Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Tirlun Cymru - Orielau Siroedd Cymru


 

Mae casgliad Tirlun Cymru yn cynnwys printiau o bob rhan o’r wlad. Gellir gweld amrywiaeth o brintiau yn cynnwys ardaloedd gwledig, a threfol, mynyddoedd ac arfordir o’r gogledd, de, gorllewin, dwyrain a chanolbarth Cymru. Os ydych am weld mwy o brintiau o siroedd Cymru, gallwch chwilio yn ôl enw lle neu bwnc ar e-Adnoddau.

 

Gellir gweld detholiad o brintiau o bob sir wrth glicio ar y dolenni isod.

 

 

 

Ceir nifer fawr o brintiau o adeiladau enwog megis Castell Caernarfon ac Abaty Tyndyrn. Mae enghreifftiau yn y casgliad sy’n dangos trefi diwydiannol megis Castell Nedd ac Abertawe, trefi hanesyddol megis Mynwy a Chonwy, rhyfeddodau natur, cestyll a mynyddoedd.

 

Trefnir yr orielau yn ôl hen siroedd Cymru cyn 1974 oherwydd dyna’r ffordd y cafodd y casgliad ei drefnu yn wreiddiol. Mae maint yr orielau yn amrywio, ond gwnaethpwyd ymdrech i gynnwys printiau i adlewyrchu naws y sir, a dangos y math o brintiau sydd yn y casgliad. Os ydych am weld mwy o brintiau o unrhyw dref, pentref neu ardal, gellir chwilio yn ôl enw lle neu bwnc ar y gronfa ddata.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-06-2009