Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?
Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!

Newyddion - 2008

Trefniadau Gwyliau Nadolig a Chalan 2008/2009

Trefniadau Gwyliau Nadolig a Chalan 2008/2009

Gwe, 19 Rha 08 12:19:00

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn cau ddydd Mercher 24 Rhagfyr am 16.00 yp ac yn ail agor am 9.30yb ddydd Llun 5 Ionawr 2009.

Wi-Fi yn y Llyfrgell Genedlaethol

Wi-Fi am ddim: cynllun peilot i ddarllenwyr

Maw, 16 Rha 08 17:25:00

Mae’r Llyfrgell yn falch o fedru cynnig mynediad Wi-Fi yn rhad ac am ddim i ddarllenwyr.

Llyfr Oriau De Grey

Delweddau Coeth o Stori’r Geni ar wefan y Llyfrgell

Maw, 16 Rha 08 15:24:00

Yng nghanol holl firi masnachol y Nadolig eleni beth am fwynhau golygfeydd ysblennydd o’r Geni yn llawysgrif Ganoloesol De Grey ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol?

Ryan Giggs © Peter Edwards

Prynu portread o Ryan Giggs O.B.E.

Mer, 10 Rha 08 12:23:00

Ar 10 Rhagfyr 2008 derbyniodd LlGC bortread olew o Ryan Giggs a brynwyd wrth yr arlunydd Peter Edwards.

Arddangosfa Gareth Parry

Gareth Parry - Rhai Llefydd, Rhai Pobl

Mer, 03 Rha 08 17:29:00

Bydd arddangosfa o waith yr arlunydd o Flaenau Ffestiniog, Gareth Parry, i’w gweld yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, o 6 Rhagfyr - 28 Chwefror 2009.

Dathlu'r 'Dolig

Siopa gyda’r Hwyr yn y Llyfrgell Genedlaethol – Dathlu’r ‘Dolig

Mer, 03 Rha 08 12:15:00

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol ar agor tan 20.00 Nos Iau 11 Rhagfyr ar gyfer siopa a digwyddiadau Nadoligaidd.

De Natura Rerum

Enghraifft brin o lawysgrif o’r 12fed ganrif i’w gweld arlein

Iau, 27 Tac 08 11:44:00

Mae enghraifft brin o lawysgrif Lladin (De Natura Rerum) o’r 12fed ganrif y credir iddi darddu o Gymru, wedi ei digido a bellach i’w gweld arlein ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.

Prosiect Artist Preswyl

Llwyfan Cenedlaethol i Waith Celf Disgyblion Pedair Ysgol ac Artist Preswyl

Maw, 25 Tac 08 11:23:00

Wedi blwyddyn o waith, mae Artist preswyl y Llyfrgell Genedlaethol, Blue McAskill a disgyblion pedair ysgol yn barod i ddadorchuddio eu gwaith wrth iddo gael ei arddangos yr wythnos hon.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Y Llyfrgell Genedlaethol i Gau ar Sadyrnau oherwydd Diffyg Cyllid

Llu, 24 Tac 08 10:36:00

Yn wyneb gwasgfa ariannol mae Bwrdd y Llyfrgell Genedlaethol wedi penderfynu cau’r adeilad i’r cyhoedd ar ddydd Sadwrn o 1 Ebrill 2009 ymlaen.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Tri Phenodiad Newydd i Fwrdd Ymddiriedolwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gwe, 21 Tac 08 11:44:00

Mae’n bleser gan Dafydd Wigley, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Alun Ffred Jones, Gweinidog Treftadaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyhoeddi penodiad tri Ymddiriedolwr i wasanaethu ar Fwrdd y Llyfrgell.

William Brown 'Mari Lwyd ar y bryn coch'

Gweinidog Treftadaeth Cymru i ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Mer, 19 Tac 08 11:25:00

Bydd Gweinidog Treftadaeth Llywodraeth y Cynulliad, Alun Ffred Jones AC, yn ymweld â Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar yr 22ain o Dachwedd i agor arddangosfa newydd o gelf gyfoes - Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60.

Cwrs tirwedd Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol

Cwrs tirwedd Cymru yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mer, 12 Tac 08 14:07:00

Bydd y Llyfrgell yn agor ei drysau i groesawu cwrs 'Celf yn Nghymru: Tirluniau', cwrs Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth.

Casgliad Brenhinol © 2008 Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II

Leonardo da Vinci yn ymweld â’r Llyfrgell Genedlaethol

Iau, 09 Hyd 08 10:12:00

Bydd arddangosfa arbennig o luniadau gan Leonardo da Vinci, nas gwelwyd erioed o’r blaen yng Nghymru, yn agor yr hydref hwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Delwedd: Leonardo da Vinci: Trawslun o benglog, (Manylyn) 1489 Casgliad Brenhinol © 2008 Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II

Delwedd o gasgliad John Thomas

Dathlu bywyd a gwaith un o ffotograffwyr mawr y byd

Llu, 06 Hyd 08 11:46:00

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol ar y cyd gyda Y Lolfa newydd ryddhau'r gyfrol Hen Ffordd Gymreig o Fyw sef casgliad sylweddol o luniau ffotograffydd Cymreig pwysicaf oes Fictoria – John Thomas.

