Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Support Us

Support Us

Support us to develop our collections and services for future generations.

Donate Now!

Yma o Hyd! - Oeddech Chi?

Thu, 20 Mar 08 09:38:00

 Protest Pont Trefechan - oeddech chi yno?


Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am ddarganfod os oeddech chi yn un o brotestiadau mwyaf hanesyddol Cymru – protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn 1963.


Ceir llun anferth o’r brotest yn arddangosfa ddiweddaraf y Llyfrgell, Protest! Mae’r arddangosfa’n rhoi cip olwg ar hanes protestiadau gwleidyddol Cymru o gyfnod Merched Beca yn yr 1840au, y Suffragettes ar ddechrau’r 20fed ganrif hyd at ymgyrchwyr iaith yr 1960au. Agorwyd yr arddangosfa ym mis Chwefror a bydd yn rhedeg am flwyddyn gron.


Hoffai’r Llyfrgell wybod pwy oedd y bobl yn y llun – y protestwyr a’r trigolion lleol oedd yn digwydd bod yn bresennol. Pawb. Os oeddech chi yno – beth yw eich atgofion o’r diwrnod? Hoffai Llyfrgell Genedlaethol Cymru glywed wrthych chi.


Tynnwyd y llun yn Chwefror 1963– yn ystod gaeaf rhewllyd y flwyddyn honno.  Sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ym mis Awst 1962, mewn ymateb i ddarlith radio enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith a ddarlledwyd ar 13 Chwefror 1962 lle amlinellodd yr argyfwng a oedd yn wynebu'r iaith Gymraeg gan alw ar siaradwyr Cymraeg i fabwysiadu "dulliau chwildro" o blaid yr iaith.


 
Protest Pont Trefechan - oeddech chi yno?Yn ystod y brotest eisteddodd tua 40 o aelodau a chefnogwyr y Gymdeithas yng nghanol y ffordd ar bont Trefechan am hanner awr. Llwyddwyd i rwystro’r traffig rhag croesi’r bont i mewn i Aberystwyth a bu’n rhaid galw’r heddlu. Bwriad y protest oedd i’r protestwyr gael eu harestio er mwyn mynnu gwŷs a gwrandawiad Cymraeg yn y llys, er mwyn dangos diffyg statws i’r Gymraeg. Cafwyd ymateb chwyrn gan rai aelodau o’r cyhoedd. Credai'r protestwyr hefyd y byddai'r weithred yn denu sylw'r wasg ac yn rhoi pwnc diffyg statws y Gymraeg ar yr agenda gyhoeddus. Dylanwadwyd ar y protestwyr iaith gan y protestwyr hawliau sifil yn America. Dyma oedd dechrau ymgyrchoedd annifudd-dod sifil Cymdeithas yr Iaith a arweiniodd at Ddeddf Iaith Gymraeg yn 1967 ac yna sefydlu S4C yn 1982.


Os oeddech chi yn y brotest neu yn y dorf, neu os ydych yn adnabod rhai oedd, rhowch wybod i Medi Jones gan roi pwt o atgof am y digwyddiad a’ch ymateb chi iddo.


 


Protest!


Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth


16 Chwefror 2008 – 14 Chwefror 2009


Mynediad am ddim, Siop a Bwyty Pen Dinas ar agor i ymwelwyr


 


Am Wybodaeth Bellach:


Medi Jones, Swyddog Hyrwyddo LlGC: 01970 632 534 lmj@llgc.org.uk


 


Dolen:


Arddangosfa Arlein LlGC: Ymgyrchu!


 

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Last Updated: 22-10-2012