Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd erthyglau fel arfer yn 4000 – 6000 gair, a gellir ychwanegu atynt fapiau neu ddarluniau.
O 2008 ymlaen fe gyhoeddir y Cylchgrawn ar ffurf electronig yn unig, ac fe’i darperir yn rhad ac am ddim ar wefan y Llyfrgell. Bydd cylchgronau blaenorol yn cael eu digido yn rhan o raglen i ddigido cyfnodolion Cymreig.
Dylid anfon erthyglau i’w hystyried (ar ddisg os oes modd) at:
Y Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU