Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Cymoedd Anthony Stokes

Fri, 11 Jan 08 12:42:00

'Forty one, Treorchy' © Anthony StokesMae arddangosfa Anthony Stokes yn cynnwys 100 o ffotograffau lliw a dynnwyd dros y 5  mlynedd ddiwethaf. Cyfyngir y lluniau i’r cymoedd rhwng yr Ebwy a’r Nedd ac o fewn ffiniau Ffordd Blaenau’r Cymoedd a’r M4.


 


Darlunnir y Cymoedd fel rheol, mewn gwahanol fathau o lwyd digalon, ond mae ffotograffau Anthony Stokes yn dangos ochr arall mwy lliwgar lle mae hanes, tirwedd a threfwedd y Cymoedd yn wahanol haenau o adnewyddu ac addasu dros gyfnod o ddegawdau.


 


Esbonia Anthony Stokes mai 'dim ond syniadau o chwaeth gonfensiynol a rhagfarn all beidio gweld rhyfeddod y Cymoedd.’


 


Cytuna’r llenor, Iain Sinclair, ag ef; ‘edrychwch yn agosach. Gallwch ddarganfod hudoliaeth ddi-hid o ffws gwewyr meddwl a statws metropolitan ac yn ei le agwedd fwy hamddenol; tirwedd ddiamser heb ei orffen, mewn newid, yn gofiannau i gyn diwydiannau - gwario arian newydd ar bethau newydd. Mae llethrau’r bryniau yn cuddio hen glwyfau.’   


 


Magwyd mam Anthony Stokes ym Maglan ac Abercannaid, a’i dad ym Mhen-y-bont. Magwyd ef yng Nghaerloyw (Gloucester), er iddo fod yn ymwelydd cyson â Merthyr Tudful a Phen-y-bont yn ei ddyddiau cynnar.  Ag yntau bellach yn 61 oed, treuliodd mwyafrif ei yrfa yn gweithio yn Llundain fel curadur arddangosfeydd gyda diddordeb arbennig mewn celf gyfoes, gan symud i fyw i Gwmogwr 5 mlynedd yn ôl.


 


Sbardunwyd yr arddangosfa gan Amgueddfa Cwm Cynon yn Aberdâr gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a dyna lle cafodd ei lansio yng Ngwanwyn 2007. Ers hynny, mae hefyd wedi arddangos yn Oriel y Bont, Prifysgol Morgannwg ym Mhontypridd dros yr haf a Neuadd Dewi Sant, Caerdydd yn yr hydref. Cynhelir yr arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 12 Ionawr a 5 Ebrill 2008.


 


 


Agorir yr arddangosfa'n swyddogol ar Ddiwrnod Agored y Llyfrgell ar ddydd Sadwrn 26 Ionawr.


 


Cyhoeddir llyfr i gyd-fynd â’r arddangosfa, The Valleys, gan wasg Seren. Mae’r llyfr 168 tudalen yn ganllaw i’r arddangosfa ac yn cynnwys dros 100 o luniau a thestun gan Iain Sinclair a fagwyd ym Maesteg ond sydd wedi byw a gweithio yn Llundain fel ysgrifennwr a bardd ers nifer o flynyddoedd.


 


 


Am wybodaeth bellach:


 


Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902  sij@llgc.org.uk


 


Gellir prynu llyfr The Valleys o Siop y Llyfrgell neu o'n siop arlein


 


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012