Trysorau cudd trawiadol arlein am y tro cyntaf
Mon, 28 Jan 08 10:42:00
‘Troi tudalennau’ dogfennau hanesyddol o Gymru ar wefan y Llyfrgell Brydeinig. Cynhelir digwyddiadau lansio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban.
Mae 5 trysor cudd o gasgliadau llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y DU nawr ar gael i gynulleidfa o filiynau arlein. Fe’u dewiswyd yn destunau buddugol mewn cystadleuaeth genedlaethol, ac mae tudalennau o bob un ohonynt wedi eu digido a’u trawsnewid yn ‘rhith-destunau’ Troi’r Tudalennau 2.0.
Gall ymwelwyr fwynhau’r eitemau ardderchog hyn yn rhad ac am ddim. Y cynnig buddugol o Gymru yw hanes bywyd yng nghefn gwlad Sir Gaernarfon yng nghanol y 19eg ganrif drwy lygad bachgen 14 oed anghyffredin o sylwgar. Roedd y lansiad Cymreig am 11.30am Dydd Mercher 23 Ionawr yn y Senedd yng Nghaerdydd.
Mae’r trysorau buddugol eraill yn cynnwys:
- gwaith cyfreithiol o’r 12fed ganrif o Medway, Caint, sy’n cynnwys y cofnod cynharaf o’r iaith Saesneg;
- llyfr offeren addurnedig o’r 15fed ganrif o Sir Renfrew, sy’n cynnwys defod esgymuno erchyll;
- llyfr cofnodion rhyfel wedi ei ddarlunio’n hardd a gynhyrchwyd gan Ffederasiwn Dorset o Sefydliad y Merched, sy’n cynnwys hanesion am faciwîs, awyrenwyr y gelyn, dyfodiad byddin America a hyd yn oed gwneud jam!
Mae Dyddiaduron William Searell o Feddgelert, Sir Gaernarfon, 1844-46 yn perthyn i Wasanaeth Archifau Conwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dechreuodd William ysgrifennu’r dyddiaduron pan oedd yn 14 oed ac mae’n rhoi i ni ddirniadaeth fyw ac unigryw o fywyd gwledig Cymreig yng nghanol y 19eg ganrif.
Denodd cystadleuaeth Hidden Treasures Brought to Life y Llyfrgell Brydeinig – a lansiwyd yng ngwanwyn 2007 mewn cydweithrediad â Chymdeithas y Prif Lyfrgellwyr, penaethiad llyfrgelloedd yr Alban a Microsoft, 82 o gynigion a syfrdanodd y beirniaid gyda’u natur unigryw a’u hamrywiaeth. Mae rhychwant yr eitemau buddugol yn rhoi syniad i ni o faint yn union o drysorau o bwysigrwydd rhanbarthol, cenedlaethol a rhyng-genedlaethol a gedwir mewn casgliadau llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws y DU.
I nodi lansio’r ‘rhith-destunau’ buddugol, mae’r Llyfrgell Brydeinig yn cynnal derbyniadau dathlu mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd, Bwrdd Addysg a Llyfrgelloedd Belfast yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon, Stormont, a Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yn Senedd yr Alban, Caeredin. Bydd y digwyddiadau hyn – yn Ionawr a Chwefror 2008 – yn pwysleisio pwysigrwydd darparu mynediad digidol i’r deunydd unigryw a gedwir mewn llyfrgelloedd cyhoeddus fel rhan hanfodol o gefnogi treftadaeth, hanes ac amrywiaeth ddiwylliannol.

Delwedd: Rona Aldrich Cyngor Conwy; Rhodri Glyn Thomas Gweinidog Treftadaeth; Andrew Green Llyfrgellydd LlGC a Roland Milne, y Llyfrgell Brydeinig
Yn ystod y ddegawd ddiweddaraf mae’r Lyfrgell Brydeinig wedi creu fersiynau Troi’r Tudalennau o’i thrysorau pennaf, o ddyddiadur cerddorol Mozart i lawysgrif Lewis Carroll o Anturiaethau Alice, gan ddod â’r gwylwyr yn agosach nag erioed o’r blaen at lyfrau a llawysgrifau gwerthfawr. Mae Troi’r Tudalennau 2.0 nawr yn dod â 5 trysor amhrisiadwy arall yn fyw i’w mwynhau gan gynulleidfa fyd-eang.
