Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Chwilio'r Gronfa


Cartŵn Illingworth
Cartŵn Illingworth

 

 

Dewis chwilio Casgliad Illingworth
Gallwch chwilio casgliad cartwnau Illingworth o gatalog e-Adnoddau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

O'r catalog e-Adnoddau, dewiswch gasgliad Illingworth o'r ddewislen sydd yn ymddangos o dan y blwch chwilio allweddair er mwyn cyfyngu eich chwiliad i'r casgliad hwn.

Nodyn ynglŷn ag iaith y catalogio
Saesneg yw iaith catalogio yn y Llyfrgell Genedlaethol, felly rhaid defnyddio termau a ffurfiau Saesneg wrth chwilio'r gronfa.

Arddangos eich canlyniadau
Ar ôl chwilio, bydd tudalen 'Canlyniadau Chwilio' yn ymddangos sydd yn cynnwys gwybodaeth gryno ynglŷn â phob teitl sy'n ymddangos ynghyd â bodlun neu ddelwedd fechan. I weld delwedd yn fwy o faint rhaid clicio ar y bodlun ac yna fe fydd eich porwr yn agor ffenest newydd i arddangos y ddelwedd yn fwy. I ddychwelyd i'r dudalen Canlyniadau Chwilio bydd rhaid i chi bwyso'r botwm 'Yn ôl' (back) ar eich porwr.

Chwilio eto
I chwilio o'r newydd dylech ddychwelyd at y dudalen chwilio Allweddair o fewn e-Adnoddau a chychwyn eto. Cofiwch fod rhaid dewis opsiwn Illingworth o'r ddewislen sydd yn ymddangos o dan y blwch chwilio os am gyfyngu eich chwiliad unwaith eto.

Chwilio cronfa Casgliad Illingworth yn ôl testun
I chwilio am gartŵn yn ôl testun penodol dylech gofio fod 6 chategori o destun wedi'u mynegeio: enw personol, enw corfforaethol, enw cyfarfod, enw rhyfel, enw lle a phwnc.


Enw personol
Os ydych chi'n chwilio am gartŵn o berson penodol bydd yn rhaid i chi chwilio am enw personol. Gallwch wneud hyn trwy osod enw'r person yn ei drefn arferol yn y blwch chwilio. Defnyddiwch y ffurf fwyaf adnabyddus ar enw'r person, yn hytrach na'r enw bedydd.

Esiamplau o chwilio am enw
CHWILIWCH Montgomery
CHWILIWCH Aneurin Bevan

(Cofiwch mai chwilio enw yr ydych a bydd y chwiliad hwn yn dangos yr holl gofnodion sy'n cynnwys y geiriau "Aneurin" a "Bevan" lle bynnag y maent yn digwydd yn y cofnod. Fe fydd hyn yn dangos pob llun o Aneurin Bevan, ond fe all olygu eich bod yn cael gafael ar gofnodion sydd heb fod yn berthnasol i'ch ymholiad.)


Enw corfforaethol
Mae'r term enw corfforaethol yn cwmpasu rhychwant eang o destunau gan gynnwys cwmnïau, grwpiau cerddorol, pleidiau gwleidyddol, llywodraethau, cestyll, plastai, &c. Ond, nid yw'n bwysig ichi wybod pa gategori yr ydych chi'n chwilio amdano gan fod y chwilio yn digwydd ar draws pob testun yn awtomatig. Mae'r broses o chwilio am enw corfforaethol yn debyg i chwilio am enw personol rhowch yr enw yr ydych chi'n chwilio amdano yn y blwch chwilio yn ei drefn arferol.

Esiamplau o chwilio am enw corfforaethol
CHWILIWCH Trades Union Congress
CHWILIWCH Labour Party

(Bydd y chwiliad hwn yn dangos yr holl gofnodion sy'n cynnwys y term mynegeio "Labour party", ond cofiwch y bydd hefyd yn adfer pob cofnod llyfryddol sydd yn cynnwys y geiriau "Labour" a "party".)


Enw cyfarfod
Mae enw cyfarfod yn cynnwys digwyddiadau megis cynhadledd neu uwchgynhadledd.

Esiampl o chwilio am enw cyfarfod
CHWILIWCH Labour Party conference 1963


Enw lle
Mae enwau lleoedd Prydain yn ymddangos yn y cofnod llyfryddol fel y maent yn ymddangos yng ngeiriadur daearyddol 1:50000 yr Arolwg Ordnans. Mae enwau lleoedd gweddill y byd yn ymddangos yn y cofnod fel maent yn ymddangos yn Library of Congress Authorities.
Gallwch chwilio geiriadur daearyddol yr Arolwg Ordnans a ffeiliau awdurdod Llyfrgell y Gyngres.

Esiamplau o chwilio am enw lle
CHWILIO Berlin
(Bydd y chwiliad yn adfer pob cofnod llyfryddol sy'n cynnwys yr enw "Berlin", yn ogystal â'r rhai lle mae wedi'i fynegeio fel enw lle.)


Pwnc
Wrth fynegeio'r cartwnau defnyddiwyd Thesaurus for Graphic Materials I: Subject Terms (lctgm) Llyfrgell y Gyngres i reoli geirfa heblaw am achosion prin pan ddefnyddiwyd Library of Congress subject headings (lcsh). Dylai'r defnyddiwr fod yn ymwybodol mai thesawrws Americanaidd yw hwn yn dilyn confensiynau a sillafiad Americanaidd. Er enghraifft i chwilio am lun o gar rhaid defnyddio'r term Automobile, ar gyfer rheilffyrdd fe ddylid defnyddio Railroads, ac ar gyfer porthladdoedd y ffurf Harbors, &c.

Esiamplau o chwilio pwnc
CHWILIWCH Political issues
CHWILIWCH International relations
CHWILIWCH Labor unions


Enw rhyfel
Wrth fynegeio'r cartŵnau defnyddiwyd Library of Congress Authorities a Thesaurus for Graphic Materials I: Subject Terms (lctgm) Llyfrgell y Gyngres i reoli geirfa. Mynegewyd y cartwnau yn ôl enw rhyfel, lle'r oedd hynny'n berthnasol, ac wedyn yn ôl agwedd ar y rhyfel, lleoliad neu genedl.

Esiamplau o chwilio rhyfel
CHWILIWCH Vietnamese Conflict 1961-1975
CHWILIWCH World war 1939-1945 Military occupations France
CHWILIWCH Cold war Diplomacy American
CHWILIWCH Korean War 1950-1953 Seoul


Rhestr o enwau rhyfeloedd Library of Congress Authorities
http://authorities.loc.gov/
Rhestr o agweddau rhyfeloedd LCTGM
http://lcweb.loc.gov/rr/print/tgm1/app-c.html


Chwiliwch y cartwnau ar y gronfa ddata

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-09-2010