Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Llyfr Cywyddau Wmffre Dafis


(Llsgr. Brogyntyn I.2)

 

 

Cyfrol o gywyddau ac awdlau Cymraeg o'r 15fed a'r 16eg ganrif yw Brogyntyn I.2, a ysgrifennwyd gan Wmffre Dafis yn 1599. Ceir ynddi waith beirdd megis Siôn Philip, Iolo Goch, Dafydd ap Gwilym a Guto'r Glyn. Mae hefyd yn cynnwys cyfres o englynion wedi eu hychwanegu yn gynnar yn yr 17eg ganrif.

 

 

Wmffre Dafis (bu farw 1635) a Theodore Price (1570?-1631)

 

Brogyntyn I.2
Brogyntyn I.2

Brodor o gyffiniau Harlech oedd Wmffre Dafis. Roedd yn fab i Dafydd ap Gruffudd, a dywedir ei fod yn disgyn o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Bu'n ficer Darowen, sir Drefaldwyn, o 1577 hyd ei farwolaeth yn 1635. Copïodd nifer o lawysgrifau Cymraeg yn ystod ei oes, megis Bodewryd 1, Llawysgrif Ychwanegol y Llyfrgell Brydeinig 14933, Llanstephan 35 a 118, Llawysgrif LlGC 3056D (Mostyn 160) a Llyfrgell Prifysgol Bangor: Gwyneddon 1. Roedd yn ddyn tra dysgedig ac yn feistr ar nifer o ieithoedd, ond dywedir mai'r Gymraeg a'i llên oedd ei ddiddordeb pennaf, a chyfieithodd nifer o lyfrau i'r Gymraeg. Roedd gan feirdd y cyfnod gryn dipyn o barch tuag ato a chanwyd cywyddau iddo gan Rhisiart, Siôn a Gruffudd o deulu Phylipiaid Ardudwy, ac hefyd gan Ieuan Tew Brydydd o Arwystl, ac Evan Lloyd o Waun Einion.

 

Copïodd Wmffre Dafis y llawysgrif hon yn 1599 ar gyfer Dr. Theodore Price (1570?-1631), nai i'w wraig, sef Sioned ferch Edward Stanley. Ganwyd Price ym Mronyfoel, plwyf Llanenddwyn, sir Feirionnydd, a chafodd ei addysg yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen. Yn y man daeth yn gymrawd yn Ngholeg yr Iesu ac yna'n brifathro ar Hart Hall, Rhydychen, o 1604 hyd 1614 pan gafodd ei ddoethuriaeth mewn Diwinyddiaeth yn y Coleg Newydd.

 

Pan anfonwyd y gyfrol hon o farddoniaeth ato yn 1599, roedd Theodore Price yn offeiriad yn Bletchingley, swydd Surrey ac yn ganon yn Eglwys Gadeiriol Caerwynt. Fel nifer o Gymry alltud ei genhedlaeth, gwerthfawrogai'r rhodd o farddoniaeth Gymraeg.

 

Bu Price farw yn Rhagfyr 1631 ond ni wyddom sut yr aeth ei gyfrol i Blas Brogyntyn, ger Croesoswallt. Yn 1934 cyflwynwyd y gyfrol ar adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), Aberystwyth, gan 3ydd Arglwydd Harlech ynghyd â detholiad o lawysgrifau Cymraeg o'i lyfrgell ym Mrogyntyn. Ym mis Mawrth 1993 fe brynwyd y llawysgrif gan LlGC oddi wrth 6ed Arglwydd Harlech.

 

 

f. 1r,	Cywydd gan Siôn Phylip
f. 1r, Cywydd gan Siôn Phylip

Natur y llawysgrif

 

Ceir 574 dalen yn y llawysgrif (i-v, 569ff), ac fe'i hailrwymwyd yn gynnar yn y 19eg ganrif mewn croen mochyn. O ran cynnwys, ceir esiamplau o waith dros gant o feirdd yn y gyfrol, ac yn fwyaf amlwg yn eu plith mae:

 

  • Tudur Aled
  • William Llŷn
  • Siôn Ceri
  • Siôn Cent
  • Siôn Tudur
  • Lewis Glyn Cothi
  • Dafydd Llwyd ap Llywelyn ap Gruffudd
  • Ieuan Deulwyn

 

Ychwanegwyd cyfres o englynion yn y Gymraeg ac mewn Lladin ar ff.v y gyfrol mewn llaw o'r 17eg Ganrif, ac maent wedi eu priodoli i Mr Sergeant Griffith. Credir fod Llsgr. Coleg Iesu Rhydychen 101 yn adysgrif union o'r lawysgrif hon.

 

 

Darllen pellach

 

  • E D Jones, 'The Brogyntyn Welsh Manuscripts', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 5 (1947-8), 233-64.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-12-2009