Tue, 08 Jan 08 14:34:00
Tua'r flwyddyn 1552 cwblhaodd Elis Gruffudd ei gronicl enfawr o hanes y byd o’r Cread hyd at ei gyfnod ef. Rhannwyd y cronicl yn ddwy, ac mae’r ail ran, sef Llawysgrif NLW 3054D (Cyfrolau i & ii) nawr ar wefan y Llyfrgell. Ynddo ceir hanes Lloegr a Chymru o gyfnod Gwilym Orchfygwr hyd at 1552 oll yn yr iaith Gymraeg.
Ganwyd Elis Gruffudd (‘Y milwr o Galais’) tua 1490 yng Ngronant Uchaf ym mhlwyf Llanasa, Sir y Fflint. Tua 1510 ymunodd â byddin Lloegr a bu’n ymladd yn yr Iseldiroedd a Sbaen. Erbyn 1518 roedd yn gweithio i Syr Robert Wingfield, bonheddwr o Suffolk, gan symud i Calais (a oedd yn ran o Loegr ar y pryd) yn 1520 lle'r oedd Wingfield yn llysgennad.
Er mai milwr a swyddog gweinyddol oedd Gruffudd, ei waith fel copïydd, a chyfieithydd, ac yn arbennig fel croniclydd, sydd o ddiddordeb heddiw. Gwaith pwysicaf Gruffudd yw ei gronicl, sef un o’r testunau naratif mwyaf swmpus a ysgrifennwyd yn y Gymraeg.
Daw pwysigrwydd Gruffudd fel ffynhonnell i’r amlwg yn rhannau cyfoes y testun, lle seilir y dystiolaeth ar ei brofiadau ei hun. Bu’n dyst i nifer o ddigwyddiadau pwysig y cyfnod megis y cyfarfod rhwng breninhoedd Lloegr a Ffrainc ar Faes y Brethyn Euraid, ger Calais, yn ogystal â phrofion Llys Siambr y Seren, Llundain. Mae’n rhoi disgrifiadau byw o’r hyn a welodd ac a glywodd.
Mae’r llawysgrif hon yn taflu goleuni ar fywyd Gruffudd ei hun, ac hefyd ar fywydau’r Cymry eraill a ymfudodd i Lundain a Chalais. Yn ogystal, gwelwn agwedd y Cymry tuag at y ddau frenin Tuduraidd cyntaf, Harri VII ac VIII, ac mae’n trafod hanesion Cymreig mewn cyd-destun diwylliannol Seisnig.
Gwybodaeth Bellach:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk
Dolenni: