Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwe, 21 Rha 07 12:42:00
Efallai fod dathliadau canmlwyddiant Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2007 wedi dod i ben, ond mae arddangosfa’r canmlwyddiant, 'Yn y Lle Hwn', wedi ei gyhoeddi ar y we a bydd yno am flynyddoedd i’w fwynhau.
Gwe, 16 Tac 07 16:48:00
Mae Rhodri Glyn Thomas, y Gweinidog dros Dreftadaeth, wedi cyhoeddi bod Mr Dafydd Wigley a Mr Arwel Ellis Owen wedi'u penodi'n Llywydd ac yn Is-Lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bydd amodau eu penodiad yn dechrau ar 1 Rhagfyr 2007 ac yn para am 4 blynedd.
Iau, 08 Tac 07 12:14:00
Beth ddywed lluniau o hen ddrwgweithredwyr Cymru amdanynt … ac am y gymdeithas oedd yn eu cosbi? Yn Lens, Gŵyl Dogfennu Cymru â’r Camera ar ddydd Sadwrn 10 Tachwedd, bydd Yr Athro Richard W. Ireland o Brifysgol Aberystwyth yn dadlau fod portreadau o ddrwgweithredwyr, y myg-shot enwog, yn rhan bwysig ond anghofiedig yn hanes ffotograffiaeth. Dywed hefyd fod Cymru wedi chwarae rhan amlwg yn y datblygiadau cynnar yma.
Iau, 01 Tac 07 11:53:00
Fel Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru rhwng 1983 a 2004, mae gan David Jenkins atgofion byw o lywodraeth Margaret Thatcher a’i heffaith ar Gymru a’r mudiad llafur. Yn narlith flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig ar ddydd Gwener 2 Tachwedd, bydd David Jenkins yn ail-fyw brwydrau ffyrnig yr undebau gyda’r Llywodraeth ac hefyd yr hanes bythgofiadwy am sut y llwyddodd yr undebau a’r Ceidwadwyr i gydweithio er mwyn cryfhau economi Cymru.
Mer, 10 Hyd 07 09:56:00
Cychwynna arddangosfa o engrafiadau pren syfrdanol o brydferth Colin See-Paynton, 'Of a Feather - an avian alphabet' yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 20 Hydref.
Maw, 18 Med 07 13:47:00
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi datblygu tudalen wybodaeth Addysg Uwch newydd. Bydd tudalen newydd yn cael ei chyhoeddi bob chwarter gyda gwybodaeth gyfredol.
Maw, 18 Med 07 10:38:00
Bellach gallwch gofrestru i gael tocyn darllen cyn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llu, 17 Med 07 16:54:00
Mae Canolfan ddydd Plas Lluest sy’n cynnig gwasanaeth i unigolion gydag anhawsterau dysgu, wedi agor ei harddangosfa yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ddydd Gwener 7 Medi. Mae’r arddangosfa, 'Ein Llyfrgell trwy Ddistawrwydd a Sain' yn gasgliad amlsynhwyraidd o weithiau celf gan aelodau o Brosiect Celf Plas Lluest i ddathlu 100 mlynedd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Llu, 17 Med 07 15:47:00
I nodi 200 mlynedd ers pasio’r Ddeddf i ddiddymu caethfasnach, bydd arddangosfa newydd sy’n procio’r meddwl yn dod i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn yr Hydref, yn dwyn y teitl 'Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth'.
Maw, 31 Gor 07 14:18:00
Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol sy'n rhoi blas ar ffotograffau person a wnaeth fwy na neb i roi'r bywyd eisteddfodol ar gof a chadw - Geoff Charles. Er nad oedd Geoff yn un o ŵyr y 'pethe' teithiodd i gannoedd o eisteddfodau bach a mawr wrth weithio i'r Cymro o'r 1930au ymlaen, ac yn y gyfrol Eisteddfodau Geoff Charles ddetholwyd cyfran o'i luniau gan yr awdur Ioan Roberts.
Llu, 16 Gor 07 09:58:00
Mae Geirlyer Kyrnẁeig (Llsgr. Llanstephan 84), geiriadur Cernyweg gan y Cymro amrwyddawn, Edward Lhuyd, bellach wedi ei ddigido.
Iau, 12 Gor 07 12:44:00
Lansir llyfr am Huw T Edwards, un o Gymry mwyaf dylanwadol y ganrif ddiwethaf, yn y Llyfrgell nos Wener 13 Gorffennaf.
Llu, 09 Gor 07 13:34:00
Ar nos Fercher 4 Gorffennaf dadorchuddiwyd plac i gofnodi lleoliad cyntaf y Llyfrgell Genedlaethol ar Faes Lowri yn Aberystwyth.
Llu, 09 Gor 07 12:04:00
Llunio dyfodol Llyfrgell Genedlaethol Cymru - mynegwch eich barn
Iau, 28 Meh 07 12:18:00
Bydd ystafell arddangos Hengwrt (sy’n arddangos llawysgrifau prin y Llyfrgell) ar gau ar ddydd Mercher 11 tan ddydd Gwener 13 Gorffennaf, er mwyn ail-gyflenwi casgliadau. Bydd yn ail-agor ar ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf. Ymddiheurwn am unrhyw anhawster.
