Tue, 06 Mar 07 09:19:00

Bydd dau chwaraewr rygbi o Seland Newydd sy'n chwarae i'r Sgarlets yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Llun 5 Mawrth i roi eu barn ar gadair Eisteddfodol arbennig iawn.
Bydd Deacon Manu (sydd wedi ennill cap gyda thîm y Maoris) a Regan King, yn bwrw golwg ar y gadair er mwyn ceisio taflu goleuni ar y motiffiau Maori sy'n addurno'r gadair a hefyd yn cyffwrdd â darn bach o Seland Newydd sydd nawr yn rhan o Gymru.
Enillwyd y gadair gan y Parchedig E Gwyndaf Evans (1913-1986) yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1935, am ei awdl 'Magdalen'. Gwyndaf oedd y cystadleuydd ieuengaf i ennill yr anrhydedd honno a'r awdl gyntaf mewn gwers rydd gynganeddol i gipio prif wobr farddonol yr Eisteddfod Genedlaethol.
Mae i'r gadair hanes arbennig o ddiddorol. Cafodd ei chynllunio a'i cherfio yn Seland Newydd gan ddefnyddio symbolau traddodiadol y Maori. Fe'i cyflwynwyd yn wobr gan Gymry Seland Newydd er anrhydedd i'r Fonesig Bledisloe (Alina Kate Elaine Cooper-Smith née Jenkins), gwraig Llywodraethwr Cyffredinol y wlad a'r Gymraes gyntaf i weithio yn y gwasanaeth diplomyddol yno, rhwng 1930 a 1935.
Cerfiwyd y gadair gan grefftwyr Maori o bren y goeden Tatara gyda llygaid addurniadol o gragen y Paua a phlac o pounamu. Mae'r gadair yn dystiolaeth i nawdd hael yr Arglwydd a'r Arglwyddes Bledisloe tuag at gelfyddyd a diwylliant y Maori ac o werthfawrogiad Cymry Seland Newydd o'u cyfraniad wrth wasanaethu mewn swyddi yno. Cyflwynwyd Cwpan Bledisloe ganddynt i fyd rygbi Seland Newydd yn 1931 a cheir cystadleuaeth hyd heddiw rhwng Wallabies Awstralia a'r Crysau Duon amdano.
Dymuniad Gwyndaf oedd i'r gadair hon a phaentiad ohono yng ngwisg Archdderwydd Cymru gael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol a throsglwyddwyd yr eitemau i Aberystwyth yn dilyn marwolaeth Mrs Evans, ei weddw, gan eu plant.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cysylltu ag arbenigwyr yn Llyfrgell Genedlaethol Seland Newydd er mwyn ceisio cael barn arbenigol ar symbolaeth y cerfiadau ar gadair Gwyndaf.
Arddangosir y Gadair yn Ystafell Peniarth lle ceir hefyd arddangosfa 100: Canrif y Llyfrgell - un o'r nifer o arddangosfeydd a dathliadau canmlwyddiant y Llyfrgell. Sefydlwyd y Llyfrgell ar 19 Mawrth 1907.
BBC Cymru: news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6420000/newsid_6420800/6420883.stm
Am Wybodaeth Bellach a Delweddau:
Siôn Jobbins, Swyddfa'r Wasg LlGC: 01970 632902 sij@llgc.org.uk