Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 05 Chw 10 15:56:00
Cynhelir lansiad arddangosfa Gwena! – Portreadau o’r Cymry ar nos Wener 12 Chwefror 2010 yng nghwmni’r cyflwynydd, canwr a ffarmwr, Dai Jones, Llanilar. Yno hefyd fydd y cartwnydd o Gaerdydd, ‘Picasso’ Griffiths, i dynnu portreadau unrhyw un sy’n dymuno, yn y fan a’r lle.
Llu, 01 Chw 10 15:50:00
Bellach gall dilynwyr y Llyfrgell ar draws y byd ddilyn ei hynt a’i helynt ar Twitter. Gallwch ddilyn y Llyfrgell yn y Gymraeg /llgcymru neu yn Saesneg /nlwales.
Gwe, 29 Ion 10 12:32:00
Nid pwy fydd yma ymhen can mlynedd ond beth fydd yma? Dyna’r cwestiwn mawr sy’n poeni nifer o bobl ym maes archifo a llyfrgelloedd wrth iddynt bryderu fod defnydd awduron a llenorion o gyfrifiaduron ac ebost yn golygu y gallai llawer iawn o waith gwreiddiol fynd ar goll am byth.
Llu, 25 Ion 10 14:56:00
Gyda marwolaeth annhymig Dave Berry ddydd Gwener 22 Ionawr, nid colli cyn gyd-weithwr yn unig wnaeth Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, ond cyfaill triw a’i chefnogwr mwyaf brwd.
Gwe, 22 Ion 10 10:03:00
Bydd y Llyfrgell yn dathlu diwrnod cariadon Cymru, Dydd Santes Dwynwen, ar ddydd Llun 25 Ionawr. Pam na ddewch chi draw? Bydd anrhegion a chardiau chwaethus Cymreig i ddathlu nawddsant y cariadon ar werth yn ein Siop a danteithion yng nghaffi Pen Dinas.
Mer, 20 Ion 10 10:33:00
Mae gwaith ac etifeddiaeth y diweddar arlunydd, Syr Kyffin Williams, yn un sy'n ennyn diddordeb ar draws Cymru a thu hwnt. Mewn cydnabyddiaeth o hyn, gall y rhai sy'n hoff o waith Kyffin bellach ddilyn datblygiadau diddorol catalogio ei waith yn y Llyfrgell Genedlaethol ar flog newydd cymynrodd Kyffin Williams.
Mer, 13 Ion 10 13:46:00
Bydd ffilm am y newyn mawr y ceisiodd Stalin ei guddio, ond a ddarganfuwyd ac yna datgelwyd gan newyddiadurwr Cymreig dewr, yn cael ei dangos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am 13:15 pm Dydd Mawrth 19 Ionawr.
Maw, 05 Ion 10 13:53:00
Gan mlynedd yn ôl, ym 1909, daeth casgliad llawysgrifau o Ystâd Peniarth yn eiddo i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac i nodi’r ffaith, mae rhai o’r llawysgrifau mwyaf pwysig yn cael eu harddangos nôl ym Meirionnydd yn Llyfrgell Dolgellau tan 30 Ionawr 2010.
Llu, 14 Rha 09 14:31:00
Bydd y Llyfrgell yn cau ddydd Iau 24 Rhagfyr am 15:00pm ac yn ailagor am 9.30am ddydd Llun 4 Ionawr.
Iau, 10 Rha 09 13:55:00
Bydd y rhai sydd am ddarganfod pwy yw pwy, neu’n hytrach pwy oedd pwy yng Nghymru ‘nawr yn gallu pori yn y diweddariad newydd i’r Bywgraffiadur Ar-lein. Ceir bellach bron i 5,000 o enwau ‘beirdd a chantorion, enwogion o fri’ ar y wefan safonol a dibynadwy ddwyieithog hon, wedi i enwau llawer o’r rhai a fu farw er 1970 gael eu hychwanegu i’r Bywgraffiadur.
Maw, 08 Rha 09 10:31:00
Bydd arddangosfa ‘Edrychiad Manwl’ gan un o artistiaid topograffigol gorau Cymru, Alan Percy Walker, yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell o 7 Rhagfyr 2009 - 12 Chwefror 2010.