Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Mae angen i’r Llyfrgell gasglu a defnyddio rhai mathau o ddata a ddisgrifir yn adran 2 Deddf Gwarchod Data 1998 fel “data personol sensitif”. Rhestrir y data y gellir ei gasglu isod, a nodir i ba ddiben y gellir ei ddefnyddio:
- I weinyddu seibiant salwch statudol a sefydliadol, tâl salwch, seibiant mamolaeth a chynlluniau tâl mamolaeth, gan gynnwys cofnodi absenoldeb ar gyfer seibiant salwch;
- I wirio addasrwydd a gallu unigolion i weithio yn achos penodiadau penodol yn y Llyfrgell;
- I wirio addasrwydd a gallu unigolion i weithio ar leoliadau gwaith, secondiadau neu benodiadau er anrhydedd gyda chyflogwyr eraill;
- I sicrhau bod y Llyfrgell yn cydymffurfio â deddfwriaeth Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac Iechyd a Diogelwch;
- I reoli a chynnal amgylchedd diogel yn y Llyfrgell;
- I ddarparu cofnodion salwch cywir ar gais darpar gyflogwyr eraill pan fo’r aelodau o staff wedi rhoi caniatâd penodol.
Ar wahân i anghenion y dibenion uchod, dim ond os oes ei angen yn ôl y gyfraith y caiff y data yma ei ddatgelu (e.e. os am ddechrau gweithio mewn proffesiynau penodol). Yr unig ffordd arall y caiff y data ei ddatgelu yw ar ffurf gyfansawdd a dienw i ddibenion ystadegol.
- I asesu addasrwydd ar gyfer swyddi penodol yn ymwneud â chyfrifoldeb ariannol, neu gyfrifoldeb am aelodau eraill o staff;
- I sicrhau y cydymffurfir ag anghenion yswirwyr (e.e. o ran gyrru car, diogelwch, ayyb.);
- I alluogi’r Llyfrgell i sicrhau ei bod yn cydymffurfio ag unrhyw anghenion deddfwriaethol (e.e. ynglŷn â materion yn ymwneud ag Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith neu’r Ddeddf Plant).
Ar wahân i’r defnydd uchod, ni ddatgelir y data i eraill oni bai fod hynny’n ofynnol yn ôl y gyfraith.
Mae’r dibenion a restrir uchod yn cyd-fynd ag Atodlen 3, paragraffau 2, 4, 6, 7, 8 a 9 o’r Ddeddf Gwarchod Data 1998. Ni chaiff data ei ddatgelu na’i brosesu i unrhyw ddiben arall heb ganiatâd penodol gwrthrych y data.