Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Catalogau

FAQs e-Adnoddau Allanol


Beth yw  e-Adnoddau Allanol?

Dyma'r anoddau mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio iddynt (h.y. nid ydynt yn ffurfio rhan o gasgliadau craidd y Llyfrgell).  Mae esiampau yn cynnwys 19th Century British Library Newspapers, Early English Books Online a House of Commons Parliamentary Papers.

 

 

Sut fedra i gael mynediad i'r e-Adnoddau yma?

Byddwch yn derbyn yr hawl yn awtomatig i gael mynediad i'r e-Adnoddau Allanol pan fyddwch yn gwneud cais am docyn darllen, cyn belled bod gennych gyfeiriad yng Nghymru neu gôd post Cymreig.

 

 

Ble medra i logio fewn i weld yr e-Adnoddau?

Ar dudalen e-Adnoddau Allanol fe welwch restr o'r adnoddau sydd ar gael; dewiswch yr adnodd yr ydych am ei weld a cliciwch ar yr icon   Logon using your reader's ticket  sy'n eich caniatau i logio ymlaen gyda thocyn darllen - dylid mewnosod eich rhif tocyn a'ch cyfrinair i gael mynediad i'r adnodd. Medrwch hefyd chwilio ar draws yr e-adnoddau o'r blwch chwilio ar ben tuadlen e-Adnoddau Allanol.

 

 

Pam na allaf gael mynediad i'r e-Adnoddau yma os wyf yn byw tu allan i Gymru?

Mae'r cynllun yma yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac i gael mynediad i'r deunydd yma, mae'n rhaid felly cael cyfeiriad yng Nghymru neu gôd post Cymreig.

 

 

Beth yw Shibboleth?

Shibboleth yw'r sustem sy'n rheoli mynediad i'n adnoddau electronig, ac yn  galluogi'n defnyddwyr i gael mynediad i'n e-Adnoddau Allanol  o tu allan i'r Llyfrgell.


Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 03-02-2012