Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Family History

Hanes Teulu

Cofnodion Cyn 1858


Newydd: Delweddau digidol o ewyllysiau

 

Ceir nawr fynediad am ddim i ddelweddau digidol o'r ewyllysiau cyn 1858 trwy ein mynegai newydd arlein. Ar hyn o bryd nid oes delweddau digidol ar gael ar gyfer Penarlâg nac ar gyfer Aberhonddu a Llanelwy cyn 1660.

Cefndir hanesyddol

 

Mae ewyllysiau, llythyrau gweinyddu a chofnodion profeb eraill yn ffynonellau hanesyddol amhrisiadwy. Dylid sylweddoli, fodd bynnag, na fu erioed ewyllys na dogfennau gweinyddu ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

 

Cyn 12 Ionawr 1858, cyfrifoldeb y llysoedd eglwysig oedd profi ewyllysiau a chaniatáu llythyrau gweinyddu yng Nghymru a Lloegr ac roedd gan bob llys ei gylch awdurdod ei hun.

 

Lle bu farw’r ymadawedig a maint a lleoliad ei stad a benderfynai i'r raddau helaeth pa lys oedd ag awdurdod mewn unrhyw achos penodol. Profid ewyllysiau fel arfer yn llys consistori’r esgobaeth (llys yr esgobaeth neu’r esgob). Pe bai’r stad yn cynnwys eiddo mewn dwy neu ragor o esgobaethau o fewn yr un dalaith, byddai’r brofeb yn cael ei chaniatáu naill ai yn llys taleithiol Archesgob Caer Efrog neu yn llys Archesgob Caer-gaint. Byddai Llys Uchelfraint Archesgob Caer Efrog (PCY) yn gweinyddu’r dalaith ogleddol (esgobaethau gogleddol Lloegr gan gynnwys didoliad Fflint), tra byddai Llys Uchelfraint Archesgob Caer-gaint (PCC) yn gyfrifol am y taleithiau deheuol (esgobaethau deheuol Lloegr a Chymru). Pe bai gan yr ymadawedig eiddo yn y ddwy dalaith, ymgymerid â’r brofeb gan y PCC a oedd â’r awdurdod uchaf drwy Gymru a Lloegr benbaladr.

 

Roedd gan rhai llysoedd eglwysig a seciwlar, a elwid yn ‘peculiars’ (gwahanlysoedd) am fod ganddynt awdurdod eithriadol, h.y. y tu allan i awdurdod yr archddiacon neu’r esgob, yr hawl i ganiatáu profebion hefyd. Dim ond un gwahanlys oedd yng Nghymru, sef Penarlâg, sir y Fflint, a oedd ag awdurdod ym mhlwyf Penarlâg.

 

 

Llysoedd gydag awdurdod profeb yng Nghymru

 

Cynnwys y cofnodion profeb cyn 1858 sydd ar adnau yn y Llyfrgell hon gofnodion llysoedd consistori Llanelwy, Bangor, Tyddewi a Llandaf, llys consistori archddiaconiaeth Aberhonddu, a gwahanlys Penarlâg, ynghyd â’r ewyllysiau Cymreig a brofwyd yn llys consistori esgobaethol Caer.

 

Nid oedd unrhyw lysoedd eglwysig i’w cael yng Nghymru islaw lefel esgobaethol. Mewn materion yn ymwneud â phrofeb, byddai llys consistori archddiaconiaeth Aberhonddu, un o bedair archddiaconiaeth esgobaeth Tyddewi, yn gweithredu fel llys esgobaethol ar raddfa leol.

 

Mae cofnodion profeb esgobaeth, deoniaeth a gwahanlysoedd Henffordd, ynghyd â chofnodion gwahanlys swydd Amwythig a gedwid gynt yn y Llyfrgell Genedlaethol, bellach wedi’u trosglwyddo, y naill i Archifdy Henffordd a’r llall i Archifdy Lichfield.

