Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Adysgrif DVD Hyrwyddo Codi Arian


Trac sain y ffilm yw 'Danse Macabre' gan Camille Saint-Saëns.

 

Mae’r promo byr yma’n hyrwyddo’r syniad o ddigido casgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

 

Pennawd Agoriadol: ‘Mae degau o filoedd o bobl yn ymweld â

Llyfrgell Genedlaethol Cymru bob blwyddyn’.

Golygfa ochr o flaen adeilad y Llyfrgell gyda delwedd o flaen yr adeilad o bell i ddilyn.

Y llechen groeso o flaen y Llyfrgell gyda’r geiriad ‘Llyfrgell Genedlaethol Cymru/The National Library of Wales, Croeso/Welcome, Braint pob Gwybodaeth’.

 

Darlun aneglur o ran o’r drws tro ym mlaen y Llyfrgell, yna bobl yn dod i mewn i’r Llyfrgell trwy’r drws tro.

Darlun camera yn edrych i fyny’r prif goridor i’r oriel a’r nenfwd uwchben.

Gwraig yn cerdded i fyny grisiau’r Atriwm yn y Llyfrgell.

Pennawd: ‘Fe ddôn nhw yma i ddysgu a gwelwn ferch ifanc yn edrych ar gynnwys cas arddangosfa gwydr.

Dyn a dynes yn edrych ar yr arddangosfa yn Oriel Gregynog.

Dyn yn edrych ar gynnwys cas arddangosfa gwydr.

 

Pennawd: ‘I ddarganfod’ a gwraig yn eistedd o flaen sgrin cyfrifiadur gyda’i chefn tuag atom a gŵr yn eistedd o flaen sgrin cyfrifiadur gyferbyn â hi.

Merch ifanc yn darllen llawysgrif.

Oriel Ystafell Ddarllen y Gogledd.

Pennawd: ‘I gysylltu â’n gorffennol’ a gwelir llaw dyn yn edrych trwy dudalennau llyfr.

Darllenwyr yn eistedd wrth fyrddau yn Ystafell Ddarllen y Gogledd.

Pennawd: ‘Maen nhw’n … dod aton ni’.

 

Coridor gyda silffoedd symudol i’r dde ac i’r chwith. Yn y pellter, gwelir dyn yn cerdded lawr y coridor.

Gwelir pâr o ddwylo mewn menig gwynion yn cymryd llyfr oddi ar silff.

Pennawd: ‘Ond beth petaen ni’n medru dod atyn nhw… ac atoch chi?

Person yn cerdded tuag atom lawr coridor sy’n llawn golau.

 

Gŵr ifanc yn eistedd o flaen gliniadur gyda ffenestr tu ôl iddo.

Trwy’r ffenestr gwelir Adeilad ‘Chrysler’ wedi’i oleuo gyda’r nos.

Gwelir y gŵr ifanc yn troi botwm llywio ar ei liniadir.

Gwelir olwyn droi un o’r silffoedd symudol yn troi yn yr un modd gyda’r pennawd: ‘Holl hanes dogfennol ein cenedl’.

Mae’r silffoedd yn agor a daw rhes o lyfrau i’r golwg.

Gwelir y gŵr ifanc yn cymell y llyfrau tuag ato gyda’i law.

Dechreua’r llyfr ddod oddi ar y silff wrth ei hun.

Pennawd: ‘Wedi’i ddigido’.

Gwelir llyfr gwyrdd yn hedfan oddi ar y silff.

 

Merch ysgol yn gorwedd ar garped yn tynnu llun a choed palmwydd yn y cefndir.

Edrych i lawr ar y ferch ysgol gyda’r capsiwn: ‘Arlein’.

Golygfa agos o’r ferch ysgol yn cymell rhywbeth i ddod tuag ati gyda’i llaw.

Gwelir darlun yn symud ohono’i hun oddi ar resel gyda’r capsiwn: ‘Ar gael i bawb ohonom’.

Darlun yn y tu blaen a choridor yn y cefndir.

Gwelir y darlun gwreiddiol yn hedfan heibio.

 

Gwraig ganol oed yn cerdded mewn glaswellt ac yn siarad ar ei ffôn symudol gyda phont harbwr Sydney yn y cefndir.

Mae’r wraig ganol oed yn troi i edrych tuag atom gyda’r capsiwn: ‘Unrhyw bryd. Unrhyw le ac yn cymell rhywbeth tuag ati.

Mae drws cell yn agor. Mae’r drws yn agor ymhellach ac mae rîl ffilm yn hedfan allan.

Nifer o lyfrau yn hedfan tuag atom i lawr coridor o silffoedd llyfrau.

Gwelir llyfrau a darluniau yn hedfan allan o Ystafell y Cyngor i lawr y coridor a lawr coridor arall yn llawn disgiau.

 

Merch ifanc gyda llyfr yn ei llaw yn croesi’r coridor gyda llyfrau yn hedfan heibio iddi.

Gwelir y llyfrau yn Ystafell Ddarllen y Gogledd yn hedfan heibio cerflun Syr John Williams.

Gwelir y llyfrau yn hedfan i fyny un o’r grisiau tro i’r oriel uwchben a heibio canhwyllyr.

Mae’r llyfrau yn hedfan heibio ochr y Drwm a thrwy’r Atriwm, lawr y prif goridor gyda mwy o lyfrau yn cael eu hychwanegu trwy’r adeg. Heibio darlun Syr Kyffin Williams â golau’n fflachio.

Mae’r llyfrau’n hedfan yn gyflymach, i lawr y coridor tuag at y drws tro.

 

Gwelir y drws tro yn troi ar gyflymder gyda golau’n fflachio.

Tân gwyllt wedi’i animeiddio yn codi o flaen y Llyfrgell.

Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r brand: ‘Un o lyfrgelloedd mawr y byd’.

Capsiwn: ‘Cefnogwch ein huchelgais’.

Logo Wordley Productions

Clodrestr: ‘Gyda diolch i, Staff a Darllenwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Funding Matters Limited’.

 

 

 

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-08-2008