Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Hanes y Cartŵn


Cartŵn Illingworth
Cartŵn Illingworth

Fe ddaeth y cartŵn yn gyfrwng adnabyddus tua canol y 18fed ganrif, er mwyn cyflwyno digwyddiadau o bwys i bobl anllythrennog mewn ffordd y gallent ei ddeall. Yr oedd dynion fel Thomas Rowlandson a James Gillray yn arloeswyr yn y maes ym Mhrydain a cyhoeddwyd Punch, cylchgrawn byd eang gyda chartwnau, am y tro cyntaf ym 1841. Tua'r un adeg datblygwyd y symbolau sy'n cynrychioli Prydain, sef John Bull, Britannia, a'r llew, ac Uncle Sam i gynrychioli America.

Daeth cartwnau gwleidyddol yn fwy pwysig yn yr Ail Ryfel Byd fel ffordd o godi ysbryd y wlad, ac ar ôl y rhyfel daeth yn rhan angenrheidiol o bob papur newydd difrifol.

 

Maent yn gyfrwng sy'n dibynnu yn llwyr ar farn bersonol y cartwnydd, felly ni ellir dibynnu arnynt fel ffeithiau hanesyddol. Maent yn werthfawr i ddangos barn rhan o'r boblogaeth ar ddigwyddiadau cyfoes.

Gellir cael mwy o wybodaeth am hanes y cartŵn ar y gwefannau canlynol:

 

Chwiliwch y cartwnau ar y gronfa ddata

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 20-08-2010