 

Wrth olrhain ewyllys/gweinyddiad cyn 1858, y cam cyntaf yw sefydlu ym mha lys y gellid bod wedi’i chaniatáu ac ymhle y cedwir cofnodion y llys hwnnw. Gan na fyddai awdurdod profeb bob amser yn dilyn ffiniau sirol, gall hyn fod yn anodd weithiau, yn enwedig gyda phlwyfi sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

 

Ceir gwybodaeth ynglŷn â’r llysoedd profeb gydag awdurdod yng Nghymru, y siroedd â phlwyfi o dan eu hawdurdod, a dyddiadau’r cofnodion sydd wedi goroesi isod neu gellir cael y manylion yn ymwneud â phob Llys Profeb drwy chwilio am Profeb Cymru ar wefan Rhwydwaith Archifau Cymru. Dau lawlyfr anhepgor ar gyfer cofnodion profeb yn gyffredinol yw Probate Jurisdictions: Where to look for Wills gan Jeremy Gibson ac Else Churchill (FFHS, 5ed arg, 2002) a Wills and other Probate Records gan Karen Grannum a Nigel Taylor (TNA, 2004). Defnyddiol iawn hefyd ar gyfer dangos awdurdodau eglwysig cyn 1858 yw’r gyfres mapiau sir/plwyf a gyhoeddir gan Sefydliad Astudiaethau Herodrol ac Achyddol, Northgate, Caer-gaint. Gellir gweld y mapiau ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban yn Ystafell Ddarllen y De.

 

Isod ceir crynodeb byr o'r sefyllfa yng Nghymru.

 

 

 Llysoedd Profeb Cymru

Llys Profeb Awdurdod (siroedd)
Llanelwy Y rhan fwyaf o Ddinbych a Fflint; rhannau o Gaernarfon, Meirionnydd, Trefaldwyn ac Amwythig
Bangor Môn; y rhan fwyaf o Gaernarfon; rhannau o Ddinbych, Meirionnydd a Threfaldwyn
Tyddewi Aberteifi, Caerfyrddin a Phenfro; rhan o Forgannwg (deoniaeth Gŵyr)
Llandaf Y rhan fwyaf o Forgannwg a Mynwy
Aberhonddu Brycheiniog; y rhan fwyaf o Faesyfed; rhannau o Fynwy, Trefaldwyn a Henffordd
Penarlâg Plwyf Penarlâg, sir y Fflint
Caer Rhan o Fflint ac un plwyf, Holt, yn Ninbych
Henffordd. Cofnodion wedi eu trosglwyddo i Archifdy Henffordd Rhannau o Fynwy, Trefaldwyn a Maesyfed. Roedd gan y llys hwn awdurdod yn y plwyfi sy’n rhannol yn swydd Amwythig ac yn Nhrefaldwyn, h.y. Alber-bury, Mainstone a Worthen

Y cofnodion: eu natur a'u cwmpas

 

Mae’r cofnodion cyn 1858 yn y Llyfrgell hon yn ymestyn dros Gymru gyfan ac eithrio pymtheg o blwyfi ar y ffin a ddeuai o fewn awdurdod llys consistori esgobaethol Henffordd, ond meant hefyd yn cynnwys dau blwyf ar bymtheg yn Lloegr o dan awdurdod llysoedd Cymreig.

 

Y prif fathau o gofnodion yw’r ewyllys, yr ymrwymiad gweinyddu a’r rhestr eiddo. Nid yw rhestrau eiddo yn gyffredin ar ôl y deunawfed ganrif. Ymhlith dogfennau atodol a geir weithiau gyda’r prif gofnodion, mae cyfrifon yr ysgutorion a’r gweinyddwyr, a dogfennau megis deponiadau ac ymrwymiadau cyfarwyddyd a churadiaeth.

 