Yr Arglwydd Elystan-Morgan

‘Ambell Atgof Gwleidyddol’ – Yr Arglwydd Elystan-Morgan

Gwe, 03 Hyd 08 16:18:00

Yr Arglwydd Elystan Morgan fydd siaradwr gwâdd Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig eleni, a gynhelir ar ddydd Gwener 7 Tachwedd. Dyma’r ddiweddaraf mewn cyfres o ddarlithoedd a drefnir gan yr Archif Wleidyddol sy’n rhan o’r Llyfrgell Genedlaethol. Pwnc darlith yr Arglwydd Elystan-Morgan yw ‘Ambell atgof Gwleidyddol’.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Copi diweddaraf Dalen arlein nawr!

Gwe, 03 Hyd 08 16:00:00

Mae copi diweddaraf Dalen, cylchlythyr y Llyfrgell Genedlaethol, ar gael arlein.

Dafydd Wigley, Llywydd y Llyfrgell

Llyfrgell Genedlaethol yn cyhoeddi polisi strategaeth newydd

Maw, 30 Med 08 15:12:00

Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn hawlio’i lle ochr yn ochr â rhai o lyfrgelloedd mawr y byd pan fydd y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones AC, yn dadorchuddio ei strategaeth dair blynedd newydd, 'Llunio’r Dyfodol', yn y Senedd yfory.

Arwel Jones

Penodiad newydd

Gwe, 12 Med 08 13:21:00

Mae'n bleser gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gyhoeddi fod Arwel "Rocet" Jones wedi’i benodi yn Gyfarwyddwr Adran Gwasanaethau Cyhoeddus y Llyfrgell.

Once upon a time in Merthyr © Robert Haines

Gŵyl Lens - Cyhoeddi Siaradwyr

Mer, 10 Med 08 12:54:00

Cynhelir Gŵyl Lens - gŵyl dogfennu Cymru â’r Camera - yn y Llyfrgell Genedlaethol am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, ar 1 Tachwedd.

© Jeremy Moore Photographs - 
Rhwng y ddaear ar nefoedd

Blaenau: Rhwng y Ddaear a'r Nefoedd - Ffotograffau Jeremy Moore

Gwe, 05 Med 08 11:05:00

Bydd un o drefi bychan enwocaf Cymru yn destun arddangosfa o ffotograffau gan Jeremy Moore fydd yn agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddydd Sadwrn 20 Medi.

'Portraits of Swansea Characters'; 'Mrs Gwynn' c.1820. George O. Delamotte.

Cynhadledd Gwisg Draddodiadol Cymru

Gwe, 22 Aws 08 16:46:00

Cynhelir cynhadledd undydd arbennig ar bwnc Gwisg Draddodiadol Cymru yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn 20 Medi.

Arddangosfa Gwisg Draddodiadol Cymru

Fideo hyrwyddo Arddangosfa Gwisg Draddodiadol Cymru

Iau, 21 Aws 08 11:46:00

Mae arddangosfa fawr yr haf, Gwisg Draddodiadol Cymru, wedi denu niferoedd da o Gymry, twristiaid, grwpiau tramor a chymdeithasau hanes. Ond gyda’r arddangosfa’n dod i ben ar 4 Hydref, mae’r Llyfrgell wedi cynhyrchu ei fideo hyrwyddo gyntaf erioed.

Gabriel Restucha

O Batagonia i Aberystwyth

Maw, 19 Aws 08 15:40:00

Bu Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ffodus iawn i dderbyn rhodd o lyfrau o dalaith Chubut ym Mhatagonia i'w hychwanegu i’w chasgliadau yn Aberystwyth.

Eisteddfod Genedlaethol, Caerdydd

Y Llyfrgell yn yr Eisteddfod

Iau, 31 Gor 08 15:39:00

Bydd gan y Llyfrgell Genedlaethol stondin yn yr Eisteddfod eleni yng Nghaerdydd.

Logo mapiau yr Arolwg Ordnans

System Data Digidol yr Arolwg Ordnans yn mynd yn fyw yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mer, 09 Gor 08 10:27:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn falch i gyflwyno system newydd ar gyfer syllu ar fapiau graddfa fawr yn dilyn arwyddo cytundeb pwysig gydag Arolwg Ordnans. Mae’r cytundeb yn sicrhau adnau parhaus o gipluniau blynyddol o’r mapio digidol mwyaf manwl o Brydain Fawr.

Llyfr Taliesin

Cau’r Oriel

Mer, 30 Ebr 08 09:22:00

Bydd Oriel Gregynog, yr Anecs ac Oriel Hengwrt ar gau i’r cyhoedd o ddydd Llun, 2 Mehefin ac yn ail-agor ddydd Sadwrn, 21 Mehefin.

Huw T Edwards

Huw T Edwards, Prif Weinidog Answyddogol Cymru gan Gwyn Jenkins

Maw, 29 Ebr 08 10:03:00

Hanes y dyn a adwaenir fel ‘Prif Weinidog Answyddogol Cymru’ fydd testun Cyflwyniad Awr Ginio Gwyn Jenkins, dydd Mercher 7fed o Fai 2008 am 1.15pm.

