae’r arddangosfa ar agor rhwng 8 Medi – 3 Tachwedd 2007

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012