Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Argraffwyd cartŵn cyntaf Illingworth yn y Daily Mail ym mis Tachwedd 1939, ychydig wythnosau ar ôl dechrau'r rhyfel. Mae ei gartwnau o'r cyfnod a hyd at 1945 yn cyfeirio yn bennaf at y rhyfel, ac yn adrodd stori'r brwydrau a'r gwrthdaro gwleidyddol y tu ôl iddynt yn fanwl iawn. Caiff 'Brwydr Prydain', bomio Pearl Harbor, cwymp Ffrainc, y brwydrau yng ngogledd Affrica, Stalingrad, a'r frwydr i ryddhau Yr Eidal a Ffrainc sylw neilltuol
Pwrpas llawer o'r cartwnau oedd codi calon Prydain, trwy ddangos Hitler yn crynu gan ofn a dathlu buddugoliaethau'r cynghreiriaid. Ond yr oedd, hefyd, yn barod i dynnu sylw at wendidau Prydain, yn arbennig yn dilyn colli tir yn y Dwyrain Pell oherwydd diffygion yn amddiffyniadau'r awyr. Mae cymeriadau'r rhyfel yn bwysig yn y cartwnau. Portreedir Hitler, Mussolini a Franco fel cachgwn, Ffrainc fel carcharor, a Churchill fel arwr dewr, wastad ar flaen y gad yn arwain y fyddin. Mae Montgomery, Stalin a Goebbels hefyd yn gymeriadau amlwg yn y cartwnau.
Yr Eidal
Cartwnau yn cyfeirio at gwymp Rhufain ym 1944, a'r Cynghreiriaid yn glanio yn Anzio.
![]() ILW0729 (29 Mai 1944) |
![]() ILW0671 (24 Ionawr 1944) |
Ffrainc
Cartwnau yn cyfeirio at gwymp Ffrainc ym 1940, cynnydd y cynghreiriaid ar draws Ewrop ym 1944, a'r perthynas rhwng Ffranc a Phrydain yn ystod y rhyfel.




Yr Almaen
Cartwnau yn trafod propaganda'r Almaen, ac effaith y bomio ar ddiwydiant yr Almaen ac ysbryd y bobl.




Pearl Harbor
Cartwnau yn trafod ymosodiadau ar yr Unol Daleithiau, ac yn proffwydo dial ar Siapan a'r Almaen.


Y rhyfel yn yr awyr
Cartwnau yn tynnu sylw at lwyddiant y RAF yn y rhyfel yn yr awyr.



Y rhyfel ar y môr
Cartwnau yn dangos defnydd y cynghreiriaid o lyngesau gosgordd i warchod llwybrau Môr yr Iwerydd.

Y Dwyrain Pell
Cyhoeddwyd y cartwnau hyn wedi cwymp Singapore.


Y cynghreiriaid
Cartwnau yn cyfeirio at y cynghreiriaid, yn dangos Prydain, Yr Unol Daleithiau a Phrydain yn cyd-weithio, ysbryd o obaith wedi cwymp Mussolini, a buddugoliaethau'r Sofietiaid yn y Ffindir.



Buddugoliaeth
Cartwnau yn cyfeirio at fuddugoliaethau'r Almaenwyr yn gynnar yn y rhyfel, buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn Berlin, ac wedyn yn y dwyrain pell.




Propaganda
Cartwnau yn cyfeirio at lwyddiant ymgyrchoedd bomio'r RAF yn yr Almaen, ymdrechion Goebbels i ddarlledu propaganda cadarnhaol i'r Almaen yn ystod y rhyfela yn erbyn y Sofietiaid, a darganfod bedd milwyr Gwlad Pwyl.



Yr holocost
Cyhoeddwyd y cartŵn hwn tua diwedd y rhyfel yn Ewrop pan oedd graddfa'r holocost yn dechrau dod i'r golwg.