Dyddiau’r rhan fwyaf o’r ewyllysiau a’r ymrwymiadau gwreiddiol sydd ar gael o tua 1600 ac eithrio Bangor, lle nad oes ond ychydig iawn wedi goroesi cyn 1635. Ond ceir rhai cofnodion, naill ai’n ewyllysiau gwreiddiol neu ar ffurf copi, a ddyddiau’n ôl hyd at ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, ond ychydig iawn ohonynt sydd wedi goroesi. Daw’r cynharaf o gopïau cofrestr o ewyllysiau o Lanelwy (o 1565 gan fwyaf) ac Aberhonddu (o 1543), y naill a’r llall yn gynharach na’r cofnodion gwreiddiol sydd wedi goroesi. Yn ystod yr Inter-regnwm, peidiodd gweithgarwch y llysoedd lleol, ac o ganlyniad ceir bylchau yng nghofnodion Llanelwy a Bangor rhwng 1648 a 1660 ac yn Aberhonddu a Chaerfyrddin (esgobaeth Tyddewi) rhwng 1653 a 1660. Serch hynny, ceir rhai ewyllysiau, o Forgannwg yn bennaf, a brofwyd yn ystod y cyfnod hwn yn Llandaf. Cedwir cofnodion Llys y Comisiwn Sifil, a weithredai yn ystod y Werinlywodraeth, yn Yr Archifdy Cenedlaethol gyda chofnodion y PCC.

 

Ceir llyfrau gweithredoedd profeb ar gyfer pob un o’r llysoedd (ac eithrio Bangor ac Aberhonddu a’r ewyllysiau Cymreig a brofwyd yng Nghaer), ond mae’r cyfresi sydd wedi goroesi yn anghyflawn.

 

Mae mynegai i’r holl gofnodion yn awr ar gael drwy wefan y Llyfrgell. Cyhoeddwyd Index of the Probate Records of the Bangor Consistory Court, Vol I: Pre-1700 gan y Llyfrgell ym 1980 a Archdeaconry of Brecon Probate Records, Vol I: Pre 1660 yn 1989. Mae Cymdeithas Achyddol Utah, wedi paratoi crynodebau a mynegeion ar microffis i’r rhan fwyaf o ewyllysiau cyn 1858 ar gyfer llysoedd consistori Bangor, Llanelwy, Llandaf a Thyddewi, ynghyd ag Archddiaconiaeth Aberhonddu. Isod ceir crynodeb byr o’r daliadau ar gyfer pob llys, gan roi dyddiadau bras yn unig. Ni nodwyd unrhyw fylchau yn y gyfres.

 Daliadau Llysoedd Profeb Cymru yn y Llyfrgell

Llanelwy Ewyllysiau gwreiddiol ayb, 1557-1857. Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1565-1709. Mynegeion llawysgrif, 1583-1857
Bangor Ewyllysiau gwreiddiol ayb, 1576-1858 (ni cheir ond ychydig iawn o ewyllysiau cyn 1635). Copïau cofrestr o ewyllysiau a gweinyddiadau 1790, 1851-1858. Mynegai cyhoeddedig i gofnodion cyn 1700. Mynegeion llawysgrif, 1700-1858
Tyddewi Ewyllysiau gwreiddiol ayb, 1556-1858. Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1703-1858. Mynegeion llawysgrif, 1600-1858 (archddiaconiaeth Tyddewi (Penfro), Aberteifi a Chaerfyrddin). [Roedd yr archddiaconiaethau yn cyd-ffinio’n fras â’r hen siroedd, ond cynhwysai archddiaconiaeth Aberteifi nifer o blwyfi yng ngogledd Penfro a rhai o blwyfi sir Gaerfyrddin a chynhwysai archddiaconiaeth Caerfyrddin 23 o blwyfi Morgannwg - deoniaeth Gŵyr]. Mynegai ar gardiau ar gyfer ewyllysiau a brofwyd yng Nghaerfyrddin 1817-36 sy’n cynnwys rhai ewyllysiau o sir Aberteifi
Llandaf Ewyllysiau gwreiddiol ayb, 1568-1857. Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1695-1844. Mynegeion llawysgrif, 1575-1857
Aberhonddu Ewyllysiau gwreiddiol ayb, 1557-1857. Copïau cofrestr o ewyllysiau, 1543-1858. Mynegai cyhoeddedig i gofnodion cyn 1660. Mynegeion llawysgrif, 1660-1857
Penarlâg Ewyllysiau gwreiddiol ayb, 1554-1858. Mynegai printiedig, 1554-1800, yn Publications of Flintshire Historical Society, Vol IV. Mynegeion llawysgrif, 1752-1857
Caer Ewyllysiau gwreiddiol ayb. 1521-1858. Mynegeion teipysgrif, 1521-1857. Mynegeion printiedig, 1545, 1837, yn Publications of Lancashire and Cheshire Record Society

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 18-04-2012