Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gellir gweld detholiad o brintiau ar bob testun wrth glicio ar y dolenni isod. Os ydych am weld mwy o brintiau ar y pynciau, neu ardal, gellir chwilio yn ôl enw lle neu bwnc ar e-Adnoddau.
![The town of Conway [1850] PB02500 gan S. Crowther fl. 1850 The town of Conway [1850] PB02500 gan S. Crowther fl. 1850](typo3temp/pics/e4ef18e789.jpg)
Mae’r printiau yng nghasgliad Tirlun Cymru yn cynnwys amrywiaeth o themâu sy’n adlewyrchu tirwedd ac adeiladau’r wlad. Ceir printiau o’r cestyll enwog megis Caerffili a Chonwy, yn ogystal â chestyll llai adnabyddus megis Dolbadarn.
Roedd plastai, olion abatai fel Cymer ac Ystrad Fflur yn bynciau poblogaidd i rai arlunwyr, tra bod y byd natur, diwydiant ac adeiladau newydd yn apelio at eraill. Ceir nifer o brintiau yn dangos pontydd enwog y Fenai, Britannia, a Chrymlyn, a phont hanesyddol Pontypridd. Gwelir gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen ar rai o’r printiau. Mae nifer o ddelweddau o fynyddoedd Eryri ac arfordir Sir Benfro yn tystio i boblogrwydd yr ardaloedd hyn i ymwelwyr.