Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Llywodraethiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru


Siarter Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy Siartr Frenhinol ar 19eg Mawrth 1907. Rhoddwyd Siartrau Atodol i’r Llyfrgell ym 1911 ac ym 1978, Siartrau a ddiwygiai’r cyfansoddiad ryw ychydig. Ar 19eg Gorffennaf 2006 rhoddwyd Siartr Atodol newydd gan Ei Mawrhydi Y Frenhines. Y mae Siartr Atodol 2006 yn diddymu Siartr Atodol 1978 ac mae’n newid cyfansoddiad a llywodraeth y Llyfrgell yn sylweddol. Lle gynt yr oedd gan y Llyfrgell Lys a Chyngor i lywodraethu drosti, mae ganddi yn awr Fwrdd o Ymddiriedolwyr.

Statws cyfreithiol

 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gorff a ymgorfforwyd gan Siartr Frenhinol, ac mae hefyd yn elusen (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a noddir gan Lywodraeth Cymru (CNLC).

Ariannu’r Llyfrgell

 

Derbyn y Llyfrgell, yn flynyddol, grant cymorth gan Lywodraeth Cymru. Yr arian hwn yw prif ffynhonell incwm y Llyfrgell.

Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

 

Ers hanner olaf 2006 (ac yn sgil derbyn Siartr Atodol newydd gan y Frenhines) mae gan y Llyfrgell Fwrdd o Ymddiriedolwyr a elwir rhagllaw 'y Bwrdd'. Mae gan y Bwrdd 15 o aelodau. Penodir wyth o’r aelodau gan Lywodraeth Cymru a saith gan y Llyfrgell Genedlaethol.

 

Mae gan y Llyfrgell ei swyddogion ei hun a rhydd y Siartr yr hawl i’r Bwrdd i ddirprwyo unrhyw un o’u swyddogaethau iddynt hwy, ac eithrio’r gallu i wneud rheoliadau a phenodi a diswyddo’r Llyfrgellydd (mae’r Llyfrgellydd yn gyflogedig ac ef yw Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Llyfrgell).  

 

Penodir yr Ymddiriedolwyr, gan gynnwys tri Swyddog y Bwrdd, yn unol â’r Statudau a geir yn yr atodlen i Siartr Atodol 2006. Y tri swyddog yw’r Llywydd, yr Is-lywydd, a’r Trysorydd. Rheolir a rheoleiddir busnes y Llyfrgell hefyd yn unol â’r Statudau a’r Rheoliadau a drefnir gan y Bwrdd.

Aelodau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

 

Penodir yr Ymddiriedolwyr, gan gynnwys y tri Swyddog (sef y Llywydd, yr Is-lywydd, a’r Trysorydd), yn unol â’r Statudau.

 

Yr aelodau presennol yw:

Syr Deian Hopkin (Llywydd; penodiad Llywodraeth Cymru)
Is-lywydd:  mae'r swydd hon yn wag ar hyn o bryd
Colin John (Trysorydd)

David Barker (penodiad Llywodraeth Cymru)

Yr Arglwydd Aberdare (penodiad Llywodraeth Cymru)

Tricia Carter (penodiad Llywodraeth Cymru)
Roy Evans (penodiad Llywodraeth Cymru)
John E Gittins
Wyn Penri Jones

Enid Morgan (penodiad Llywodraeth Cymru)
Roy Roberts

Michael Trickey

David Hugh Thomas
Gareth Haulfryn Williams

Huw Williams (penodiad Llywodraeth Cymru)

 

 

Cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

 

Mae'r Bwrdd yn cyfarfod yn y Llyfrgell Genedlaethol ac eithrio unwaith y flwyddyn, pan fydd ei gyfarfod yn gyfarfod ymestyn.

 

2012:

 

Cyfarfodydd blaenorol:

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 02-10-2013