Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Of a Feather – gwyddor yr adar

Wed, 10 Oct 07 09:56:00

 


Mewn cyfres o 60 engrafiad cywrain, mae’r artist o Berriew ym Maldwyn yn darlunio enwau torfol Saesneg am wahanol adar o ‘Abandonment of Cuckoos’ i ‘Zephyr of Longtailed Titmice’. Bydd yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol hyd 5 Ionawr 2008.


 


Dyma ail arddangosfa Colin See-Paynton yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn cyd-fynd â hi mae llyfr hyfryd wedi ei argraffu gan wasg arbenigol Gregynog.


 


‘Mae wedi bod yn freuddwyd oesol ac agos i’m calon y cawn i ryw ddydd greu arddangosfa thematig i’w chyhoeddi mewn llyfr prydferth ac a fyddai’n ddigon cryf i sefyll fel arddangosfa ar ei thraed ei hun. Dyma’r arddangosfa hwnnw ac mae’n gwireddu breuddwyd i mi’ esboniodd Colin.
 


Mae engrafiadau Colin wedi dwyn clod gan un o naturiaethwyr mwyaf Prydain, Syr Richard Attenborough. Dywed, ‘mae ei fwynhad o siâp hardd yr adar sy’n cael eu gwau mor gywrain gan yr ysgrythwr, ei sgil wrth amrywio’r gwead er mai du a gwyn yw’r unig liwiau sydd ganddo, ei fwynhad amlwg wrth greu ei waith mewn cynlluniau gogoneddus, wedi dod â rhywbeth newydd i’r portread o adar.’


 


Mae Colin See-Paynton yn adnabyddus iawn fel lladmerydd aruchel o waith yr ysgrythwr. Mae’n Gymrawd o Academi Frenhinol Cambria, Cymrawd Anrhydeddus y Royal Society of Painter Printmakers ac yn aelod o’r Society of Wood Engravers. Mae wedi arddangos yn helaeth fel rhan o grŵp neu fel unigolyn ac yn arddangos yn fynych yn Arddangosfeydd Haf y Royal Academy.  Mae ei waith wedi arddangos mewn sawl man gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, y Victoria and Albert, yr Ashmolean, ac Amgueddfa Cymru.


 


Agorir Of a Feather – an avian alphabet yn swyddogol am 2.00 Sadwrn 20 Hydref gan David Alston, Cyfarwyddwr Celf Cyngor Celfyddydau Cymru.


 


'Of a Feather – an avian alphabet' Colin See-Paynton
20 Hydref 2007 – 5 Ionawr 2008


Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Aberystwyth


 


Arddangosfa deithio yw Of a Feather. Mae’n cychwyn yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn ymweld â:


 

  • RCA, Conwy, 9 Chwef - 9 Mawrth 2008;
  • Nature in Art, Wallsworth Hall, 25 Mawrth - 27 Ebrill 2008;
  • Oriel Llyfrgell Dinbych, 23 Awst - 4 Hydref 2008;
  • Oriel Llyfrgell Bae Colwyn, 11 Hyd - 22 Tachwedd 2008;
  • Oriel Llyfrgell Bwcle, 29 Tachwedd - 10 Ionawr 2009;
  • MOMA, Machynlleth, 16 Mawrth - 10 Mai 2009

 


 


Am wybodaeth bellach:


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  sij@llgc.org.uk


 


 


Dolenni:


Gwefan Colin See-Paynton

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012