Adnewyddu Ystafell y Gogledd

Ystafell Ddarllen y Gogledd - Adnewyddu!

Gwe, 25 Ebr 08 11:47:00

Mae gwaith ar fin dechrau, ar y 3ydd o Fai, i ddatblygu a diweddaru’r cyfleusterau a’r gwasanaethau yn Ystafell Ddarllen y Gogledd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r gwaith adeiladu yn rhan o gynllunio strategol y Llyfrgell i wella cyfleusterau darllen defnyddwyr y Llyfrgell.

John Rogers, artist

O’r Affrig i Wlad yr Iâ: Mordaith Geltaidd

Gwe, 04 Ebr 08 10:04:00

O’r Affrig i Wlad yr Iâ yw enw’r arddangosfa yn seiliedig ar daith yr artist John Rogers ar hyd arfordir yr Iwerydd. Mae’r lluniau olew hardd yn cofnodi bywyd gwyllt a phobl Moroco, Galisia, Llydaw, Cernyw, Cymru, Iwerddon, Ynysoedd Heledd hyd at Wlad yr Iâ.

Arddangosfa Protest!

Yma o Hyd! - Oeddech Chi?

Iau, 20 Maw 08 09:38:00

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth am ddarganfod os oeddech chi yn un o brotestiadau mwyaf hanesyddol Cymru – protest cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Bont Trefechan yn Aberystwyth yn 1963.

Blue MacAskill - artist preswyl newydd

Blue MacAskill – artist preswyl newydd

Maw, 11 Maw 08 09:52:00

O Faldwyn y daw Artist Preswyl newydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac mae ganddi wreiddiau lliwgar a chysylltiadau cryf ag Aberystwyth a’r Llyfrgell.

Andrew Green

Yn ôl troed Madog ...

Gwe, 15 Chw 08 12:40:00

Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn chwifio’r Ddraig Goch yn America'r mis yma.

Cyflwyno copi o'r Gwyddoniadur a'r Encyclopaedia

Cyflwyno'r Gwyddoniadur i'r Llyfrgell

Iau, 07 Chw 08 14:27:00

Cyflwynwyd copi yr un o'r cyfrolau hir-ddisgwyledig, Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig a'r Welsh Academy Encyclopaedia of Wales, i'r Llyfrgellydd, Andrew Green, ar ddydd Llun 4 Chwefror.

Winifred Coombe Tennant: Bywyd trwy Gelf

Winifred Coombe Tennant - Bywyd trwy Gelf

Llu, 04 Chw 08 12:15:00

Swffragét, ymgyrchydd gwleidyddol, noddwraig celf, a chyfryngydd ysbrydol. Aeth darganfyddiad dyddiadur miliwn o eiriau gwraig anghyffredin o’r enw Winifred CoombeTennant â Peter Lord yn ddwfn i mewn i’r byd gwleidyddol, cymdeithasol a chelfyddydol yr oedd yn rhan ohono yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Dadlennir ei bywyd mewn arddangosfa hynod yn y Llyfrgell Genedlaethol a bywgraffiad newydd o’r un enw, Winifred Coombe Tennant - A Life through Art.

Cymru a Rhyfel Cartref Sbaen

Disgyblion Aberystwyth i Lansio Arddangosfa am Ryfel Cartref Sbaen yn y Llyfrgell Genedlaethol

Llu, 04 Chw 08 10:40:00

Caiff disgyblion ysgol uwchradd Penglais yn Aberystwyth a fu’n cynorthwyo i gynhyrchu llyfr testun ar Ryfel Cartref Sbaen, y cyfle i weld eu gwaith ar waith yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ar Chwefror 20.

Lansiad Troi'r Tudalennau yn y Senedd

Trysorau cudd trawiadol arlein am y tro cyntaf

Llu, 28 Ion 08 10:42:00

‘Troi tudalennau’ dogfennau hanesyddol o Gymru ar wefan y Llyfrgell Brydeinig. Cynhelir digwyddiadau lansio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd yr Alban

Anthony Stokes

Cymoedd Anthony Stokes

Gwe, 11 Ion 08 12:42:00

Daw Cymoedd diwydiannol y De i Geredigion wledig mewn arddangosfa deithiol newydd sy’n agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth ar 12 Ionawr 2008.

Nigel Jenkins - un o'r siaradwyr yn y Diwrnod Agored

Diwrnod Agored – 26 Ionawr

Mer, 09 Ion 08 15:24:00

Unwaith eto, ceir diwrnod llawn o ddigwyddiadau am ddim yn y Llyfrgell wrth i ni agor y drysau ar gyfer ein Diwrnod Agored blynyddol.

Cronicl Elis Gruffudd

Elis Gruffudd – Cymro Calais

Maw, 08 Ion 08 14:34:00

Mae gwaith y milwr a’r croniclwr enwog o’r Canol Oesoedd, Elis Gruffudd, bellach ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 11-10-2010