Fri, 21 Dec 07 12:42:00
Efallai fod dathliadau canmlwyddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2007 wedi dod i ben, ond mae arddangosfa’r canmlwyddiant, 'Yn y Lle Hwn', wedi ei gyhoeddi ar y we a bydd yno am flynyddoedd i’w fwynhau.
Mae gwledd o ddanteithion i’w mwynhau ar y wefan. Beth am droi tudalennau pasport Dylan Thomas – y pasport a ddaeth nôl gyda’i gorff o America wedi ei farwolaeth? Cewch hefyd droi tudalennau cofnodion cyfarfod cyntaf Ysgol Gymraeg Aberystwyth – yr ysgol cyfrwng Cymraeg cyntaf a sefydlwyd ym Medi 1939. Mae’r wefan yn cynnwys tudalennau o bapurau newydd Cymru gan gynnwys y Western Mail, Daily Post a’r Cymro a rheini’n adrodd digwyddiadau mawrion Cymru a’r Byd rhwng 1907 a 2007.
O drychineb pwll glo Senghennydd yn 1913 a chyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf i sefydlu’r Urdd yn 1922 a Chaerdydd yn ennill Cwpan yr FA yn 1927. O Ryfel Cartref Sbaen i gymylau duon yr Ail Ryfel Byd - mae’r arddangosfa yn drysorfa o wybodaeth ar ffurf papurau newydd, ffotograffau a gohebiaeth. Mae’r wefan yn cynnwys casglaidau arlein am ddechrau cerddoriaeth pop Cymraeg a degawdau o luniau gwleidyddol deifiol y cartwnydd o’r Barri, Leslie Illingworth a dynnodd luniau i’r Daily Mail. Ceir pamffeldi ymgyrchoedd Ie a Na i’r Cynulliad yn 1979 ac 1997 a chasgliadau am y Mabinogi.
Dyma bigion o rai o’r casgliadau arlein ... ond mae llawer, llawer mwy yno:
‘Bu dathliadau canmlwyddiant y Llyfrgell Genedlaethol yn llwyddiant mawr. Mae’r arddangosfa arlein yn rhoi cip olwg ar fywyd Cymru yn ystod y canmlynedd ers sefydlu’r Llyfrgell gyda’r Siarter Frenhinol yn 1907 a chip ar yr archifau a gasglwyd gan y Llyfrgell yn ystod y ganrif honno,’ meddai Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dolenni:
Llyfrgell Genedlaethol Cymru: www.llgc.org.uk
Gwefan Arddangosfa’r Canmlwyddiant, 'Yn y Lle Hwn' canmlwyddiant.llgc.org.uk
Am Wybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk