Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn y cyfnod rhwng 1945 a 1969, gwelwyd twf aruthrol yn economi Prydain. Yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 1959, dywedodd y Prif Weinidog, Harold Macmillan 'You've never had it so good', ond yr oedd hi'n amser anodd i ddiwydiant a gweithwyr. Yr oedd yn rhaid creu nwyddau i ddiwydiant eu hallforio i dalu dyledion rhyfel, ac ar ôl ymladd a gweithio dan amodau anodd trwy'r rhyfel, mynnodd y dosbarth gweithiol gael bargen well a chyflog uwch.
Nid oedd y Daily Mail yn cydymdeimlo â streicwyr, a bortreadwyd fel pobl hunanol a oedd yn fodlon creu anghyfleustra i bawb arall er hunan les. Darluniodd Illingworth bob math o streic, yn cynnwys streiciau glo, rheilffordd, a'r docwyr yn arbennig. Portreodd nifer o arweinwyr yr undebau llafur, a thalodd sylw arbennig i gyflwr yr economi yn gyffredinol, Cynulliad yr Undebau Llafur (TUC), byd busnes, a'r berthynas rhwng y Blaid Lafur a'r undebau.
Cartwnau sy'n ymwneud â streiciau
Cartŵn yn cyfeirio at streic rheilffordd
![]() ILW2407 (30 Ionawr 1955) |
Cartwnau yn cyfeirio at streic y glowyr, streic gan fenywod yn ffatri Ford yn Halewood, streic y dociau, a'r siop gaeedig.



Yr economi
Cartwnau yn rhoi sylw i gyflwr economi Prydain, rhagolwg llywodraethwr Banc Lloegr ar gyflwr yr economi ac ar y cynigion i gyfuno cwmnïau yn y cyfryngau.



Llafur a'r undebau
Cartwnau yn cyfeirio at y berthynas rhwng y Blaid Lafur a'r undebau yn y 1940au a'r 1960au.



TUC
Mae Illingworth yn portreadu'r undebau yn anghyfrifol yn y cartwnau hyn.


Masnach
Cartwnau yn cyfeirio at broblemau llafur ym Mhrydain wedi'r rhyfel yng nghydestun cystadleuaeth o'r Unol Daleithiau a Siapan.


Arweinwyr undebau
Richard Greene, 1910-, Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd (NUR) 1957-1975

George Woodcock, 1904-1979, Ysgrifennydd Cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur 1960-1969
