Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Arfau niwclear a'r ymgyrch ddiarfogi niwclear


 

Arfau niwclear a'r Blaid Lafur

 

Erbyn diwedd y pumdegau, yr oedd ymgyrch ddiarfogi niwclear unochrog o fewn y Blaid Lafur. Parhaodd yn bwnc llosg o fewn y blaid yn ystod y chwedegau hefyd fel y dengys y cartwnau isod.

Mae'r cartwnau yn dangos y dadleuon o fewn y Blaid Lafur rhwng aelodau CND fel Frank Cousins ac arweinwyr y blaid, Hugh Gaitskell, Harold Wilson a George Brown, a newid polisi'r blaid i dderbyn arfau niwclear yn y chwedegau.

 

 


ILW3151 (1 Mehefin 1960)

ILW3724 (15 Tachwedd1963)

ILW2978 (18 Mehefin 1959)

 

CND

 

Ddiwedd y pumdegau, wedi i Ffrainc, Prydain, yr Unol Daleithiau ac o bosib yr Undeb Sofietaidd brofi a datblygu arfau niwclear, yr oedd gofid y byddai rhyfel niwclear yn dechrau. Fel ymateb i ofid nifer fawr, ffurfiwyd Ymgyrch Ddiarfogi niwclear (CND) ym mis Chwefror 1958.

Nod y mudiad oedd ymgyrchu yn erbyn datblygu arfau niwclear, a hyrwyddo diarfogi. Fis Ebrill 1958 cynhaliodd CND orymdaith o Ganolfan Arfau niwclear Aldermaston i Lundain. Dros y blynyddoedd nesaf cynhaliwyd nifer o brotestiadau o'r fath.

Mae'r cartwnau hyn yn cyfeirio at yr orymdaith gyntaf o Aldermaston i Lundain fis Ebrill 1958, gofidiau rhai y byddai diarfogi unochrog yn gwanhau amddiffynfeydd Prydain yn ystod y Rhyfel Oer, a'r ddadl o fewn y Blaid Lafur am arfau niwclear.

 

 

ILW2855 (7 Ebrill 1958)
ILW2855 (7 Ebrill 1958)
ILW4520 (16 Hydref 1960)
ILW4520 (16 Hydref 1960)
ILW2977 (16 Mehefin 1969)
ILW2977 (16 Mehefin 1969)


Cysylltiadau Rhyngwladol

 

Yn ystod y Rhyfel Oer yr oedd y bygythiad o ymosodiad niwclear yn un go iawn, yn enwedig ar adegau pan oedd mwy o densiwn nag arfer rhwng gwledydd y gorllewin a'r dwyrain. Cyfeiria Illingworth at arfau niwclear o fewn y cyd-destun hwn mewn nifer o'i gartwnau.

Mae'r cartwnau hyn yn cyfeirio at gytundeb i ddiarfogi, a arwyddwyd gan yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd, ond yng nghyd-destun tensiwn rhyngddynt oherwydd argyfwng Berlin, ymdrech ryngwladol aflwyddiannus i atal Ffrainc rhag arbrofi arfau niwclear ym 1960 a bywyd yng nghysgod Hiroshima a Nagasaki.

 

 

ILW3721 (8 Tachwedd 1963)
ILW3721 (8 Tachwedd 1963)
ILW3779 (22 Ebrill 1964)
ILW3779 (22 Ebrill 1964)
ILW4507 (3 Ebrill 1960)
ILW4507 (3 Ebrill 1960)
ILW0994 (26 Hydref 1945)
ILW0994 (26 Hydref 1945)

 

Profi

 

Ar ôl defnyddio arfau niwclear am y tro cyntaf yn Japan, cynhaliwyd profion arfau pellach yn ystod y 1940au, 1950au a'r 1960au. Wrth i'r byd ddod yn fwy ymwybodol o beryglon yr oes niwclear profai'r Americanwyr eu harfau yn Bikini Atoll yn y Môr Tawel.

Cyfeiria'r cartwnau yma at brofi arfau niwclear yn Bikini Atol ac arbrofion niwclear Ffrainc ddechrau'r chwedegau, a hynny yn wyneb protestiadau rhyngwladol.

 

 

ILW2205 (29 Mawrth 1954)
ILW2205 (29 Mawrth 1954)
ILW1108 (1 Gorffennaf 1946)
ILW1108 (1 Gorffennaf 1946)
ILW1104 (20 Mehefin 1946)
ILW1104 (20 Mehefin 1946)
ILW4505 (28 Chwefror 1960)
ILW4505 (28 Chwefror 1960)

 

Uwchgynadleddau

 

Yn union ar ôl yr Ail Ryfel Byd prif bwnc trafod uwchgynadleddau rhyngwladol oedd yr Almaen a materion eraill yn ymwneud â'r rhyfel, ond erbyn y 1950au, y prif bwnc oedd arfau niwclear.

Cartwnau yn cyfeirio at uwchgynadleddau rhyngwladol.

 

 

ILW1117 (29 Gorffennaf 1946)
ILW1117 (29 Gorffennaf 1946)
ILW3625 (20 Chwefror 196)
ILW3625 (20 Chwefror 196)
ILW2420 (18 Chwefror 1955)
ILW2420 (18 Chwefror 1955)

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 23-05-2011