Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

600,000 Tudalen o Gyfnodolion Cymreig i Fynd Arlein

Sun, 07 Jan 07 15:39:00

Ar ddydd Gwener 26 gwelir datgelu un o'r prosiectau mwyaf erioed i ddigido a rhoi casgliadau Cymreig printiedig arlein.

Bydd Cyfnodolion Cymreig Modern Arlein yn rhoi cyfoeth o gyfnodolion a chylchgronau a gyhoeddwyd yng Nghymru neu am Gymru o 1900 hyd heddiw arlein ac am ddim. Ariannir y prosiect £959,000 gan Gyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru (HEFCW), Llywodraeth Cynulliad Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF). Mae'n rhan o raglen ddigido corff addysg uwch y DG, y Joint Information Systems Committee (JISC). Mae rhaglen JISC yn cwmpasu buddsoddiad o bron i £22m mewn digido cynnwys safon uchel arlein mewn amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys, ffilm, delweddau, cyfnodolion, papurau newydd, mapiau, thesisau, pamffledi a chartwnau.

Mae trafodaethau yn parhau gyda pherchnogion 90 teitl amrywiol (32 yn y Gymraeg, 56 yn Saesneg a 2 dwyieithog) - sy'n cynnwys cyfnodolion poblogaidd ac academaidd, cyfnodolion ymchwil ar amrywiaeth eang o bynciau, cylchgronau materion cyfoes, trafodion cymdeithasau hanes sirol, cyhoeddiadau'r enwadau crefyddol and chofnodolion llenyddol. Amcangyfrifir fod hyn yn cynnwys tua 600,000 tudalen a rhyw 3.5 miliwn gair. Bydd Cyfnodolion Cymreig Modern Arlein yn cynnwys y corff mwyaf o destun Cymraeg ar y we o bell ffordd. Bydd y prosiect yn cymryd 2 flynedd i staff y Llyfrgell ddigido a chyhoeddi'r holl gasgliad arlein.

Ymhen dim gall defnyddwyr bori, chwilio, darllen ac mewn rhai enghreifftiau, lawr-lwytho erthyglau yn y cyhoeddiadau, a hynny am ddim. Cyfeiriadau'r wefan ddwyieithog yw; cylchgronaucymru.llgc.org.uk a welshjournals.llgc.org.uk.

Mae'r 90 teitl yn cynnwys erthyglau mor amrywiol â chyfweliad olaf yr athronydd, beirniad llenyddol a nofelydd, Raymond Williams yng nghylchgrawn 'Planet' ac erthygl enwog gan y bardd a'r heddychwr, Waldo Williams, 'Pam nad ydwyf yn talu treth yr incwm' fel cyfiawnhad i'w brotest yn erbyn rhan Prydain yn Rhyfel Corea. Ymysg y cyfnodolion cynharaf mae 'Young Wales', cylchgrawn Cymru Fydd, y mudiad dros senedd i Gymru o ddechrau'r 20fed ganrif a mudiad y chwaraeodd David Lloyd George ran mor amlwg ynddi. Ar y pegwn arall ychwanegir y rhifynnau diweddaraf o gyhoeddiadau cyfoes i'r wefan.

Cred Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, bydd y prosiect 2 flynedd yn agor drysau i drysorfa o wybodaeth fu'n gudd am yn rhy hir.

'Mae Cyfnodolion Cymreig Modern Arlein yn gam sylweddol tuag at ddigido holl gyhoeddiadau Cymru. Mae'n rhan o strategaeth uchelgeisiol y Llyfrgell Genedlaethol i greu Theatr y Cof digidol fydd yn cynnwys nid yn unig cyfnodolion ond hefyd llyfrau, papurau newydd a chyhoeddiadau eraill. Bydd yn adnodd hanfodol ac am ddim i academyddion, ymchwilwyr lleyg ac unrhyw un sydd â diddordeb yng Nghymru. Bydd yn agor y drws ar fwy na chanrif o waith ym maes diwylliant, gwyddoniaeth a'r gwyddorau cymdeithasol gan Gymry. Bydd cynnwys corff mor sylweddol o ddeunydd yn y Gymraeg hefyd yn cefnogi llwyddiant Llywodraeth y Cynulliad i gynyddu'n sylweddol y myfyrwyr sy'n astudio trwy gyfrwng yr iaith.'

Dywed Alun Pugh, Gweinidog Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon;

'Mae Llywodraeth y Cynulliad yn buddsoddi i ddod â pheth o'r gorau o waith Cymru ar y we ac i gynulleidfa fyd-eang. Bydd Cyfnodolion Cymreig Modern Arlein yn rhoi gwedd Gymreig i academyddion a'r cyhoedd ar yr 20fed ganrif a fu'n gyfnod mor gynhyrfus a chythryblus. Mae'r prosiect yn brawf o'r cydweithio sy'n bodoli ar draws sefydliadau Cymru ac ar draws Prydain.'

Dywed Stuart Dempster, rheolwr rhaglen ddigido gwerth £22m JISC:

'Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod ar flaen y gad ym maes digido ac ehangu adnoddau addysgol cenedlaethol pwysig i'r gymuned addysg a thu hwnt. Mae JISC yn falch iawn i ariannu datblygiad adnodd fydd yn parhau'r traddodiad hwn ac a fydd hefyd yn ychwanegu dimensiwn arall i'r rhaglen ddigido yn ei ehangder.'

Ychwanega Mike Hopkins ar ran WHELF:

'Bydd y prosiect uchelgeisiol yma yn dangos gallu anhygoel technoleg newydd i roi mynediad rhwydd ac am ddim i gyfoeth llenyddiaeth ar amrywiaeth o bynciau a fu llawer anoddach i'w darllen neu a anghofir ar hyn o'r bryd. Bydd y wefan yn gaffaeliad nid yn unig i'r rhai sy'n mynychu llyfrgelloedd academaidd ac sy'n aelodau o Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF) ond hefyd unrhyw un sydd â diddordeb yn niwylliant, hanes a threftadaeth Cymru.'

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o 15 prosiect newydd a 6 prosiect sydd mewn bodolaeth yn barod sy'n cael eu hariannu gan JISC (Joint Information Systems Committee).

Am wybodaeth bellach a delweddau:

Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg LlGC: 01970 632902 sij@llgc.org.uk

www.jisc.ac.uk/digitisation
cylchgronaucymru.llgc.org.uk
welshjournals.llgc.org.uk


Delweddau ar gael:
Alun Pugh, Andrew Green, Gwyn Jenkins, Arwel Jones
Alun Pugh AC Gweinidog Diwylliant, Y Gymraeg a Chwaraeon yn gweld gwaith digido yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Planet 65, 1985 Cyfweliad olaf gyda'r athronydd a'r nofelwr Raymond Williams yn fuan cyn ei farwolaeth. Cyhoeddwyd yn 'Planet' 65, 1985















Young Wales, 1898 Erthygl fywgraffiadol gan Arthur Mee am John Jones, y seryddwr Cymreig o'r 19eg ganrif. Cyhoeddwyd yn 'Young Wales', 1898















Alawon Gwerin Cymru, 1909 Rhifyn cyntaf 'Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru', 1909















Cymru vol 65 Golygyddol 'Yn erbyn Fandaliaeth' yn 'Cymru', cyf 65, ar dwristiaeth a' datblygiad a'i heffaith ar ddiwylliant Cymreig, 1923














BBC Cymrur'r Bydwww.bbc.co.uk/cymru/canolbarth/safle/llyfrgell_genedlaethol/

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012