Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Visit Us

Ymweld a Ni

Gwasanaeth Wi-Fi


Mae Wi-Fi yn cynnig mynediad yn rhad ac am ddim i’r rhyngrwyd yn Ystafell Ddarllen y Gogledd ac Ystafell y De. Mae croeso i ddarllenwyr ddefnyddio offer personol i gysylltu â’r rhwydwaith di-wifr yn yr ardaloedd hyn. Byddwch angen mewngofnodi gyda'ch rhif tocyn darllen a’ch cyfrinair.

Cyfarwyddiadau ar sut i gysylltu:

 

Cwestiynau Cyffredin

 

  • Beth yw Wi-Fi?
  • Beth ydw i angen i gysylltu â’r rhwydwaith Wi-Fi?
  • A yw hi’n anodd cysylltu â’r we drwy Wi-Fi?
  • Beth os nad yw’r cysylltiad yn gweithio
  • A oes unrhyw beryglon iechyd yn gysylltiedig â Wi-Fi?
  • A oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio’r rhwydwaith Wi-Fi?
  • A oes rhaid talu am y gwasanaeth?
  • A yw mynediad i'r rhyngrwyd trwy Wi-Fi yn gysylltiad diogel?
  • A fyddaf yn colli'r mynediad trwy Wi-Fi pe byddai fy nghliniadur neu offer arall yn aros yn segur am gyfnod?

 

 

Beth yw Wi-Fi?

Wi-Fi yw’r term ar gyfer y dechnoleg sy’n galluogi cyfrifiaduron neu ddyfeisiadau eraill i gysylltu heb wifrau i rwydweithiau allanol gan gynnwys y we.

 

Beth ydw i angen i gysylltu â’r rhwydwaith Wi-Fi?

Bydd angen gliniadur, PDA neu ddyfais arall arnoch sydd â meddalwedd di-wifr i gysylltu drwy Wi-Fi. Mae'r rhan fwyaf o liniaduron diweddar yn gallu cysylltu â rhwydwaith di-wifr ond fel arall bydd angen cysylltu carden rhwydwaith Wi-Fi i’ch offer. Byddwch hefyd angen eich rhif tocyn darllen a’r cyfrinair a ddefnyddir gennych i fewngofnodi i gatalogau arlein y Llyfrgell.

 

A yw hi’n anodd cysylltu â’r we drwy Wi-Fi?

Nid yw’n anodd fel arfer. Mae’r rhan fwyaf o liniaduron yn medru adnabod cysylltiad di-wifr yn awtomatig. Paratowyd cyfarwyddiadau syml ar gyfer PC Windows a chyfrifiaduron Apple Macintosh ond dylech hefyd gyfeirio at gyfarwyddiadau eich offer personol. Os ydych yn cael problemau llenwch ein ffurflen adborth Wi-Fi a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosibl. Yn anffodus nid oes modd i ni warantu y bydd eich offer yn gweithio gyda rhwydwaith y Llyfrgell ac nid oes modd i staff yr Ystafelloedd Darllen gynnig cymorth technegol.

 

Beth os nad yw’r cysylltiad yn gweithio?

Dyma rai camau y gallwch eu cymryd:

  • Sicrhewch bod yr offer yr ydych yn ei ddefnyddio i gysylltu trwy gyfrwng Wi-Fi yn eich galluogi i wneud hynny ('Wi-Fi enabled').
  • Sicrhewch eich bod wedi gwasgu ‘adfywio’ ('refresh') ar eich offer a cheisiwch eto i gysylltu trwy Wi-Fi.
  • Ceisiwch ddiffodd ac ail-gychwyn eich peiriant.
  • Cyfeiriwch at y cyfarwyddiadau a ddarparwyd gan y Llyfrgell a hefyd at gyfarwyddiadau eich caledwedd.
  • Llenwch y ffurflen adborth gyda manylion y broblem. Yn anffodus ni ellir gwarantu bod modd datrys pob problem.

 

A oes unrhyw beryglon iechyd yn gysylltiedig â Wi-Fi?

Yn ôl Asiantaeth Diogelu Iechyd Prydain nid oes tystiolaeth gyson fod peryg i iechyd oddi wrth rwydweithiau di-wifr. Mae’r wybodaeth ddiweddaraf yn awgrymu fod amlygiad i’r tonyddion radio yn debyg o fod yn llai na’r hyn a geir o ffonau symudol. Bydd y Llyfrgell yn parhau i fonitro’r sefyllfa ddiweddaraf ac yn ymateb i unrhyw dystiolaeth newydd.

 

A oes unrhyw gyfyngiadau ar ddefnyddio’r rhwydwaith Wi-Fi?

Cofiwch eich bod, trwy fewngofnodi, yn cytuno i gydymffurfio â pholisïau Llyfrgell Genedlaethol Cymru:

 

A oes rhaid talu am y gwasanaeth?

Na. Mae’r gwasanaeth yn rhad ac am ddim yn ystod oriau agor y Llyfrgell.

 

A yw mynediad i'r rhyngrwyd trwy Wi-Fi yn gysylltiad diogel?
Y mae ein Gwasanaeth Wi-Fi yn cynnig mynediad trwy gysylltiad agored heb ei amgodio.

 

A fyddaf yn colli'r mynediad trwy Wi-Fi pe byddai fy ngliniadur yn segur am gyfnod?
Os nad ydych wedi defnyddio eich offer am fwy na 15 munud, yna byddwch yn colli'r cysylltiad Wi-Fi yn awtomatig, a bydd yn rhaid cysylltu â’r gwasanaeth o'r newydd.

 


Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 10-07-2013