Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Affrica a dadwladychu


 

Bu'r cyfnod wedi'r Ail Ryfel Byd yn gyfnod o newid ar gyfandir Affrica. Wedi caniatáu annibyniaeth i India a Phakistan, hawliodd gwledydd ymerodraethau Prydain a Ffrainc eu hannibyniaeth.

Daeth Ghana yn annibynnol ym 1957 gyda Kwame Nkrumah yn Brif Weinidog. Enillodd llu o wledydd eu hannibyniaeth yn y 15 mlynedd nesaf. Tynnodd y Prif Weinidog Harold Macmillan sylw at yr ysbryd newydd yn Affrica mewn araith fis Chwefror 1960, gan sôn am 'Wind of change'

Ond ni fu'r ddegawd yn gyfnod hawdd ar y cyfandir. Gwelwyd gwrthryfela gwaedlyd yn Algeria cyn annibyniaeth, Katanga yn datgan annibyniaeth o Gongo, cyflwynwyd apartheid yn Ne Affrica, ac yn 1965 sefydlwyd llywodraeth gan y lleiafrif gwyn yn Rhodesia.

Apartheid yn Ne Affrica

 

Cartwnau'n cyfeirio at y system apartheid yn Ne Affrica. Chwith, y prif weinidog Hendrik Verwoerd, ymateb Illingworth i gyflafan Sharpeville fis Mawrth 1960, a'i ymateb i lofruddiaeth Verwoerd ar 6 Medi 1966.

 

 


ILW3312 (15 Mawrth 1961)

ILW3105 (23 Mawrth 1960)

ILW3112 (1 Ebrill 1960)

ILW4018 (7 Medi 1966)

 

Rhodesia

Cartwnau'n cyfeirio at lywodraeth gan leiafrif gwyn y prif weinidog Ian Smith. Chwith, ymateb Illingworth i sancsiynau yn erbyn Rhodesia, trafodaethau rhwng Brif Weinidog Prydain, Harold Wilson, a Phrif Weinidog Rhodesia, Ian Smith, a datganiad unochrog annibyniaeth Rhodesia.

 

 

ILW4100 (30 Mehefin 1957)
ILW4100 (30 Mehefin 1957)
ILW3957 (3 Medi 1965)
ILW3957 (3 Medi 1965)
ILW4219 (14 Hydref 1968)
ILW4219 (14 Hydref 1968)
ILW3945 (4 Hydref 1965)
ILW3945 (4 Hydref 1965)

 

Mau Mau

 

Cartwnau yn cyfeirio at wrthryfel y Mau Mau yn Kenya.

 

 

ILW2178 (22 Chwefror 1964)
ILW2178 (22 Chwefror 1964)
ILW2003 (22 Hydref 1962)
ILW2003 (22 Hydref 1962)

 

 

Dadwladychu

 

Chwith, y galwadau am hunan lywodraeth, problemau yn wynebu Prydain a Ffrainc wrth iddynt amddiffyn diddordebau'r gwladychwyr, gofidion am aflonyddwch sifil, a rhyddhau Hastings Banda, a ddaeth yn ddiweddarach yn arlywydd Malawi, o'r carchar.

 

 

ILW2930 (24 Chwefror 1959)
ILW2930 (24 Chwefror 1959)
ILW3081 (25 Ionawr 1960)
ILW3081 (25 Ionawr 1960)
ILW3122 (11 Ebrill 1960)
ILW3122 (11 Ebrill 1960)
ILW3079 (18 Ionawr 1960)
ILW3079 (18 Ionawr 1960)

 

 

Congo

 

Cartŵn yn cyfeirio at ymdrechion y Cenhedloedd Unedig i atal rhyfel cartref yng Nghongo.

 

 

ILW3199 (25 Awst 1960)
ILW3199 (25 Awst 1960)

 

Algeria

 

Cartwnau yn cyfeirio at y rhyfel cartref yn Algeria a arweiniodd at annibyniaeth.

 

 

ILW3465 (22 Ionawr 1962)
ILW3465 (22 Ionawr 1962)
ILW3262 (12 Rhagfyr 1960)
ILW3262 (12 Rhagfyr 1960)

 

Ceir mwy o wybodaeth am hanes Affrica ar wefan BBC Gwasanaeth y byd

Chwiliwch y cartwnau ar y catalog e-Adnoddau

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-09-2010