Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn 1858 trosglwyddwyd cyfrifoldeb am brofeb o’r system llysoedd eglwysig gymhleth i system symlach o gofrestrfeydd profeb sifil. Mae’r dasg o gael hyd i ewyllys ar ôl 1858 yn gymharol hawdd. Ers 12 Ionawr 1858 mae ewyllysiau a gweinyddiadau wedi’u profi a’u caniatáu naill ai ym Mhrif Gofrestrfa yr Adran Deuluol (Y Brif Gofrestrfa Brofeb gynt), First Avenue House, 42-49 High Holborn, London, WC1 6NP neu yn y gofrestrfa ranbarthol briodol. Tan 1941, byddai’r cofrestrfeydd rhanbarthol yn gwneud ail gopi o’r ewyllys. Fe gofnodwyd y copïau hyn a’u rhwymo’n gyfrolau. Y cyfrolau hyn o gopïau cofrestr o ewyllysiau o’r cofrestrfeydd rhanbarthol gydag awdurdod yng Nghymru yw’r cofnodion profeb ar ôl 1858 sydd ar adnau yn y Llyfrgell.
Daw’r cofnodion ar ôl 1858 o’r cofrestrfeydd rhanbarthol yn Llanelwy, Bangor, Caerfyrddin, Llandaf a Henffordd. Nid oes gennym gofnodion o’r gofrestrfa yn yr Amwythig a oedd ag awdurdod dros Drefaldwyn. Dylid nodi bod yr awdurdodau yn adlewyrchu sefyllfa diriogaethol y cyfnod dan sylw h.y. 1858-1941, yn hytrach na’u sefyllfa bresennol. Diddymwyd awdurdod tiriogaethol yn 1926, a chaewyd y cofrestrfeydd yn Llanelwy a Henffordd yn 1928.
| Cofrestrfa Ranbarthol | Awdurdod (siroedd) |
|---|---|
| Llanelwy | Dinbych, Fflint a Meirionnydd |
| Bangor | Môn a Chaernarfon |
| Caerfyrddin | Aberteifi, Caerfyrddin, Penfro a rhan o Forgannwg (Gŵyr) |
| Llandaf | Mynwy a Morgannwg (ac eithrio Gŵyr) |
| Henffordd | Brycheiniog, Maesyfed a Henffordd |
Cyfrolau mawr yn cynnwys copïau o ewyllysiau yw’r cofnodion ar ôl 1858 sydd ar adnau yn y Llyfrgell. Maent yn gorffen yn 1941, pan peidiodd y cofrestrfeydd â chopïo ewyllysiau mewn cofrestri. Cynhwysant holl siroedd hanesyddol Cymru (ac eithrio Trefaldwyn), ac un sir yn Lloegr - sef swydd Henffordd. Profwyd ewyllysiau sir Drefaldwyn ar ôl 1858 yng Nghofrestrfa Ranbarthol Amwythig a cedwir ei chofnodion yn Archifdy Swydd Amwythig.
Mae mynegeion llawysgrif gyfoes neu fynegeion modern ar gardiau ar gyfer y rhan fwyaf o’r cofnodion. Gellir llenwi’r bylchau drwy ddefnyddio’r Calendar of Grants printiedig, sef mynegai blynyddol i bob ewyllys a gweinyddiad a ganiatawyd yng Nghymru a Lloegr ers 1858. Mae’r mynegai hwn ar gael yn First Avenue House, rhan fwyaf o swyddfeydd cofrestru profeb a rhai archifdai lleol, ac, ar gyfer y cyfnod 1858-1972, yn y Llyfrgell.
Isod ceir crynodeb o'r cofnodion a gedwir ar gyfer pob cofrestrfa.
| Llanelwy | Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1858-1928. Nid oes mynegeion llawysgrif ar wahân, ond ceir mynegeion yn y cyfrolau ar gyfer 1860-1 a 1865-1923 |
|---|---|
| Bangor | Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1858-1941. Mynegai ar gardiau, 1858-1941 |
| Caerfyrddin | Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1858-1941. Mynegeion llawysgrif, 1858-1923. Mynegai ar gardiau, 1924-41 |
| Llandaf | Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1858-1940. Mynegeion llawysgrif, 1858-1905 |
| Henffordd | Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1858-1928. Mynegeion llawysgrif, 1858-1928 |