Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Winifred Coombe Tennant - Bywyd trwy Gelf

Mon, 04 Feb 08 12:15:00

 


Cafodd Winifred Coombe Tennant (1874 – 1956) ei magu yn Ffrainc a’r Eidal ond daeth i garu Cymru, gwlad enedigol ei gŵr a’i mam. Roedd yn ferch-yng-nghyfraith i Eveleen Tennant, y ffotograffydd Fictorianaidd nodedig, ac i H.M. Stanley, yr anturiaethwr. Yn 1896 symudodd i fyw i Gwm Nedd, ger Abertawe, o fewn clyw i gyrn y pyllau glo a reolai fywydau’r cymunedau glofaol lleol. O’r pentrefi glofaol hyn yr ymddangosodd rhai o’r arlunwyr y gweithiodd Winifred mor galed i’w hyrwyddo – gan gynnwys Evan Walters, un o’r arlunwyr proffesiynol cyntaf a hyfforddwyd ym Mhrydain i ddefnyddio pobl y cymunedau glofaol yn ganolbwynt i’w waith.


 


Winifred oedd cyfryngwr ysbrydol enwocaf ei hoes a astudiwyd gan y Society for Psychic Research. Fodd bynnag, cyhoeddwyd ei gwaith gan y Gymdeithas o dan y ffug enw Mrs Willett, ac felly parhaodd yr agwedd hon o fywyd Winifred yn anhysbys hyd yn oed i aelodau o’i theulu agos hyd ei marwolaeth. Mae ei dyddiadur yn cofnodi mewn manylder ei charwriaeth gyda Gerald Balfour, brawd y Prif Weinidog, ac un o ffigyrau amlycaf y Gymdeithas.


 


Ar y llaw arall, mae’r amlinelliad o fywyd cyhoeddus Winifred yn dra hysbys. Roedd yn  ffeminydd, a ymgyrchodd dros y bleidlais i ferched o adeg cyn y Rhyfel Mawr ymlaen. Daeth yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid drwy berthynas agos gyda’r Prif Weinidog, David Lloyd George. Arhosai yn aml yn  Downing Street, a chofnododd yn ei dyddiadur ei hargraffiadau o ddigwyddiadau pwysig megis y trafodaethau ar sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Fel cenedlaetholwraig, roedd Tom Ellis, arweinydd mudiad Cymry Fydd ymhlith ei harwyr, a Michael Collins. Mae ei disgrifiad o glywed am farwolaeth Collins yn 1922 yn un ymhlith nifer o ddarnau ysgrifennu pwerus ac emosiynol a geir yn ei dyddiadur.


 


Anfonwyd Winifred fel y cynrychiolydd benywaidd cyntaf o Brydain i Gynghrair y Cenhedloedd yng Ngenefa. Roedd heddwch rhyngwladol yn fater a oedd o bwys sylfaenol iddi. Cafodd ei mab hynaf, Christopher, ei ladd yn y Rhyfel Mawr.


 


Pan ddymchwelodd llywodraeth glymblaid Lloyd George, ymgeisiodd Winifred ar gyfer y senedd yn 1922. Chwalwyd y Rhyddfrydwyr ac ni lwyddodd i ennill sedd, rhywbeth a fu’n edifar ganddi weddill ei hoes, ond a fu, yn rhannol yn gyfrifol am ailgyfeirio ei hymdrechion i gefnogi arlunwyr ifanc yng Nghymru. Daeth yn ffrind agos i Sir William Rothenstein, cyfarwyddwr y Coleg Celf Brenhinol, lle’r oedd nifer ohonynt, gan gynnwys Ceri Richards, yn astudio. Ar ôl 1931, pan symudodd i fyw i Lundain, daeth yn brynwr swyddogol ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian, gan gasglu gweithiau gan Cedric Morris, Morland Lewis, Augustus John a Gwen John, ac yn cynnwys y portread poblogaidd gan John, The Nun. Mae ei dyddiadur yn cofnodi mewn manylder ei pherthynas gydag Augustus John ac eraill.


 


Yn dilyn marwolaeth mab Winifred, Alexander Coombe Tennant yn 2003 y bu i’w weddw, Jenifer, wneud Peter Lord yn ymwybodol bod Winifred wedi cadw dyddiadur bob dydd o’i bywyd o 1909 hyd nes ychydig cyn ei marwolaeth.


 


 


Winifred Coombe Tennant – A Life through Art


 


£30, clawr caled, cyhoeddwyd gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: ar gael yn ein siop arlein 


 


 


Winifred Coombe Tennant – Arddangosfa Bywyd trwy Gelf:


 

  • Aberystwyth: Llyfrgell Genedlaethol Cymru hyd 24 Mawrth 2008
  • Yn dilyn hynny yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd

 


 


Manylion Cyswllt:


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012