Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Bywyd bob dydd ym Mhrydain


 

Yn gymdeithasol, yr oedd y cyfnod rhwng diwedd yr Ail Ryfel Byd a diwedd y 1960au yn un chwyldroadol ym Mhrydain. Yr oedd y pum mlynedd yn dilyn y rhyfel yn rhai llwm. Dognwyd bwyd, tanwydd, dillad a phob math o nwyddau bob dydd oherwydd prinder nwyddau a gweithwyr i'w cynhyrchu, a'r angen am dalu dyledion rhyfel y wlad. Erbyn canol y 1950au yr oedd y sefyllfa wedi gwella. Roedd cyflogau wedi codi, ac am y tro cyntaf yr oedd gan bobl arian i brynu pethau heblaw am yr angenrheidiol: nwyddau moethus, offer ar gyfer y tŷ, a cheir. Adlewyrcha Illingworth y cyfoeth newydd yn rhai o'i gartwnau o'r cyfnod.

Yr oedd nifer o'r newidiadau a welwyd yn deillio yn uniongyrchol o'r rhyfel. Cafodd llawer o fenywod flas ar weithio, ac nid oeddent, o reidrwydd, yn barod i aros gartref wedi i'r dynion ddychwelyd o faes y gad. Erbyn 1961 yr oedd treian weithlu Prydain yn fenywod, a chawsant fwy o ryddid gyda deddfau newydd ynglŷn ag ysgaru, a dyfodiad y bilsen atal cenhedlu.

Yr oedd y cyfnod yn un o newid o ran ffasiwn. Â'r farchnad dillad wedi'i rheoli gan docynnau dogni er mwyn cadw prisiau nwyddau prin i lawr nid oedd hi'n bosib i'r diwydiant ddatblygu. Ond wedi i'r dogni dod i ben, gwelwyd amrywiaeth ryfeddol o ddillad lliwgar mewn steiliau gwahanol ar y farchnad.

Yr oedd cymdeithas y 1960au yn wahanol iawn i'r gymdeithas bum mlynedd ar hugain ynghynt.

 

Bywyd teuluol

 

Cartwnau yn dangos y drefn ddomestig, menywod yn gwneud gwaith tŷ, menywod yn delio â pheiriannau newydd, a menywod yn mynd allan i weithio.

 

 


ILW2628 (17 Mai 1956)

ILW2431 (22 Mawrth 1965)

ILW1869 (16 Mehefin 1961)

ILW3278 (11 Ionawr 1961)

 

Dogni a siopa

 

Cartwnau yn dangos bywyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, diffyg bwyd a dogni. Menywod yn ciwio tu allan i siop, dathlu wedi diwedd dogni, trafferthion prynu dillad yn oes y llymder, a dicter fod prinder yn parhau.

 

 

ILW1506 (12 Hydref 1948)
ILW1506 (12 Hydref 1948)
ILW2128 (4 Tachwedd 1953)
ILW2128 (4 Tachwedd 1953)
ILW1005 (27 Tachwedd 1945)
ILW1005 (27 Tachwedd 1945)
ILW1109 (2 Gorffennaf 1946)
ILW1109 (2 Gorffennaf 1946)

 

Prynwriaeth

 

Cartŵnau yn cyfeirio at gyfoeth cyffredinol yn y 1950au, a'r ffaith bod rhyfelau bellach rhwng cwmnïau yn hytrach na gwledydd er mwyn ennill cwsmeriaid.

 

 

ILW3403 (5 Medi 1961)
ILW3403 (5 Medi 1961)
ILW2947 (8 Ebrill 1959)
ILW2947 (8 Ebrill 1959)

 

Dillad a ffasiwn

 

Cartwnau yn dangos y newid mewn ffasiwn o "make do and mend" ar ôl yr Ail Ryfel Byd i wisg fwy diddorol, yn ogystal â phrisiau uchel oherwydd diffyg ffabrig.

 

 

ILW1554 (19 Ionawr 1949)
ILW1554 (19 Ionawr 1949)
ILW4352 (ca. 1955)
ILW4352 (ca. 1955)
ILW1649 (6 Medi 1949)
ILW1649 (6 Medi 1949)

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 04-08-2010