Mer, 27 Meh 07 12:32:00
Ar ddydd Gwener Mehefin 29 bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhyddhau gêm gyfrifiadurol gyffrous o’r enw Antur Fawr Nanw. Nod y gêm yw helpu cymeriad o’r enw Nanw i chwilio am 7 o drysorau’r Llyfrgell sydd wedi cael eu cuddio gan ei ffrindiau drygionus, a’u dychwelyd yn ddiogel i’r Llyfrgellydd.
Mer, 27 Meh 07 12:09:00
Mae Cymru’n fyd-enwog am ei Dresel Cymreig, ond ai dyna’r unig gyfraniad gan Gymru i fyd celfi a chrefft? A fedrwn ni son am y fath beth ag ‘arddull Gymreig’ a beth am y gwahanol arddulliau rhanbarthol o fewn Cymru?
Maw, 26 Meh 07 14:24:00
Bydd gŵyl ffilm newydd yn cael ei chynnal yn Aberystwyth rhwng 25 a 28 Hydref 2007. Bydd Fflics – Clasuron Sgrin Cymru yn Ŵyl bedwar diwrnod yn dathlu hanes y sinema yng Nghymru a hefyd y Cymry ar y sgrin fawr: o’r arloeswyr cynnar hyd at ddiwedd y cyfnod nitrad.
Llu, 18 Meh 07 13:08:00
A hithau hanner ffordd drwy ddathliadau ei chanmlwyddiant, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn holi’r cyhoedd sut yr hoffent weld y sefydliad yn datblygu dros y 100 mlynedd nesa.
Gwe, 25 Mai 07 16:47:00
Yr hen iawn a’r newydd sbon ochr yn ochr ar Stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Eisteddfod yr Urdd.
Gwe, 18 Mai 07 17:07:00
Dau o brif sefydliadau Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru, sy’n gyfrifol am gyflwyno Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau eleni.
Maw, 08 Mai 07 09:26:00
Mae un o lawysgrifau eglwysig cynharaf Cymru, Llyfr Llandaf (Liber Landavensis), nawr i’w gweld ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Gwe, 30 Maw 07 11:48:00
Yng Nghynulliad Prifysgol Cymru i ddyfarnu graddau er anrhydedd, a gynhelwyd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ar ddydd Gwener 30 Mawrth, cyflwynodd Dirprwy Ganghellor y Brifysgol Neges o Gyfarchion a Llongyfarchiadau gan y Brifysgol i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, i ddathlu canmlwyddiant dyfarnu Siarter Frenhinol gyntaf y Llyfrgell Genedlaethol ym mis Mawrth 1907.
Iau, 29 Maw 07 14:34:00
Ar ddydd Iau 29 Mawrth bydd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, yn lansio’n swyddogol gwefan newydd rhyngweithiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru www.llgc.org.uk.
Maw, 27 Maw 07 17:04:00
Lanswyd gwefan newydd a chyffrous sy’n adrodd hanes sefydlu’r gwladfeydd Cymreig ym Mhatagonia – www.glaniad.com ar 19 Mawrth yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd.
Llu, 26 Maw 07 15:11:00
Bydd cyfres am y Llyfrgell, Tales from the National Library, yn dechrau ei darllediad ar BBC Wales o ddydd Iau 29 Mawrth. Cyflwynir y gyfres gan y darlledwr ac awdur poblogaidd, Trevor Fishlock. Mwy o wybodaeth
Llu, 19 Maw 07 13:06:00
Dydd Llun 19 Mawrth 2007 fydd union ddyddiad canmlwyddiant sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar y diwrnod hwnnw yn 1907 cyflwynwyd y Siarter Frenhinol gan sefydlu’r Llyfrgell yn swyddogol, penllanw 34 mlynedd o ymgyrchu.
Mer, 14 Maw 07 10:34:00
Caiff y gyfrol Gernyweg Canol hirddiswyliedig, Bewnans Ke: the Life of Saint Kea, ei lansio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth nos Wener 9 Mawrth.
Maw, 06 Maw 07 09:19:00
Bydd dau chwaraewr rygbi o Seland Newydd sy'n chwarae i'r Sgarlets yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar ddydd Llun 5 Mawrth i roi eu barn ar gadair Eisteddfodol arbennig iawn.
Gwe, 23 Chw 07 17:38:00
Fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr, bydd staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru (a rhai o'i darllenwyr mwyaf selog) yn cynnal Darllenathon ar ddydd Llun 26 Chwefror.
Llu, 22 Ion 07 15:56:00
Heddiw [22 Ionawr], cyhoeddodd Alun Pugh, y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, 3 phenodiad i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Sul, 07 Ion 07 15:39:00
Ar ddydd Gwener 26 gwelir datgelu un o'r prosiectau mwyaf erioed i ddigido a rhoi casgliadau Cymreig printiedig arlein.