Am ragor o wybodaeth a lluniau cysylltwch, os gwelwch yn dda, gyda:
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg, LlGC: 01970 632 902 sij@llgc.org.uk
Nodiadau ar gyfer golygyddion
- Y Llyfrgell Brydeinig yw llyfrgell genedlaethol y Deyrnas Unedig. Mae’n darparu gwasanaethau gwybodaeth o’r radd flaenaf i’r cymunedau academaidd, busnes, ymchwil a gwyddonol ac mae’n cynnig mynediad digyffelyb at gasgliad ymchwil helaethaf a mwyaf cynhwysfawr y byd. Mae casgliadau’r Llyfrgell Brydeinig yn cynnwys 150 miliwn o eitemau o bob cyfnod o hanes cofnodedig y ddynoliaeth gan gychwyn gydag esgyrn oracl Tsieineaidd yn dyddio o 300 CC, i fyny hyd at yr e-gyfnodolion diweddaraf. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Llyfrgell: www.bl.uk.
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw’r llyfrgell fwyaf yng Nghymru ac mae’n un o lyfrgelloedd ymchwil mawr y byd. Fe’i sefydlwyd ym 1907, ac mae ei chasgliadau yn cynnwys llyfrau, llawysgrifau, dogfennau archifol, mapiau a ffotograffau, yn ogystal â pheintiadau, ffotograffau, ffilmiau, fideos a recordiau sain. Mae wedi datblygu ei gwasanaeth digido dros gyfnod o ddeng mlynedd a rhagor, ac erbyn hyn mae dros 200,000 o eitemau o’r casgliadau i’w gweld ar y Drych Digidol ar www.llgc.org.uk Mae’r Llyfrgell yn cael ei chydnabod fel y brif ganolfan ymchwil ar gyfer astudiaethau Celtaidd a Chymreig, ac mae’n boblogaidd gyda phobl sy’n ymchwilio hanes lleol a theuluol. Mae’n cynnal rhaglen addysg a rhaglen amrywiol o arddangosiadau drwy gydol y flwyddyn, a threfnir darlithoedd, ffilmiau a chynadleddau yn y Drwm, sef darlithfa’r Llyfrgell.
- Mae enillwyr y gystadleuaeth Trysorau Cudd ar gael i’w gweld mewn fformat Troi’r Tudalennau 2.0 yn www.bl.uk/ttp2/hiddentreasures.html. Mae Troi’r Tudalennau 2.0, a ddatblygwyd gyda Microsoft i arddangos eu system weithredu newydd Windows Vista, yn darparu profiad defnyddiwr gwell fyth ac yn cyflymu’r broses o greu ‘rhith-destun’. Gellir edrych ar y trysorau buddugol hefyd drwy ddefnyddio Silverlight, fersiwn amgen traws-lwyfan ar gyfer defnyddwyr ‘non-Vista’ ac ‘Apple’.
- Y cynigion buddugol eraill:
- Llyfr Cofnodion Rhyfel 1939-1945 Ffederasiwn Dorset o Sefydliad y Merched (Gwasanaeth Llyfrgelloedd Dorset mewn partneriaeth â Chanolfan Hanes Dorset a Gwasanaeth Llyfrgelloedd Ysgolion Dorset) (Lloegr) – cyfrol unigryw sy’n rhoi cipolwg wefreiddiol ar fywyd ar y Ffrynt Cartref.
- Y Textus Roffensis (Deon a Siapter Eglwys Gadeiriol Rochester, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymunedol Cyngor Medway a Chanolfan Archifau ac Astudiaethau Lleol Medway) (Lloegr) – gwaith eiconaidd, a grynhowyd yn 1123-24, sy’n cynnwys y cyfreithiau Saesneg cyntaf a gofnodwyd a llw coroni Harri I, a ddylanwadodd ar y barwniaid a luniodd y Magna Carta.
- Llyfr Offeren Arbuthnott (Cyngor Sir Renfrew) (yr Alban) – llyfr offeren addurnedig ysblennydd, sy’n cynnwys defod esgymuno erchyll, a oedd yn un o’r eitemau Albanaidd prin a oroesodd y Diwygiad Protestannaidd.
- Adroddiad Syr George Leonard Staunton o ymweliad cynrychiolaeth oddi wrth Frenin Prydain Fawr at Ymerawdwr Tsieina, 1797 (Llyfrgell Ganolog Belfast) (Gogledd Iwerddon) – cyfrolau yn cynnwys platiau mesotint hynod o fanwl, sy’n disgrifio ac yn darlunio ymweliad y llysgennad Prydeinig cyntaf â Tseinia.