Thu, 08 Nov 07 12:14:00
Beth ddywed lluniau o hen ddrwgweithredwyr Cymru amdanynt … ac am y gymdeithas oedd yn eu cosbi? Yn Lens, Gŵyl Dogfennu Cymru â’r Camera ar ddydd Sadwrn 10 Tachwedd, bydd Yr Athro Richard W. Ireland o Brifysgol Aberystwyth yn dadlau fod portreadau o ddrwgweithredwyr, y myg-shot enwog, yn rhan bwysig ond anghofiedig yn hanes ffotograffiaeth. Dywed hefyd fod Cymru wedi chwarae rhan amlwg yn y datblygiadau cynnar yma.
‘Mae ffotograffau o ddrwgweithredwyr yn cynnig gwrthbwynt diddorol i luniau ‘dillad dydd Sul’ parchus Victorianaidd ac Edwardaidd gyda’u portreadau ffurfiol gyda chefndiroedd prydferth. Dyma fyd arall i ffotograffiaeth - nid byd artistig a’r cof teuluol hapus ond arf wyddonol yn nwylo rhai mewn awdurdod oedd am reoli problemau oesol cymdeithas gyda theclyn modern,’ esboniodd Richard.
O atgynhyrchiad llun y llofruddwyr Murphy a Sullivan yn y Monmouthshire Merlin yn 1850, i’r ddelwedd fechan o James Jones, Llanllwni yn ysgyrnygu yn 1858 (un o’r myg-shots cynharaf sy’n bodoli), mae perthynas Cymru â’r dechnoleg newydd yn bwysig ac yn gofiadwy. Ond pam dynnwyd y lluniau yma a gan bwy? A pham fod dedfryd James Harris am ddwyn potel whisgi o’r ‘Falcon’ yn Llanilar yn 1903 yn symbol o ddechrau cyfnod newydd?
Mae Richard wrth ei fodd gyda’r lluniau yma. ‘Nid yn unig eu bod yn lluniau hynod ddiddorol oherwydd y cyd-destun hanesyddol ond maent hefyd yn lluniau trawiadol a chofiadwy hefyd: delweddau’n aml o is-ddosbarth carpiog ac anesmwyth y byddai’n well gan eu cyfoedion eu hanghofio ac anwybyddu. Ond mae eu cofnod o’u camweithrediad gyda’r gyfraith wedi gadael i ni archif oesol ac weithiau teimladol iawn.’
Y siaradwyr eraill yng ngŵyl Lens yw:
James Jones, Llanllwni: www.gtj.org.uk/cy/blowup6/15565
Lens – Pobl a Phortreadau
Sadwrn 10 Tachwedd
10.30am – 4.00pm
£18 (£12 i fyfyrwyr)
Cofrestrwch arlein neu ffoniwch 01970 632 548
Am wybodaeth bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk