Mon, 19 Mar 07 13:06:00
Dydd Llun 19 Mawrth 2007 fydd union ddyddiad canmlwyddiant sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar y diwrnod hwnnw yn 1907 cyflwynwyd y Siarter Frenhinol gan sefydlu’r Llyfrgell yn swyddogol, penllanw 34 mlynedd o ymgyrchu. Lansiwyd yr ymgyrch mewn cyfarfod yn Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug yn 1973 (lle cynhelir yr Eisteddfod eleni hefyd, trwy gyd-ddigwyddiad). Ysbrydolwyd y cyfarfod yn rhannol gan y llwyddiant i sefydlu Prifysgol Cymru'r flwyddyn flaenorol.
I ddathlu ei chanmlwyddiant bydd y Llyfrgell yn lansio Yn y Lle Hwn, arddangosfa fwyaf uchelgeisiol y Llyfrgell erioed. Dyma gyfle unwaith mewn can mlynedd, i weld dyfnder ac amrywiaeth casgliad y Llyfrgell o waith Dylan Thomas a’r protestiadau iaith, campau chwaraeon Cymru a Phatagonia.
Dangosir rhai o drysorau pwysicaf y Llyfrgell ym man arddangos Hengwrt gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin, yr Anthem Genedlaethol, llawysgrif hyna’r byd o’r Canterbury Tales gan Geoffrey Chaucer a gweithiau gan artistiaid megis J M W Turner a Kyffin Williams.
Bydd lansiad arddangosfa Yn y Lle Hwn yn cychwyn gyda phroseswn yn arddangos dau o eiconau’r Llyfrgell, Llyfr Du Caerfyrddin a Siarter Frenhinol 1907.
Cychwynna’r prosesiwn am 2.15pm y tu allan i adeilad urddasol y Llyfrgell gyda’i olygfa o dref Aberystwyth. Yno bydd llumanwr yn cario baner canmlwyddiant arbennig y Llyfrgell a’r pibydd Ceri Rhys Matthews o Bencader.
Bydd y llumanwr a’r pibydd yn gorymdeithio fewn i adeilad y Llyfrgell gan gwrdd â dau borthor yn cludo Llyfr Du Caerfyrddin a Siarter 1907.
Oddi yno, bydd y prosesiwn yn esgyn grisiau’r Llyfrgell i gwrdd â Llywydd y Llyfrgell Dr R Brinley Jones CBE a’r Llyfrgellydd, Andrew Green ac yna ymlaen i Oriel Gregynog lle cynhelir arddangosfa Yn y Lle Hwn.
Yn yr Oriel bydd Mari Owen, o gwmni theatr Arad Goch, yn darllen cyfarchion a ddanfonwyd i’r Llyfrgell o sefydliadau ar draws y byd yn ogystal â dwy gerdd wedi eu cyfansoddi’n arbennig i ddathlu’r canmlwyddiant gan y bardd Gwyneth Lewis.
Terfynir y seremoni agoriadol gyda’r pibydd yn arwain y gwesteion a’r staff i ganu’r Anthem Genedlaethol - bydd copi gwreiddiol yr Anthem yn cael ei harddangos yn yr arddangosfa o fis Gorffennaf ymlaen.
Yn cydredeg â’r arddangosfa fawr hon bydd y Llyfrgell yn cynnal cyfres o arddangosfeydd llai megis Y Tirlun Cymreig (19 Mawrth - 12 Mai), a Trysorau o’r Celloedd (19 Mai - 7 Gorffennaf). Bydd arddangosfa’r Trysorau yn cynnig cip ar rai o’r 800,000 o ffotograffau sydd yng nghasgliad y Llyfrgell.
Ac yn olaf, fe fydd 100: Canrif y Llyfrgell (24 Chwefror 2007 - 5 Ionawr 2008) yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddysgu mwy am hanes adeilad y Llyfrgell ei hun. O’r ymgyrch i greu’r Llyfrgell i’r gwahanol gynlluniau pensaernïol buddugol ac anfuddugol ar gyfer yr adeilad, bydd yr arddangosfa’n dilyn datblygiad y Llyfrgell a’i seiliau ar gyfer yr 21ain ganrif.
Yn y Lle Hwn
Lansiad 2.30 – dydd Llun, 19 Mawrth 2007
Dyddiadau’r Arddangosfa: 19 Mawrth - 3 Tachwedd
Gwybodaeth Bellach a Delweddau:
Siôn Jobbins: Swyddfa’r Wasg: 01970 632902 sij@llgc.org.uk
Gwefan y Llyfrgell: