Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gellir prynu printiau ffotograffig, sleidiau a thryloywon fformat mwy o safon broffesiynol o eitemau yng Nghasgliad P B Abery ar gyfer defnydd preifat. Fel arfer copïau ffotograffig digidol fyddant, ond ar gais penodol cwsmer gellir sicrhau printiau wedi'u prosesu'n gemegol.
Cyn y gellir cyhoeddi unrhyw ffotograff o'r casgliad mewn unrhyw gyfrwng mae'n rhaid sicrhau caniatâd y Llyfrgell Genedlaethol fel deiliaid yr hawliau atgynhyrchu.
Am fwy o wybodaeth ymwelwch a thudalennau'r Llyfrgell ar Atgynhyrchu Deunydd.