Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Prosiect Archif Llenyddiaeth Cymru


Bydd archifau llenyddol y dyfodol yn cynnwys dogfennau cyfrifiadurol, negeseuon e-bost, tudalennau o’r we ac ati, yn ogystal â phapurau a llyfrau. Mae newidiadau cyflym technoleg yn cynnig amryfal ddewisiadau a phrofiadau i ni yn ein bywydau beunyddiol, ond mae’r sefyllfa hon hefyd yn creu her arbennig wrth feddwl am ddiogelu ein treftadaeth ddiwylliannol.

Amcanion y prosiect:

  • ymchwilio i faes archifau hybrid (papur a digidol)
  • cydweithio â sampl o lenorion amlwg Cymru (Cymraeg a Saesneg eu hiaith)
  • hyrwyddo ymwybyddiaeth a thrafodaeth ynglyn â chadwedigaeth ddigidol
  • cynllunio i dderbyn a diogelu archifau llenyddol digidol
  • cynorthwyo llenorion, ac eraill, i ddiogelu eu dogfennau electronig gwerthfawr

Darllenwch adroddiad y prosiect:

Adroddiad Terfynol Prosiect Archif Llenyddiaeth Cymru


Cewch flas o waith y prosiect o edrych ar codi ymwybyddiaeth a taflenni ac erthyglau.

Pam fod gofalu am ein dogfennau digidol yn bwysig?

Cymerwch gip ar ein canllawiau ar gyfer awduron a dolenni defnyddiol.

Beth yw Cadwedigaeth Ddigidol?

Cewch atebion i'r cwestiwn hwn ac eraill ar dudalennau Cadwedigaeth Ddigidol.

Beth nesaf?

Mae croeso i chi gysylltu ag Ifor ap Dafydd, Swyddog Datblygu Archif Llenyddiaeth Cymru; hoffem glywed eich barn.

cof@llgc.org.uk
neu +44 (0) 01970 632 543

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 03-05-2011