Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Family History

Hanes Teulu

Ewyllysiau Llys Uchelfraint Archesgob Caer-gaint (Ewyllysiau PCC)

 

Pe bai’r stad yn cynnwys eiddo mewn dwy neu ragor o esgobaethau o fewn yr un dalaith, byddai’r brofeb yn cael ei chaniatáu naill ai yn llys taleithiol Archesgob Caer Efrog neu yn llys Archesgob Caer-gaint. Byddai Llys Uchelfraint Archesgob Caer Efrog (PCY) yn gweinyddu’r dalaith ogleddol (esgobaethau gogleddol Lloegr gan gynnwys didoliad Fflint), tra byddai Llys Uchelfraint Archesgob Caer-gaint (PCC) yn gyfrifol am y taleithiau deheuol (esgobaethau deheuol Lloegr a Chymru). Pe bai gan yr ymadawedig eiddo yn y ddwy dalaith, ymgymerid â’r brofeb gan y PCC a oedd â’r awdurdod uchaf drwy Gymru a Lloegr benbaladr.

 

At ei gilydd, byddai’r PCC a’r PCY yn profi ewyllysiau pobl gyfoethog a chefnog, tra byddai’r is-lysoedd yn delio â stadau’r bobl gyffredin; ond nid hynny a ddigwyddai bob tro. Os na ellir cael hyd i ewyllys person nad oedd yn gyfoethog iawn yng nghofnodion y llysoedd lleol, dylid chwilio cofnodion y llysoedd uwch, yn arbennig ar gyfer y 19eg ganrif . Roedd gan y PCC awdurdod hefyd dros stadau pobl yng Nghymru a Lloegr a fu farw dramor neu ar y môr. Yn ystod y Werinlywodraeth, 1653-60, sefydlwyd Llys y Comisiwn Sifil yn Llundain gydag awdurdod mewn materion profeb dros Gymru a Lloegr gyfan.

 

Cedwir cofnodion y PCC yn Yr Archifdy Cenedlaethol, Kew, Richmond, Surrey, TW9 4DU. Gellir chwilio holl ewyllysiau PCC (1354-1858) drwy documentsonline ar wefan Yr Archifdy Cenedlaethol. Mae gan y Llyfrgell gopïau microffilm o ewyllysiau PCC o 1701 hyd 1858 ar y silffoedd agored yn Ystafell Ddarllen y De. Mae cofnodion ar gyfer y PCY ar gael yn Sefydliad Ymchwil Hanesyddol Borthwick, Caer Efrog.

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 23-02-2009