Uwchgynadleddau
Dau gartŵn a gyhoeddwyd ar ddiwedd y rhyfel sy'n dangos yr her a wynebodd y cynghreiriaid.


Cymeriadau'r rhyfel
Monty
1887-1976
Gwasanaethodd Bernard Montgomery gyda chlod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac ar ôl dianc o Dunkirk, fe ddaeth yn gadlywydd yr Eighth Army ym 1942, ac roedd yn gyfrifol am atal cynnydd y Natsïaid yng ngogledd Affrica, gan wthio lluoedd Rommel yn ôl ym Mrwydr El Alamein ym mis Tachwedd y flwyddyn honno. Ef oedd arweinydd yr ymosodiad ar Sicily ym mis Medi 1943. Penodwyd yn bennaeth y Second Army ac yn gadlywydd lluoedd y tir yn yr ymosodiad ar Ewrop ym 1944. Wedi'r rhyfel, fe'i penodwyd yn Brif Gadlywydd y fyddin oresgynnol.

Goebbels
1897-1945
Etholwyd Goebbels i'r Reichstag ym 1929, ac yn fuan wedyn daeth yn gyfrifol am bropaganda'r Natsïaid. Yn ystod y rhyfel, cynyddodd casineb tuag at y Cynghreiriaid, ond nid oedd ganddo lawer o barch tuag ar arweinwyr eraill y Natsïaid. Lladdodd ei hun cyn diwedd y rhyfel ym 1945.

Hitler
1887-1945
Ganwyd Hitler yn Awstria, ond gwirfoddolodd i Fyddin yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Wedi'r rhyfel daeth syniadau asgell dde Hitler yn fwy poblogaidd, ac ym 1921 fe ddaeth yn arweinydd y NASDP, a adnabyddid yn ddiweddarach fel plaid y Natsïaid. Penodwyd ef yn Ganghellor ym 1933, gan gychwyn ar bolisi lebenstraum, sef ehangu ffiniau'r Almaen. Torrodd yr Ail Ryfel Byd allan o ganlyniad i'w ymosodiad ar Wlad Pwyl ym 1939, ac am y ddwy flynedd nesaf, llwyddodd ei fyddin feddiannu nifer o wledydd yng nghanoldir Ewrop. Lladdodd Hitler ei hun cyn i'r Cynghreiriaid gyrraedd Berlin ar ddiwedd y rhyfel ym 1945.



Hideki Tojo
1884-1948
Daeth Hideki Tojo yn Brif Weinidog Siapan ym mis Hydref 1941, ar ôl gwasanaethu fel Gweinidog Rhyfel. Ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf 1944 pan sylwodd nad oedd gobaith i Siapan ennill y rhyfel. Dienyddiwyd ef fel troseddwr rhyfel ym 1948.

Lluoedd arfau Siapan yn cyraedd New Guinea ar 23 Ionawr
Mussolini
1883-1945
Penodwyd Benito Mussolini yn Brif Weinidog yr Eidal gan y Brenin Victor Emmanuel III wedi terfysgoedd a drefnwyd ganddo. Daeth yr Eidal yn wladwriaeth un blaid ym 1929, ac arwyddodd Mussolini gytundeb â Hitler ym 1936. Daeth yr Eidal i mewn i'r Ail Ryfel Byd ym mis Mehefin 1940, ond cwympodd Sicily i'r Cynghreiriaid ym mis Gorffennaf 1943. Diswyddwyd Mussolini gan Victor Emmanuel ym mis Awst, a chafodd ei arestio. Wedi dianc o'r carchar gyda chymorth Hitler, daeth yn bennaeth gwladwriaeth ffasgaidd gogledd yr Eidal mewn ardal o dan reolaeth byddin yr Almaen. Ceisiodd ddianc i'r Swistir wrth i'r Cynghreiriaid agosáu, ond fe'i saethwyd yn farw gan bleidwyr yr Eidal.

