Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW


Cefnogwch Ni

Cefnogwch Ni

Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhowch nawr!


Preifatrwydd a 'Cookies'


Preifatrwydd i ddefnyddwyr Gwefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Nid yw gwefannau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dal nac yn storio unrhyw wybodaeth bersonol am ein hymwelwyr oni bai am achosion penodol lle nodir hynny.

 

Google Analytics

 

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn defnyddio Google Analytics ar ei gwefannau er mwyn casglu gwybodaeth ystadegol i greu adroddiadau ar sut mae defnyddwyr yn defnyddio ei gwefannau. Bydd yr adroddiadau hyn yn eu tro yn cael eu defnyddio er mwyn llywio datblygiadau newydd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu drwy ‘cookies’, sef ffeiliau testunol sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur er mwyn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol sy’n anhysbys (gan gynnwys cyfeiriad IP) – sydd wedyn yn cael ei danfon at Google. Ceir mwy o wybodaeth am y 'cookies' a ddefnyddir gan Google Analytics ar wefan Google.

 

Ni fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir er mwyn ceisio adnabod ei defnyddwyr arlein, nac yn caniatau i drydydd person wneud hynny. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gyda unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Ni fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, na Google yn creu cyswllt, nac yn ceisio creu cyswllt rhwng cyfeiriad IP a gwybodaeth adnabod unigolyn.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 08-05-2012