Mon, 17 Sep 07 16:54:00
Mae Canolfan ddydd Plas Lluest sy’n cynnig gwasanaeth i unigolion gydag anhawsterau dysgu, wedi agor ei harddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ddydd Gwener 7 Medi. Mae’r arddangosfa, 'Ein Llyfrgell trwy Ddistawrwydd a Sain' yn gasgliad amlsynhwyraidd o weithiau celf gan aelodau o Brosiect Celf Plas Lluest i ddathlu 100 mlynedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd modd cyffwrdd â'r eitemau sy’n cynnwys Braille, defnydd a phapur a gwylio clipiau fideo a dynnwyd gan yr artistiaid yn ystod eu taith.
Mae Plas Lluest yn cynnig gwasanaeth dydd i 22 o bobl o Geredigion gydag anhawsterau dysgu mewn gweithgareddau dydd i ddydd. Mae mynychwyr Plas Lluest yn weithgar mewn amrywiol weithfannau oddi fewn ac o amgylch Aberystwyth gan gynnwys gweithio mewn archfarchnadoedd, bwytai, modurdai ac amrywiol dyddynnod. Mae prosiectau Plas Lluest yn cynnwys mynd â chŵn am dro, garddio a siopa i’r henoed ac mae cyswllt cryf rhwng y gymdeithas â’r Coleg lleol a Chanolfan y Celfyddydau. Neges genhadol yr elusen yw “i gefnogi bobl gydag anhawsterau dysgu i fyw bywyd i’r eithaf.”
Sefydlwyd y bartneriaeth rhwng Plas Lluest a Llyfrgell Genedlaethol Cymru 5 mlynedd yn ôl pan drefnwyd arddangosfa o waith 6 person oedd yn dangos arwyddion creadigol addawol. Ym mis Tachwedd 2005, bu arddangosfa arall gan 8 o bobl dan y teitl ‘Aber yn yr Haf’ yn dangos gwaith a ddatblygwyd ganddynt yn ystod yr haf blaenorol.
“Mae Plas Lluest wrth eu boddau i fod yn rhan o ddathliadau Canmlwyddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru eleni. Cafodd 8 o’n hartistiaid daith bleserus o amgylch y Llyfrgell ym mis Ebrill ac yn dilyn hyn cafwyd ysbrydoliaeth ar sut i ddehongli’r hyn a welwyd a pha gyfrwng i’w defyddio. Mae’n arddangosfa ‘cyffrwdd a theimlo’ a synhwyraidd iawn fydd siŵr o gynhyrfu’r ymwelwyr,” medd Pamela Marsden ar ran Plas Lluest.
Cefnogir yr arddangosfa gan Mencap a Prospects.
'Ein Llyfrgell Trwy Ddistawrwydd a Sain'
7 Medi – 16 Tachwedd 2007
Am ragor o fanylion:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg, Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk