Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Geirlyer Kyrnẁeig (Llsgr. Llanstephan 84)


 

Geiriadur Cernyweg a luniwyd gan yr ysgolhaig Edward Lhuyd ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif yw Llanstephan 84 neu'r Geirlyer Kyrnẁeig fel y'i gelwir. Fe'i hystyrir yn ffynhonnell bwysig ar gyfer Cernyweg yn y cyfnod diweddar.

 

 

Llawysgrifau Cernyweg Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Meingefn
Meingefn

Nid Llanstephan 84 yw'r unig lawysgrif Gernyweg a geir yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol. Ceir hefyd yma 2 o lawysgrifau pwysica'r iaith, sef 'Beunans Meriasek', drama mewn Cernyweg Canol a ysgrifennwyd ym 1504, wedi ei seilio ar fywyd, Meriadoc y sant o Lydaw (llsgr. Peniarth 105) a 'Beunans Ke', copi o ail hanner yr 16eg ganrif o ddrama wedi ei seilio ar fuchedd Ke Sant (llsgr. NLW 23849D).

 

Yn y Llyfrgell hefyd ceir nifer o eirfaoedd Cernyweg. Mae’r rhain yn cynnwys copi yn llaw Moses Williams (1686-1742) o eirfa Gernyweg (llsgr. Llanstephan 85) a phroflenni Lexicon Cornu-Britannicum (1865) y Parch Robert Williams (llsgr. Cwrtmawr 1138).

 

Wrth sôn am lawysgrifau Cernyweg ni ellir hepgor enw'r ysgolhaig Edward Lhuyd (1660 – 1709). Heb ei ymroddiad a'i astudiaethau ef o'r Gernyweg ni fyddai nifer o lawysgrifau wedi goroesi hyd heddiw.

 

Mae'r rhain yn cynnwys 2 gopi o'r 'Ordinalia' a fu gynt yn eiddo i Lhuyd (llsgrau. Llanstephan 97 a Peniarth 428), yn ogystal â'r Geirlyer Kyrnẁeig (llsgr. Llanstephan 84).

 

 

Edward Lhuyd

 

Ganed Edward Lhuyd ym 1660 ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Croesoswallt cyn iddo fynd i astudio'r gyfraith yng Ngholeg Iesu, Rhydychen ym 1682. Roedd gan Lhuyd ddiddordeb mawr mewn hynafiaethau, llysieueg a daeareg ac yn fuan iawn ar ôl mynd i'r Coleg fe drodd ei sylw at y gwaith gwyddonol arbrofol a wnaed yn Amgueddfa Ashmole, Rhydychen. Gadawodd y coleg cyn graddio ac fe benodwyd ef yn un o is-geidwaid yr Amgueddfa ym 1687 ac yna'n geidwad ym 1691.

 

 

Un o dudalennau agoriadol y Geirlyer Kyrnẁeig
Un o dudalennau agoriadol y Geirlyer Kyrnẁeig

Ym 1707, cyhoeddodd Lhuyd y gyfrol gyntaf o'i 'Archaeologia Britannica: an Account of the Languages, Histories and Customs of Great Britain, from Travels through Wales, Cornwall, Bas-Bretagne, Ireland and Scotland'.

 

Bwriadai gynnwys y Geirlyer Kyrnẁeig yn ail gyfrol arfaethedig ei waith, gan gyhoeddi ei fwriad yn y gyfrol gyntaf (t. 253):

 

"I find first that I must recal the promise made of a Cornish-English Vocabulary. I have one by me, written about six years since, and have lately improv’d it whith what additions I could; But there being no room for it in this volume…it must be deferred to the next."                          

 

Yn anffodus, bu farw Lhuyd yn sydyn ym 1709 cyn iddo gael y cyfle i baratoi'r ail gyfrol ar gyfer y wasg.

 

 

 

Geirlyer Kyrnẁeig

 

Ym 1702 treuliodd Lhuyd oddeutu 4 mis yng Nghernyw yn teithio o blwyf i blwyf er mwyn casglu deunydd ar gyfer y Geirlyer Kyrnẁeig. Yn ystod yr amser hwn bu'n siarad â brodorion yr ardal gan gofnodi eu geirfaoedd mewn nodlyfr. Dyna yn ei hanfod yw cynnwys y Geirlyer Kyrnẁeig, sef geirfa Gernyweg gydag ystyron cyfatebol yn y Saesneg.

 

Nodlyfr bychan o ran maint yw'r Geirlyer Kyrnẁeig yn 172 o dudalennau, gyda'r eirfa yn llenwi 162 ohonynt. Cafodd ei ysgrifennu yn llaw Lhuyd mewn inc du a choch. Ceir nifer fawr o gywiriadau ynddo gydag amryw o eiriau wedi'u croesi allan.

 

 

Marwnad i'r Brenin William III (t. 164)
Marwnad i'r Brenin William III (t. 164)

Ar ddiwedd y gyfrol, ar dudalen 164, ychwanegwyd marwnad yn yr iaith Gernyweg i'r Brenin William III a fu farw ym 1702, ynghyd â chyfieithiad i'r Lladin.

 

Flynyddoedd wedi marwolaeth annhymig Lhuyd ym 1709, daeth y llawysgrif yn rhan o gasgliad personol Syr John Williams, prif gymwynaswr y Llyfrgell Genedlaethol. Cyflwynodd y gyfrol ymhlith ei gasgliad i'r Llyfrgell ym 1909.

 

Erbyn heddiw ystyrir Lhuyd yn un o'r ysgolheigion mwyaf amryddawn a welodd Cymru erioed. Caiff ei barchu am yr holl waith ymchwil a wnaeth i gasglu gwybodaeth am yr ieithoedd Celtaidd a'u cyd-berthynas, a'i waith ar y Gernyweg yw un o'r astudiaethau prin hynny a geir o'r iaith tra'r oedd hi'n fyw.

 

 

Cysylltiadau diddorol

 

 

 

Darllen Pellach

 

  • W Ll Davies, Cornish Manuscripts in the National Library of Wales (Aberystwyth, 1939)
  • R T Gunther, Life and letters of Edward Lhwyd (Oxford, 1945)
  • F Emery, Edward Lhuyd F. R. S. 1660 – 1709 (Caerdydd, 1971)
  • Derek R Williams, Prying into every hole and corner; Edward Lhuyd in Cornwall in 1700 (Trewirgie, 1993)

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-08-2008