Fri, 10 Sep 10 14:33:00

Mae’r lawysgrif fyd-enwog, Llyfr Aneirin, i’w gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol diolch i benderfyniad hirdymor a dewr gan Pwyllgor Gwaith Cyngor Caerdydd ar 9 Medi 2010. Penderfynodd y Cyngor y dylai Llyfr Aneirin gael eu hadneuo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, er mwyn diogelu goroesiad tymor hir y llawysgrif.
Bydd trigolion Caerdydd hefyd yn elwa ar y cytundeb hwn gan y bydd Llyfrgelloedd Caerdydd yn derbyn dau gopi llawn ffacsimili o'r llyfr gan y Llyfrgell Genedlaethol i’w defnyddio mewn arddangosfeydd ac arddangosiadau. Oherwydd natur fregus y llawysgrif, ac am resymau cadwraethol nid oedd y llyfr gwreiddiol yn cael ei arddangos. Mae Llyfr Aneirin yn un o'r llyfrau mwyaf pwysig yn yr iaith Gymraeg ac mae’n dyddio o tua 1265.
Mae’r penderfyniad i roi’r llyfr ar adnau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn golygu y bydd Aneirin yn ailymuno â gweddill casgliad Hengwrt, sy'n cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Hyd at ganol 1600 yr oeddent i gyd yn rhan o gasgliad enwog o lyfrau prin a llawysgrifau yn Hengwrt yng Ngwynedd ond gwahanwyd peth o’r casgliad ac maent wedi bod ar wahân am ganrifoedd.
Mae Llyfr Aneirin yn enwog am ei fod yn cynnwys cerdd hir arwrol 'Y Gododdin'. Mae'r gerdd yn cael ei briodoli i Aneurin, ac yn un o'r cerddi hynaf Cymru i fod yn ysgrifenedig. Cedwir y llyfr ar hyn o bryd yn Llyfrgell Ganolog Caerdydd ond trwy ei roi ar adnau yn y Llyfrgell Genedlaethol golyga y bydd yn nwylo arbenigwyr sydd yn y sefyllfa orau i sicrhau cadwraeth tymor hir a datblygiad y trysor cenedlaethol.
Bydd Llyfr Aneirin yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Caerdydd, a bydd Llyfrgelloedd Caerdydd yn derbyn dau gopi ffacsimili gan y Llyfrgell Genedlaethol ar gyfer defnydd lleol ac arddangos, ynghyd â dyluniadau proffesiynol i hyrwyddo’r ffacsimili gwreiddiol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Rodney Berman:
‘Er mwyn diogelu dyfodol Llyfr Aneirin mae’r Pwyllgor Gwaith wedi penderfynu y byddai’n well cadw’r llyfr yn y Llyfrgell Genedlaethol.
’Bydd y cytundeb rhwng Cyngor Caerdydd a'r Llyfrgell Genedlaethol yn sicrhau fod y llyfr yn cael ei gadw'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol yn y Llyfrgell ond ei bod yn parhau i fod yn eiddo i Gyngor Caerdydd ac yn rhan o dreftadaeth y Brifddinas.
Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd Llyfrgell Ganolog yn derbyn dau gopi ffacsimili llawn o'r llawysgrif y gellir ei fwynhau gan ymwelwyr i'r llyfrgell, rhywbeth nad oedd yn bosib yn y gorffennol oherwydd bod y llyfr gwreiddiol yn rhy sensitif i ni ei arddangos.’
Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Diwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Nigel Howells,
‘Mae Llyfr Aneirin yn rhan bwysig o hanes Cymru, ac mae'n iawn y dylai gael ei adneuo yn y llyfrgell Cenedlaethol i sicrhau ei fod yn ddiogel am yr oesoedd i ddoed.’
'Mae'r staff Llyfrgell Ganolog Caerdydd wedi gwneud gwaith gwych yn edrych ar ôl y llawysgrif, ond mae bellach yn amser i Aneurin i gael y gofal arbenigol y gall y Llyfrgell Genedlaethol gynnig ac mae’n amser i’r llyfr gael ei symud yn ôl at weddill casgliad Hengwrt.’
Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, Alun Ffred Jones,
‘Mae Llyfr Aneirin yn un o'r casgliadau o farddoniaeth yn yr iaith Gymraeg sy’n enyn y mwyaf o drafodaeth ac mae ganddo le arbennig yn hanes a datblygiad yr iaith Gymraeg. Rwyf yn cefnogi'r cynllun ar gyfer ei gartrefi yn y dyfodol yn y Llyfrgell Genedlaethol a'r fenter gyffrous fydd yn galluogi pobl i weld copïau ffacsimili o’r llawysgrif. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wneud treftadaeth ein gwlad gyfoethog mor hygyrch i gymaint o bobl â phosibl.’
Dywedodd Avril Jones, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru,
‘Mae'n anrhydedd i’r Llyfrgell Genedlaethol dderbyn i’w chasgliad un o’n trysorau cenedlaethol ac un o'r llawysgrifau cynharaf yn yr iaith Gymraeg.
Mae'r gyfrol yn cynnwys yr hyn a allai fod y lenyddiaeth gynharaf sydd wedi goroesi mewn Cymraeg, a ysgrifennwyd yn y 6ed ganrif.
Am y tro cyntaf mewn dros ddwy ganrif, bydd y llawysgrif yn ail-ymuno â chasgliad sylfaen y Llyfrgell Genedlaethol, y Llawysgrifau Hengwrt, sy'n cynnwys dau arall o lawysgrifau eiconig yr iaith Gymraeg, sef Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Taliesin.’
Gwybodaeth Bellach
Siôn Jobbins, Swyddfa’r Wasg LlGC: 01970 632 902 post@llgc.org.uk
Sarah Garvey, Swyddfa’r Wasg Cyngor Caerdydd: 029 2087 2965 SGarvey@cardiff.gov.uk
Nodiadau i olygyddion:
Llyfr Aneirin, yw un o lawysgrifau mwyaf gwerthfawr Cymru a bydd yn cael ei ail uno â Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch ar ôl mwy na thair canrif ar wahân. Yn yr 1600au canol roeddent i gyd yn rhan o'r casgliad enwog Hengwrt yng Ngwynedd o lyfrau a llawysgrifau prin.
Llyfr Aneirin yn un o ychydig iawn o lawysgrifau canoloesol sydd wedi goroesi. Mae'n dyddio o tua 1265 ac yn cynnwys cerddi a ysgrifennwyd mewn hen Gymraeg a Chymraeg canol.
Mae'r llawysgrif yn cynnwys fersiwn ysgrifenedig o gerdd, 'Y Gododdin', a gyfansoddwyd mwy na thebyg yn y 7fed ganrif gan y bardd Aneirin (Neirin). Mae'r stori yn cynnwys manylion am golli trychinebus ym mrwydr Catraeth (Catterick gyfoes yn Swydd Efrog) rhwng yr hen Gymry (Brythoniaid) a’r Eingl-Saeson.
Bu’r llawysgrif yn eiddo i sawl gwahanol deulu bonheddig. Yn yr 1600au ymunodd â llyfrgell Robert Vaughan yn Hengwrt lle ymunodd â Llyfr Du Caerfyrddin a Llyfr Gwyn Rhydderch. Yn rhyfeddol, gwahanwyd y llawysgrif o'r casgliad hwn.
Ers ei hysgrifennu yn yr 1200au, gellir olrhain fod Llyfr Aneirin wedi bod ym meddiant y bobl ganlynol: