Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Illingworth a'r Cartwnau


Leslie Illingworth 1902-1979
Leslie Illingworth 1902-1979

Ganed Leslie Gilbert Illingworth yn Y Barri yn 1902. Mynychodd Goleg Arlunio Caerdydd cyn cael swydd gyda'r Western Mail. Yna cafodd ysgoloriaeth i Goleg Arlunio'r Slade, ac ar ôl cwblhau'r cwrs dychwelodd i'r Western Mail fel cartwnydd. Ymunodd â'r Daily Mail ym 1939, gan lunio cartwnau a gododd ysbryd Prydain yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sylwai'n bennaf ar arweinyddiaeth Churchill a buddugoliaethau milwrol y Cynghreiriaid. Yn y cyfnod ar ôl y rhyfel, canolbwyntiodd ar faterion cartref, ond gan gadw llygad barcud ar yr un pryd ar ddigwyddiadau tramor o bwys i Brydain.

Daeth yn brif gartwnydd gwleidyddol y cylchgrawn Punch yn 1945, ond gan barhau i weithio i'r Daily Mail tan ei ymddeoliad ym 1969. Bu farw yn 1979. Gellir cael mwy o wybodaeth am Leslie Illingworth ar wefan Spartacus Schoolnet.

 

 

Casgliad Illingworth

 

Mae'r 4563 o gartwnau yng nghasgliad Illingworth yn y Llyfrgell Genedlaethol yn rhoi golwg inni ar amrywiaeth eang o bynciau trwy lygaid un o gartwnyddion mwyaf adnabyddus Prydain yr 20fed ganrif.

Mae'r gweithiau cynharaf yn y casgliad yn canolbwyntio ar yr Ail Ryfel Byd, a'i frwydrau, ac ar ymdrechion y llywodraeth gartref i gynnal bywyd o ddydd i ddydd. Manteisia ar bob cyfle i wneud hwyl ar ben Hitler, Mussolini a'u cynghreiriaid hwythau. Ceir cyfeiriadau mynych hefyd at Stalin, Roosevelt, Montgomery, a Hideki Tojo. Mae'r cartwnau o'r cyfnod yn caniatáu inni ddilyn digwyddiadau'r rhyfel wrth i hwnnw fynd yn ei flaen.

Wedi'r rhyfel troes Illingworth ei sylw yn fwy ar faterion Prydeinig, gan ganolbwyntio ei sylw miniog ar y llywodraeth Lafur a oedd newydd gael ei hethol. Ceir cyfeiriadau aml at sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, datblygiadau yn Ewrop wedi'r rhyfel, a thrafferthion bywyd bob dydd mewn cyfnod o brinder affwysol.

Erbyn y 50au roedd pethau wedi newid: roedd Churchill yn Brif Weinidog unwaith eto, Nikita Khrushchev yn arweinydd yr Undeb Sofietaidd a Dwight D Eisenhower yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. Cyfeiria at drafferthion Ffrainc, Algeria a Cyprus, ac at argyfwng Suez a'r economi. Ymddengys Macmillan yn gyson yn y cartwnau drwy'r 50au, ond fe'i disodlir gan Harold Wilson fel cocyn hitio'r 60au cynnar.

Rhoddir sylw amlwg hefyd yn y casgliad i gyfnod Kennedy fel Arlywydd, ac i'r ras am y gofod.

Chwiliwch y cartwnau ar y catalog e-Adnoddau


Gwnaethpwyd y prosiect digido mewn partneriaeth â'r Centre for the Study of Cartoons and Caricature, ym Mhrifysgol Caint, Caergaint. Sefydlwyd y ganolfan yn 1973 i gasglu a chadw cartwnau yn gwneud sylwadau ar wleidyddiaeth a chymdeithas, ac er mwyn sicrhau eu bod ar gael i'w hastudio.

O.N. Cyflwyna Llyfrgell Genedlaethol Cymru'r dogfennau hyn fel rhan o gofnod y gorffennol. Adlewyrcha'r dogfennau hanesyddol hyn agweddau a chredau oesoedd gwahanol. Nid yw'r Llyfrgell yn cefnogi'r agweddau a fynegwyd yn y casgliad, sy'n cynnwys deunydd a all fod yn annymunol i rai darllenwyr.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-09-2010