Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ethol Michael Foot
Ganed Michael Foot ym 1913, a safodd fel ymgeisydd y Blaid Lafur yn etholaeth Sir Fynwy ym 1935. Ym 1945, fe'i etholwyd yn aelod Seneddol dros Devonport, Plymouth ond collodd y sedd yn etholiad 1955. Yn dilyn marwolaeth Aneurin Bevan, daeth yn aelod seneddol dros Glyn Ebwy ym 1960, a ddaeth yn aelod gweithgar o'r Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear yn y 1960au.
Yr oedd yn arweinydd o'r Blaid Lafur rhwng 1980 a 1983.
Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio ato'n ennill sedd Glyn Ebwy ym 1960.
![]() ILW3245 (3 Tachwedd 1960) |
Boddi Capel Celyn
Ym 1956 cyhoeddodd Corfforaeth Lerpwl gynllun i foddi 800 erw o dir, pentref ac ysgol Capel Celyn ger y Bala, er mwyn creu Cronfa Ddŵr Tryweryn. Cafwyd protestiadau ffyrnig yn erbyn y cynllun am flynyddoedd, gan gynnwys adeg pan orymdeithiodd 70 o bentrefwyr Capel Celyn trwy ddinas Lerpwl i ddangos eu gwrthwynebiad. Er gwaethaf hyn i gyd, pasiwyd Deddf Corfforaeth Lerpwl yn caniatáu boddi'r cwm ym 1957, ac yn 1965, wedi symud y pentref, agorwyd Cronfa Ddŵr Tryweryn yn swyddogol.
Mae'r cartŵn yn cyfeirio at yr agoriad swyddogol ym 1965.
![]() ILW3951 (23 Hydref 1965) |
Sefydlu BBC Cymru
Derbyniodd Cymru wasanaeth deledu am y tro cyntaf ym 1949 o drosglwyddydd yn Sutton Coldfield. Agorwyd y trosglwyddydd cyntaf yng Nghymru yng Ngwenfô ym 1952. Dyna pryd fynnodd Megan Lloyd George y dylai Cymru cael gwasanaeth teledu ar wahân i Loegr er mwyn darlledu rhaglenni yn y Gymraeg. Darlledwyd y rhaglen deledu gyntaf yn y Gymraeg o Gapel y Bedyddwyr, Caerdydd, ym 1953, ond ni sefydlwyd BBC Cymru tan 1964. Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at benodi Llywodraethwr cyntaf BBC Cymru.

Aberfan
Ar 21 Hydref 1966, lladdwyd 144 o bobl, gan gynnwys 116 o blant ysgol, mewn trychineb yn Aberfan, Sir Forgannwg. Tua chwarter wedi naw'r bore llithrodd tomen o wastraff glo gan gladdu ysgol y pentref a deuddeg o dai. Cynhaliwyd ymchwiliad i'r trychineb, a rhoddwyd y bai ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol am beidio â rheoli uchder y domen, ac am anwybyddu rhybuddion. Beirniadwyd rhai swyddogion o'r Bwrdd Glo a'r cadeirydd, yr Arglwydd Robens yn benodol. Gwrthodwyd ei gynnig i ymddiswyddo, ac arhosodd fel pennaeth y Bwrdd tan 1971.
Ceir mwy o wybodaeth am drychineb Aberfan ar wefan Prosiect Aberfan Coleg Nuffield, Prifysgol Rhydychen.
Diweithdra
Yr oedd y 1940au yn dilyn yr Ail Rhyfel Byd yn gyfnod o lymder. Newidiwyd y cynllun Les-Fenthyg, a bu'n rhaid i Brydain dalu'r ddyled yn ôl i'r Unol Daleithiau. O ganlyniad yr oedd prinder bwyd, cwrw a dillad yn gyffredin. Erbyn dechrau 1947 yr oedd 1.75 miliwn o ddynion allan o waith. Teimlwyd effaith y diweithdra hwn yn yr ardaloedd diwydiannol, yn arbennig yng nghymoedd y de. Mae'r cartŵn hwn yn cyfeirio at y diweithdra yn ne Cymru ynghyd â phroblemau eraill a wynebodd y llywodraeth, fel sgwatwyr yn cymryd drosodd y Brydain newydd.
