Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Visit Us

Ymweld a Ni

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn agor ar ddydd Sadwrn


Mae'r Llyfrgell bellach ar agor ar ddydd Sadwrn.

 

Pwysig: gwasanaeth cyfyngedig yn unig a gynigir.

Ni fydd modd archebu deunydd ar ddydd Sadwrn i'w ddarllen ar y dydd. Bydd rhaid bod y deunydd wedi ei archebu o flaen llaw, neu fod eisoes wedi ei ddefnyddio ac wedi ei roi ar gadw. Dylid archebu arlein fan hwyraf erbyn hanner nos nos Iau neu fod eisoes wedi ei ddefnyddio ac wedi ei roi ar gadw. Gellir gwneud hynny o brif gatalog y Llyfrgell.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Ystafelloedd Darllen

 

Oriau agor 9.30-17.00

 

Os ydych am gyngor pellach, llenwch ein ffurflen ymholiadau arlein neu ffoniwch 01970 632 933 cyn 16:00 dydd Iau fan hwyraf. Gorau po gyntaf eich bod yn archebu - gellir cadw deunydd ar gadw am hyd at 7 diwrnod.

 

Felly cofiwch y canlynol wrth drefnu i ymweld â'r ystafelloedd darllen ar ddydd Sadwrn:

  • Bydd modd edrych ar ddeunydd sydd wedi ei archebu o flaen llaw
  • Bydd modd pori ffynonellau electronig am ddim megis Cyfrifiad 1911 ac Ancestry
  • Bydd modd defnyddio peiriannau hunan wasanaeth i ffotogopio deunydd addas
  • Bydd modd defnyddio camerau digidol yn unol â'r rheolau defnyddio camerau digidol perthnasol
  • Ni fydd modd archebu deunydd ar ddydd Sadwrn i'w ddarllen ar y diwrnod

Ymaelodi â'r Llyfrgell ar ddydd Sadwrn

 

Bydd staff yn y Dderbynfa i groesawu ymwelwyr a bydd modd i chi gofrestru am docyn darllen. Cofiwch bod rhaid dod â 2 brawf adnabod, un ohonynt gyda'ch cyfeiriad. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'n tudalen sut i gael tocyn darllen.

Yr Orielau

 

Oriau agor 9.30-16.30

 

Bydd Orielau'r Llyfrgell ar agor fel arfer ar ddydd Sadwrn. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd ymlaen ymwelwch â'n tudalennau Digwyddiadau.

Y Siop

 

Oriau agor 9.30-17.00

 

Bydd Siop y Llyfrgell ar agor fel arfer.

Caffi Pen Dinas

 

Oriau agor 9.30-16.15

 

Bydd gwasanaeth cyfyngedig yng Nghaffi Pen Dinas - paneidiau, brechdannau, paninis, cawl a byrbrydau.

Ystafelloedd Cyfarfod

 

Bydd modd llogi ystafelloedd cyfarfod fel arfer, ond sylwer ar natur cyfyngedig y gwasanaeth ym Mhen Dinas. Os oes cynhadledd angen bwffe wedi ei baratoi - gellir trefnu hynny trwy gysylltu â 01970 632 801.

 

 

Parcio

 

Bydd parcio am ddim ar y Sadyrnau.

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 03-02-2012